Dyna fel mae rhan gyntaf telyneg William Jones, Tremadog yn canu.Ond d'yw Tachwedd ddim cynddrwg 芒 hynny; mae lliwiau'r Hydref yn dal o hyd i'm gwefreiddio, a rhai coed fel gwern ac ambell dderwen heb ddod i'w llawn gogoniant eto.Mae'r llarwydd, hyd yn oed, yn eithriadol o liwgar ac yn dechrau diosg eu nodwyddau.
Mae'n dal ei gafael o hyd yn y tywydd braf a'r heulwen a'r barrug yn gymorth mawr i liwiau'r Hydref o hyd. Roedd gwennoliaid yn dal yma tua'r seithfed o Hydref ac ar noson 4ydd o Hydref roedd eira cynta'r gaeaf wedi disgyn ar y ddwy Arenig. Wedi hynny mae'r Carneddau wedi bod yn bur wyn hefyd a blas ar d芒n gyda'r nos pan fo'r barrug ar droed.
Mae'r Scandinafians wedi cyrraedd yn eu cannoedd a'r Asgell Goch (Redwing) gyda hwynt. Ydynt, mae'r Socan Eira (Fieldfare) wedi bod ar y cnafol yn y cefn yma'n bwyta'n farus. Adar digon swnllyd yn trydar yn ddi-ddiwedd wrth hel eu tamaid. Mae rhai cannoedd o Ddrudwy wedi bod o gwmpas hefyd eleni; mwy nac a welais ers talwm, a haid o lawer o filoedd tua'r warchodfa natur yn aber y Gonwy.
Rwyf yn cofio tua pum i chwe blynedd yn 么l haid o Ddrudwy yn dod i glwydo i goed Hafod Las pob nos am wythnos neu ragor; ac yr oedd yna filoedd ohonynt; mae'n anodd dychmygu neu dod i benderfyniad pa faint sydd ar achlysur fel yna; ond rai miloedd yn siwr!
Fe allwch fod yn lwcus mewn nifer fawr fel hyn i weld un neu hwyrach ddau o rai lliw pinc yn eu canol (Rose coloured Starling) wedi dod rywfodd ymhell o'u cynefin.Coch y Berllan (Bullfinch) welais i y dydd o'r blaen ar griafolen yn y cefn yma. Rhyw dair gwaith mewn pum mlynedd welais i yr aderyn hardd yma gyda'i ben du a'i fron goch (ceiliog). Pam yr enw Saesneg "bullfinch". Duw a wyr; hen enw s芒l iawn.
Mae'n elyn i'r perllanwyr a'u coed afalau am ei fod yn bwydo ar y blagur cynnar. Mae gen i goed afalau pur ffrwythlon yn yr ardd gefn yma ac eirin hefyd a byddaf yn sylwi'n ofalus y gwanwyn nesaf fydd Coch y Berllan ar y blagur ifanc. Pwy fedr warafun rhyw ychydig o flagur iddo ynte am gael y pleser a'r wefr o'i wylio.
Wedi cymryd mantais o brynhawn braf a mynd i Lyn Conwy am dro i adfer hen bistyll yr ochr bellaf i'r llyn ac un o hogia'r Ymddiriedolaeth efo mi. Chwalu'r wal gerrig a chanfod yr hen beipen wedi tagu a phydru. Gosod un newydd ac ail adeiladu'r wal o'i chwmpas a rhoi'r cerrig gwynion yn 么l ar ei phen a chael boddhad o weld y pistyll yn arllwys y dwr fel grisial unwaith eto o grombil y Migneint.
Oedd roedd yna bysgodwr yno hefyd ar tymor brithyll wedi gorffen ar Bilidowcar neu Jac Llandudno fely gelwir ef weithiau yno ar wal y cwt cwch yn sychu ei adenydd yn yr haul a'r gwynt.
Bilidowcars mileinddu'n pysgota'n y bae,
Rhwng y Pier a'r Prom - ac yn sicr o'u prae!
Diflanant wedi dowcio - a chodi fan draw
Fel perisgop llong danfor - r么1 lledaenu braw.
Norman Closs (Aberystwyth 16.2.90) Rydym wedi troi'r cloc ac mae'r dydd yn byrhau'n fwy-fwy o hyd.
Chwinciad yw'r dyddiau byrion
A'r nos fel blwyddi meithion!
Eto mae'n amser da iawn i wylio bywyd gwyllt am fod cymaint o fynd a dod. Y neidr a'r draenog wedi mynd i'w hir gwsg hyd y gwanwyn a'r ystlum hefyd. Byddai'r wiwer goch hefyd yn gaeaf gysgu fwy neu lai ond fe allai ddeffro i ryw heulwen gynnes. Mae'r wiwer lwyd yma'n effro drwy'r gaeaf, yn chwilio ac yn chwalu am ei damaid. Un o'r mewnfudwyr o'r Amerig ac yn dda i ddim i neb ond i ddifrodi nythod adar m芒n a rhai mwy hefyd.
Roeddwn yn darllen erthygl mewn rhyw fisolyn neu gilydd gan gipar neu "stalker" o'r Alban yn dweud y drefn am Bele'r Coed (Pine Marten), ei fod yn ehangu ei orwelion o'r gogledd tua'r de i ardal y llynnoedd, ond yn waeth na hynny yn creu hafoc yng nghadarnleoedd y wiwer goch yn yr Alban ac yn lladd llawer ohonynt.
Mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn eu doethineb wedi rhoi gwarchodaeth ar yr anifail bach hoffus eithriadol yma ond cythraul difrodus mewn croen ydi o'n wir yn lladd llond cwt o ieir o caiff gyfle. Buaswn wrth fy modd yn cael rhyw ddwsin neu ddau a'u gollwng yma i glirio'r wiwerod llwyd sydd yma ym mhobman, ac rwyf yn hollol sicr y dylai'r Comisiwn Coedwigaeth a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wneud ymgyrch rhag blaen i gael gwared 芒'r Americanwr llwyd, blewog sydd yn difrodi llawer o'n hadar bach ni.
Dyma'r amser hefyd pan glywch y Carw Coch yn rhuo ac yn herio unrhyw garw i ddod yn agos i'w fuches (the rutting season) chwedl y Sais. Amser braf diwedd blwyddyn ar 么l Haf a Hydref bendigedig. Ie, ac amser Diolchgarwch hefyd, am a gawsom.
Yr holl rydym yn dderbyn pob dydd ym mhob ffordd, "y wefr o weld ac o glywed" ac arogli a blasu ac o rannu profiadau o bob math, ac ychydig iawn o ddiolch sydd gwaetha'r modd. Dim ond cymryd popeth yn rhy ganiataol weithiau.
Fel mae nos a dydd mewn wythnos,
Fel mae'r miloedd yn ymddangos,
Fel tymhorau'r rhod mewn cwlwm,
Dyn a'i rawd sy'n rhan o'r patrwm!
Gwerinwr