Cychwynodd y daith ger addolfan Sant Cymru yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, gyda negeseuon o'r Gadeirlan a Chyngor y Ddinas.
Cafodd rhain eu trosglwyddo i Ganolfan Hywel Dda yn Hendygwyn, gan yr Athletwraig Ryngwladol Gymreig, Heather Jones lle, yn 么l traddodiad, cynhaliwyd y Senedd Gymraeg gyntaf gan y Brenin Hywel Dda yn y 10fed ganrif.
Croesawyd y gynrychiolaeth, o dan arweiniad y Dr. John Davies, gan Gadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Hywel Dda, Y Cynghorwr Sir. Roy Llewellyn.
Bu Maer Hendygwyn, Y Cynghorwr Conwil Harries, yn darllen y negeseuon yma ynghyd 芒 chyfarchion oddi wrth tref Hendygwyn, cyn rhoi'r memrwn i ddau athletwr rhyngwladol Cymreig (disgyblion yn Ysgol Gyfun Dyffryn Taf) - Emily Mitchell a Nick Jones, i fynd ymhellach, i Gaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd.
Cwblhawyd y rhan olaf gan athletwr rhyngwladol Cymreig, yr adnabyddus Jamie Balch, cyn cyflwyno'r negeseuon i gyd i'r Llywydd Swyddogol, Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, yn y Senedd.
Cyn i'r athletwyr barhau ar eu taith, bu disgyblion Ysgol Gynradd Hendygwyn, yn eu gwisgoedd Cymreig, yn canu yng Nghanolfan Hywel Dda.
|