I bobol ardal Y Cardi Bach, mae Gruffudd hefyd yn gyfarwydd am ei waith fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn i Fenter Taf Myrddin. Prin iawn yw amser sb芒r Gruffudd Ifan, ond fe ges i gyfle i gael sgwrs gydag e yn ystod seibiant o'i ffilmio."Dwi 'di chwarae rhan Robert Dilwyn ers dwy flynedd" meddai Gruffudd wrtha'i. "Ges i wrandawiad yng ngwanwyn 2001, ac er na ges i'r rhan wnes i gynnig amdani, cefais gynnig rhan Robert Dilwyn. Fel mae pethau wedi troi mas, mae'n well rhan na'r un wnes i fynd amdani yn y lle cynta"
Erbyn hyn, mae Gruffudd yn gweithio gyda rhai o actorion enwocaf Cymru. "Roedd hynny'n deimlad annifyr ar y dechrau," meddai Gruffudd wrth edrych no么, "Ond ron nhw'n neis iawn ac roedd Gillian Elisa (sy'n chwarae rhan Sabrina, mam Robert Dilwyn) ym gr锚t. Wnaeth hi fy helpu i ddysgu'n linellau, egluro'r termau technegol wrth ffilmio a fy helpu i setlo mewn yn gyffredinol.
Nid dymar tro cynta i Gruffudd actio ar y teledu. Fe ymddangosodd hefyd yn y ddrama Y Palmant Aur, ond mae ei ddiddordeb mewn actio yn mynd yn bellach yn 么l i'r cyfnod pan roedd yn yr ysgol, yn actio'r prif rannau yn nifer o gynyrchiadaur ysgol a gyda chwmn茂au theatr lleol. Erbyn hyn mae e'n derbyn nifer o sgriptiau gafaelgar yng Nghwmderi.
"Dwi'n mwynhau'r sgriptiau lle mae Robert Dilwyn yn gyfeiliornus a tamaid bach yn slei," meddai Gruffudd gan wenu. "Mae e'n fwy o sbort i actio cymeriad fel 'na nag yw e i actio cymeriad sy'n rhy neis!"
Ac yntau yn wyneb mor gyfarwydd, mae'n anodd weithiau i bobol wahaniaethu rhwng y bachgen o Efailwen a'r crwt o Gwmderi. "Dwi wedi cael fy stopio ar y stryd cyn hyn," meddai Gruffudd gan chwerthin. "Unwaith, daeth menyw mewn oed lan ata i a dweud wrtha i'n grac ei bod hi'n gwybod beth o'dd mlaen 'da fi! Meddwl taw Robert Dilwyn o'n i wnaeth hi. Ro'dd hwnna'n eitha doniol!"
Nid dawn actio yn unig sydd gan Gruffudd. Mae e hefyd yn chwarae'r drymiau i'r grwp Texas Radio Band, ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'r haf yn recordio albwm newydd fydd yn cael ei rhyddhau cyn hir. Mae 'na gynlluniau hefyd i ddychwelyd i'r stiwdio i recordio mwy o ganeuon cyn hir. "Mae sawl gig wedi eu trefnu 'da ni" meddai Gruffudd. "A phan bydd yr albwm yn cael ei rhyddhau, fe fyddwn ni'n teithio o amgylch Cymru i'w hyrwyddo, felly cadwch lygad mas amdanom ni!"
Er ei fod bellach wedi symud i Gaerdydd, bu Gruffudd yn gweithio i Fenter T芒f Myrddin fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn am gyfnod. "Wnes i fwynhau gweithio ar y Prosiect," meddai. "Mae'r ymateb i weithgareddau fel dathliadau Gwyl Dewi a'r jambori gyda Martyn Geraint yn dangos pa mor llwyddiannus mae'r Prosiect wedi bod."
Ond erbyn hyn wedi ymgartrefu yn y brifddinas, mae'n benderfynol o wneud y gorau o bob cyfle ym myd actio."Dwi'n teimlo'n drist i ardal y Prosiect yn Hendy-gwyn," meddai, "Ond nawr yw'r amser i weld os yw hi'n bosib i fi wneud gyrfa fel actor, ac ma' rhaid i fi fod yng Nghaerdydd i wneud hynny'n llwyddiannus. Ond er 'mod i'n symud i Gaerdydd, rwy'n gobeithio y galla'i helpu Prosiect Hendy-gwyn yn y dyfodol," meddai Gruffudd.
Dymunwn yn dda i Gruffudd wrth iddo geisio gwneud ei farc mewn byd cystadleuol dros ben, a gobeithio y gwelwn llawer mwy ohono ar ein sgrin deledu yn y dyfodol. A phwy 芒 wyr, efallai y byddwn ni'n gweld Gruffudd Ifan yn rhoi'r gorau i stryd fawr Cwmderi am boulevards Hollywood rhywbryd yn y dyfodol. Gwell i Ioan Gruffudd a Rhys Ifans ddechrau edrych dros eu 'sgwyddau.... !