Ar Ddydd Sul y 26ain o Dachwedd 2006 am 1.30yp cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu canmlwyddiant a hanner Eglwys Annibynnol Penybont. Llywyddwyd y cyfarfod gan weinidog yr eglwys y Parchedig Ddr. Felix Elfed Aubel.
Roedd y capel yn llawn gyda llu o bobl o bell ac agos wedi gwneud yr ymdrech i fynychu'r dathliadau. Roedd thema Nadoligaidd yn amlwg yn y gweithgareddau gyda'r capel wedi ei addurno fel yn yr oesoedd a fu. Wedi gair o groeso gan y gweinidog gofynnwyd i'r gynulleidfa godi am funud o dawelwch er cof am rhai oedd wedi gwneud cymaint dros hyrwyddo'r Eglwys ar hyd y blynyddoedd. Fel arwydd gweledig o ddiolchgarwch i rhain, cyflawnodd Dr. Aubel y weithred symbolaidd o gynnu cannwyll gyda thair fflam, un i bob hanner canrif yn hanes y capel ac hefyd un fflam i'r gorffennol, un i'r presennol ac un i'r dyfodol.
Wedi'r digwyddiad arwyddocaol hyn, cafwyd anerchiad Dr. Aubel oedd yn olrhain hanes y capel o'r dyddiau cynnar hyd heddiw. Yna galwyd ar Mr Emlyn Morris, Trewrda fach, sef aelod hynaf y capel oedd yn bresennol, i dorri 'Cacen y Dathlu'.
Y bobl ifanc a'r plant oedd yn gyfrifol am ail hanner y dathlu; eu thema oedd 'Dathliadau Nadolig 1856', sef cyfnod adeiladu Capel Penybont. Pwysleisiwyd mai "G诺yl sy'n edrych ar yfory yw'r Nadolig; g诺yl sy'n dathlu bywyd newydd, y rhodd mwyaf un".
Gwahoddwyd pawb i barhau y dathlu yn festri'r capel oedd wedi ei addurno yn hardd ac yn arddangos cannoedd o luniau yn ymwneud 芒 hanes y capel. Ymhlith y them芒u amrywiol a ddewiswyd oedd, "Gweinidogion Capel Penybont", "Y Ffyddloniaid ar hyd y blynyddoedd", ac "Enwogion 芒 chysylltiad 芒'r Capel", yn cynnwys
darlun enfawr o Elfed a fenthycwyd o'r Gangell.
Paratowyd te arbennig gan wragedd y capel yng Nghanolfan Gymdeithasol Penybont, lle hefyd gwerthwyd crochenwaith y dathlu a wnaethpwyd gan Crochendy Talog. Mae'r crochenwaith ar gael trwy law Mr. Hugh Davies (01994 484 351).
Yn ogystal cyhoeddir llyfr ar hanes Capel Penybont 1856 - 2006 eleni. Ymholiadau i Meryl Jones (07967 927813) neu Mrs Una Williams (01994 484372).
I grynhoi diwrnod byth gofiadwy yn hanes capel Penybont gallwn gydseinio gyda geiriau olaf salm 105:
"Fy enaid, bendithia'r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd".
|