Er bod pob mudiad amaethyddol yn dymuno peidio cael unrhyw gyfyngiadau ar y diwydiant ni wnai y Llywodraeth drafod hynny, felly roedd y diwydiant yn wynebu ugain neu chwe diwrnod o gyfyngiadau. Roedd y mudiadau canlynol, Cymdeithas yr Arwerthwyr, Undebau Amaethyddol, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Cymdeithas y Ffermwyr Bychain, Cymdeithas Defaid (NSA) a Chymdeithas Cynhyrchwyr y Gwartheg (NBA) o'r farn fod chwe diwrnod yn llawer gwell nag ugain diwrnod. Roedd unoliaith yn eu gwrthwynebiad i'r ugain diwrnod a chael rhyddhau y rhwystrau sydd ar y diwydiant, ond mae brwydr eto o'n blaen i ofalu na chaiff y Llywodraeth roi rheolau gwirion a diangen ar ein marchnadoedd da byw. Brwydr arall i'r holl fudiadau uchod sefyll gyda'i gilydd i ofalu y gall ein Marchnadoedd lwyddo heb reolau diangen. Un o'r newidiadau mwyaf ers blynyddoedd sydd yn wynebu'r diwydiant yw cynigion o Ewrop i newid y modd mae amaethwyr yn cael eu talu. Mae'r cynigion yn symud y taliadau oddi wrth yr anifeiliaid i daliadau ar y tir, mae hyn yn newid sylfaenol i beth mae'r diwydiant wedi arfer ac fe fydd llawer o drafod a phendroni cyn y cawn weld y cynllun llawn. Bu i NFU Cymru drefnu cyfarfodydd i drin a thrafod y cynllun yma a da oedd gweld Cymro Cymraeg sef Damien Phillips, Cyfarwyddwr Swyddfa NFU Cymru ym Mrwsel yn amlinellu y cynigion ac fe ddylem fel ffermwyr yng Nghymru fod yn falch fod gennym Swyddfa a chynrychiolaeth gref fel hyn yn Ewrop ac fe fydd ei wybodaeth a'i gynrychiolaeth o fudd i holl ffermwyr Cymru yn y trafodaethau sydd i fod. Mae'n edrych yn debyg fod yna ail feddwl ynglyn 芒 rhoi tagiau unigol mewn defaid, roedd y cynllun yn un gwallgo i ddweud y lleiaf, yn enwedig pan fod wyn yn cael eu lladd mae'r pen yn cael ei dorri i ffwrdd ac felly nid yw y lladd-dai yn gwybod o lle mae'r wyn yn dod na wyn pwy oeddynt. Fe fu i Gymdeithas Porwyr y Mignaint gael y maen i'r wal gyda'r Cyngor Cefn Gwlad ynglyn 芒'r Mignaint, buddugoliaeth am eu dyfal barhad a dygnwch. Elfed Williams
|