Roedd diddordeb gan John mewn hedfan/awyrennau ers yn blentyn; bu'n meddwl ymuno 芒'r Llu Awyr ond mynd yn athro a wnaeth (dysgu gwaith coed/metel ac arlunio technegol.) Un mlynedd ar ddeg yn 么l cafodd anrheg Nadolig gan y teulu, sef tocyn i hedfan am hanner awr mewn awyren fach, o Hwlffordd ( Maes Awyr Llwynhelyg) a dyma pryd y cafodd yr ysfa a'r penderfyniad i ddysgu hedfan. Cafodd gwrs o ryw 45 awr yn Hwlffordd. Yr hyfforddwr oedd Capt. Gwyndaf Williams o Lechryd a fu'n ddisgybl iddo! Roedd y cwrs yn cynnwys (a bod yn llwyddiannus) mewn arholiadau yn ymwneud 芒 phob math o bynciau technolegol ym myd hedfan awyrennau. Cafodd drwydded hedfan (P.P.L. - Private Pilot's Licence) yng Nghwanwyn 1993. Bu'n hedfan yn rheolaidd wedyn, mor bell 芒 Chaerdydd, Abertawe, Trallwng, Shobdon (ger Leominster). Yn 1999 penderfynodd John adeiladu awyren ei hunan gan ystyried rhyw dair awyren - Europa (UK); Zodiac (Canada) a Jabiru (Awstralia) . Aeth allan i Awstraliai ymweld 芒i fab, Hedd oedd yn gweithio yno ar y pryd. Ymwelodd 芒r ffatri yn Bundaberry a phenderfynu archebu cit JABIRU, dwy sedd. Mae Jabiru yn enw ar aderyn mawr yng ngogledd Awstralia ac ar bentref yn yr ardal hefyd. Cyrhaeddodd y cit Aberteifi ar lori, mewn tri bocs mawr. Dechreuodd adeiladu bedair blynedd yn 么l ond araf iawn oedd y gwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf gan ei fod yn Ddirprwy faer ac wedyn yn faer y Dref (dim amser i ddim!); hefyd gwath fel Cynghorydd Sir a Chyngor y Dref. Felly dim ond dwy flynedd i adeiladu o ddifrif. Roedd allan bron bob bore yn y garej am tua 5.30 a chael llonydd i weithio am dair neu bedair awr. Roedd pob cam o'r adeiladu yn cael ei arolygu gan arolygydd o Hwlffordd. Cwblhaodd yr adeiladu yn ystod yr haf eleni a symudwyd yr awyren mewn lori i Faes Awyr Hwlffordd lle cafodd 5 - 8 awr o brofion cyn cael trwydded lawn oddi wrth y C.C.A (Civil Aviation Authority) a chael yr hawl i hedfan i rywle yn y byd; mae'n rhaid cael caniatad cyn disgyn mewn rhai gwledydd. Ei uchelgais, blwyddyn nesaf gobeithio, yw hedfan i dref ynghanol Ffrainc o'r enw Brioude - tref sydd wedi gefeillio ag Aberteifi; mae rhodfa glanio porfa yno. Mae awyren Jabiru yn eistedd dau berson; mae'r injan 80 H.P. yn debyg i injan V.W. Beetle. Y cyflymdra yw tua 100 milltir yr awr, yn defnyddio tanwydd diblwm (rhyw 2 a hanner galwyn yr awr). Mae corff yr awyren wedi ei wneud o fibreglass a gall hedfan i fyny at 12,000 troedfedd o uchder ! Ar hyn o bryd, mae'n cadw'r awyren ym Maes Awyr Hwlffordd. Mae John wedi mwynhau'r profiad o'i hadeiladu ac os byw ac iach, mae'n gobeithio adeiladu un arall, efallai un yn eistedd 4 person, o aliwminiwm. Cofrestriad yr awyren yw G-T JAL.
|