Ond nid taith gerdded arferol mo hon ond taith gerdded Moonlight Edinburgh 2006 lle'r oedd yr holl ferched, tua 10,000 ohonynt yn cerdded 26.2 milltir - pellter ras marathon - yn ystod y nos, pob un yn eu bra!
Yn eu plith roedd Manon Evans, Nant-y-Fedwen, Carmel a Nia Lloyd, Dugoed, Penmachno ynghyd â rhai o aelodau Ffermwyr Ifanc Eryri.
Llwyddodd y deuddeg dewr o Gymru i orffen y daith erbyn 8.30 fore Sul gyda dim ond ambell i flistar a 'chydig o boen yn y cyhyrau.
Profiad bythgofiadwy i unrhyw un a diolch yn fawr i bawb a fu'n noddi Nia a Manon.
|