'Roedd yn gwaredu am mor bitw ydyw'r wybodaeth amdanynt; bron dim yn swyddogol wrth gysidro mor bwysig oeddynt ym myd amaeth yn ystod y canrifoedd. Yn wir, 'roedd ffyniant amaeth yn dibynnu arnynt.
Buont wrthi am amser maith, llwyth anadnabyddus heddiw, a'r gwaith yn cynyddu yn enfawr yn ystod y diwylliant diwydiannol, gyda miloedd o anifeiliaid yn cerdded pob cam o bellafoedd cefn gwlad i drefi diwydiannol yng Nghymru a Lloegr yn enwedig i Lundain. Parhaodd hyn tan dyfodiad y rheilffyrdd.
Roedd rhwydwaith o ffyrdd glas ar hyd y wlad, yn osgoi ffyrdd tyrpeg. Un ffordd bwysig o Lleyn oedd yn dod o Faentwrog dros Bwlch Carreg y Fran, i lawr i Cwm, ymlaen i Ysbyty Ifan heibio Bryn Crug cyn cysylltu 芒 ffyrdd eraill yn arwain i'r de.
Byddai'r porthmyn yn codi eu hanifeiliaid o'r ffermydd o dan yr amod y buasent yn talu amdanynt wedi dychwelyd adref. 'Roedd enw am onestrwydd yn hanfodol - unrhyw amheuaeth ac roedd darfod ar fywyd fel porthmon.
Roedd y diadellau yn fawr - er enghraifft dros fil o ddefaid, rhai cannoedd o wartheg a gwyddau. Taith o rhwng 10 a 12 milltir i ddefaid a gwartheg ond dim ond tua 5 i 6 milltir i'r gwyddau. Soniodd am ddau frawd o Benmachno yn yr unfed ganrif ar bymtheg - y ddau yn gloff ond yn medru gyrru am 5 i 6 milltir y dydd gyda'r gwyddau.
Roedd rhaid pedoli gwartheg - giamocs mawr ar y diwrnod! Er mwyn diogelu traed gwyddau gyrrwyd hwy try p欧g cynnes ac wedyn dros raean neu dywod. Byddai'r gwartheg ar y ffordd am rhyw dair wythnos i Lundain, mwy i wyddau a moch.
Am safon yr anifeiliaid? Digon tenau o gymharu a heddiw, yn 么l yr ychydig luniau sydd ar gael, ond byddant yn cael eu pesgi ar borfeydd bras ar ddiwedd y daith; cyn wynebu'r cigyddion.
Roedd dychwelyd efo'r arian yn daith beryglus a lladron ym mhob man. Er mwyn diogelu'r symiau mawr o arian ym meddiant y porthmyn, i fyny i fil o bunnoedd neu rhagor, sefydlwyd banciau. Banc y Ddafad Ddu yn un enwog, a Banc y Ceffyl Du, sydd yn dal mewn bod sef Lloyds TSB.
Llwyddodd nifer o'r porthmyn i ddod yn gyfoethog iawn ond roedd y bywyd yn un tu hwnt o galed.
Diolchwyd i Twm gan Iola, am sgwrs ddoniol a hynod o ddiddorol, yn cynnwys nifer o sleidiau.
Bydd y cyfarfod nesaf ar Mai 25, pan fydd Colin Thomas gynt o'r siop iechyd yn s么n am lysiau llesol. Croeso cynnes i bawb.
Ar y 30ain o Ebrill yn Seilo daeth Paul W akeley, gynt o Benmachno atom i s么n am ddaearyddiaeth yr ardal.
Mae hanes y creigiau yng Ngogledd Cymru yn un cymhleth iawn. Maent yn rhai o'r creigiau hynaf yn y byd yn dyddio 'nol i dros 600,000,000 o flynyddoedd! Yn ein hardal ni y bu dechrau hanes y creigiau yn wyddonol ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif ac am hynny mae enwau Cymreigaidd iawn ar yr holl greigiau cynnar fel Pre Cambrian, Cambrian, a.y.b.
Yn wir, y mae creigiau ein gwlad wedi dylanwadu'n gryf ar ein hanes gyda arfau cerrig o Benmaenmawr wedi eu darganfod ar y cyfandir, a mwyni copr, plwm ac aur o Oes y Pres hyd at yn ddiweddar, heb s么n am lechi a glo - ac olew a nwy yn y dyfodol!
'Roedd gan Paul doreth o luniau a mapiau er mwyn egluro ei sgwrs, a mwynhawyd y noson yn fawr.