Digwyddodd Richard gwrdd 芒 Moses Karpire yn Kenya a dod ar draws uchelgais cyffredinol rhwng y ddau. Maent yn cyd weithio gan ffurfio cyfeillgarwch, cyfnewid ymweliadau a dysgu am eu gwahanol gefndir, traddodiadau a deallgarwch.
Gobeithiant sefydlu cysylltiadau a ddaw i sylw'r Cynulliad, i ffurfio dolen gyswllt rhwng Cymru ag Affrica er mwyn tynnu sylw at y tlodi, trwy gyfrwng Datblygiad y Mileniwm i gael gwared ar y tlodi yn y wlad honno.
Bu ateb i'r Ap锚l yn fwy o lawer na disgwyliadau Richard ac mae wedi medru hedfan i Kenya i drosglwyddo 140kg o'r dillad ymarfer a gyfrannwyd gan bobl y fro lle mae'n byw yn Sir Forgannwg.
Dyma grynodeb o'i brofiadau yn Kenya, yng ngwersyll ymarfer Moses.
"Rwy'n paratoi ar gyfer cael ychydig o gwsg (yn fy nillad) yng Ngwesty Shabyville yn nhref Kukura, gogledd-orllewin Kenya. Ddoe, cefais gynnig cwpanaid o laeth gafr! Does dim adnoddau yma - rwy'n ysu am gael 'cawod' a newid fy nillad - dim d诺r, dim drych a dim trydan. Er hyn, rwy'n bwriadu dod n么l i Kenya am ddau reswm. Yn gyntaf i drosglwyddo'r gwisgoedd trac a'r
sgidiau i'r athletwyr yn y gwersyll ymarfer, yn Eldoret.
Mae'r athletwyr yn anfon eu diolch a'u gwerthfawrogiad i bawb a wnaeth hyn yn bosib. Gellir dilyn eu datblygiad ar y We (www.redshoesltd.com) Yn ail, roeddwn am drosglwyddo 140kg o'r 'kit' ail law a roddwyd i'r prosiect gan drigolion y Cymoedd. Neithiwr aethom o Nairobi (yn erbyn cynghorion i beidio gyrru yn ystod y nos oherwydd bod brodorion y Mungiki yn beryglus ac yn lladd) cawsom law trwm nes gwneud y trac i Eldoret fel afon!
Beth bynnag daeth toriad gwawr a llu o blant yn gadael eu cartrefi i gerdded y daith hir i'r ysgol. Roedd llawer ohonynt yn droednoeth, felly dyma ni'n agor y bocsus gan gyflwyno tua 100 p芒r o esgidiau iddynt ac i'w rhieni troednoeth ar 么l ceisio sychu eu traed mwdlyd.
Gwelsom olygfa debyg am y daith o 200km ond nid oedd gennym ragor i'w gynnig. Diolchwyd inni gan y plant a'r oedolion a dderbyniodd esgidiau, gyda'r geiriau "Diolch i chwi a boed i chwi gael eich bendithio."
Ym mis Awst, byddwn yn dychwelyd i ddechrau prosiect unigryw o adeiladu ysgol gynradd, mewn pentref ar y Masai Mara - lle mae 76 o blant bach yn cael eu dysgu ar hyn o bryd mewn caban cyntefig, sy'n gollwng d诺r yn y gaeaf ac yn grasboeth yn yr haf. Adeiladir yr ysgol gan wirfoddolwyr gyda'r gobaith o ffurfio cysylltiad gyda'r gymuned yn y pentref.
Mae brodorion y MASAI yn enwog am eu balchder yn eu harferion a'u traddodiadau, mewn ffordd, maent yn dal i fod ar wah芒n i'r byd modern. Dylai'r prosiect fod yn brofiad arbennig!
Mae'r plant (8 - 16 oed) yn cerdded am dros ddwy awr i gyrraedd ysgol erbyn 8 o'r gloch y bore; hefyd cerdded n么l yn y prynhawn hwyr. Yn anochel, mae rhai plant yn methu dilyn yr ysgol yn rheolaidd.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch 芒 Swyddfa "Red Shoes", yn y Bont-faen. Daliwch i gyfrannu dillad ac esgidiau er mwyn i ni fedru eu dosbarthu.