Mae Elin, sydd 芒 theulu yn byw yn Hendy-gwyn, newydd orffen ei hastudiaethau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac ar fin dechrau yn ei swydd gyntaf yn perfformio mewn cynhyrchiad Theatr mewn Addysg gyda Theatr Gwent.Mae'n amlwg iawn bod Elin Llwyd wrth ei bodd yn canu - mae'n aelod o bedwar c么r! Yn ogystal 芒 bod yn aelod o G么r Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, mae Ein hefyd yn perfformio gydag Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd, c么r Cywair dan arweinyddiaeth Islwyn Evans a ch么r Cytgan, sef parti canu a sefydlwyd yn ddiweddar gan gr诺p o aelodau'r C么r Ieuenctid Cenedlaethol.
"Dwi wrth fy modd yn canu," meddai Elin. "Dwi'n cael lot o hapusrwydd ma's o ganu a pherfformio ac yn joio mas draw!"
Mae Elin wedi bod yn perfformio ers yn blentyn. "Fe ddechreues i ganu yn yr Eisteddfodleol" meddai, "wedyn fe wnes i gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Datblygodd y diddordeb wrth i'r blynyddoedd fynd mlaen, ac i fod yn onest dwi ddim yn credu byddai'n gwneud unrhyw beth arall nawr."
Pan ddaeth yr amser i benderfynu beth reodd hi am wneud ar 么l gadael y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, doedd dim angen iddi feddwl ddwywaith, a chafodd ei derbyn i Goleg Cerdd a Drama Cymru i ddilyn cwrs actio.
脗 hithau'n hen gyfarwydd 芒 chamu ar y llwyfan, ydi Elin yn dal i deimlo'r nerfau cyn perfformio mwyach? "Na, ddim fel'ny" meddai, "dwi wedi bod yn perfformio ers cymaint fel bod e ddim yn poeni fi mwyach. Ond dwi'n meddwl bod e'n beth da cael tamaid bach o nerfau cyn perfformio hefyd."
Yn ddiweddar, bu'n actio un o'r prif rannau yng nghynhyrchiad y Coleg o Guys and Dolls, fel Miss Adelaide. "Roedd e'n gr锚t, 'nes i joio pob munud ohono, a 'nes i sylweddoli faint dw i'n gweld eisiau canu ac actio gilydd hefyd," meddai. Does dim syndod felly, mai canu caneuon sioeay cerdd sydd orau gan Elin.
Yn ogystal 芒 chynyrchiadau llwyfan gyda'r coleg a'i swydd gyntaf gyda Theatr Gwent, mae Elin hefyd wedi bod yn recordio yn unigol a gyda'r c么r ar gyfer rhaglenni teledu yn ddiweddar.
Mae hi wedi recordio darnau ar gyfer Noson Lawen, wedi cymryd rhan yn Emyn Heddwch Karl Jenkins ac wedi recordio darn i Con Passionate a fydd yn cael ei ddarlledu ym mis Hydref. Gyda chymysgedd o brofiad, mae'n amlwg bod Elin yn gallu troi ei llaw at pob math o berfformio ac at bob cyfrwng hefyd, ond dyw hi ddim yn hollol si诺r pa un yw ei ffefryn ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
"Dwi ddim yn siwr iawn eto" meddai. "Dwi am geisio wneud gyrfa ma's o berfformio a dwi am aros yng Nghaerdydd am sbel. A bydden i'n joio gwneud sioe gerdd yn West End Llundain rhywbryd. Ond ar hyn o bryd, dwi jyst am gael gymaint o brofiad 芒 phosib."