Yr oedd y cwrs yn canolbwyntio yn bennaf ar ddealltwriaeth ac astudiaeth, technoleg a cherfio addurnol. Llynedd fe gwblhaodd Sara arfbais i Gymdeithas Gwerthwyr Pysgod, un o gymdeithasau hynaf y ddinas. Y mae arfbais Sir Thomas Stockdale (prif warden 2001/2) yn crogi yn neuadd y gymdeithas sydd ger pont Llundain. Y mae wedi ei naddu o bren pîn Rwsia ac wedi'i addurno yn gywrain mewn aur ac arian. Mae'rtraddodiad o gomisiynu arfbais i brif warden y gymdeithas hynafol hon yn dyddio yn ôl i 1690. Yn fury diweddar comisiynwyd Sara gan Ysbyty Frenhinol Chelsea i gynhyrchu fersiwn o'i arfbais mewn pren. Cynhyrchodd Sara ddarn trawiadol mewn derw yn 5 troedfedd, 6 modfedd o uchder ac mae ar fur neuadd fawr yr ysbyty. Uchelgais Sara yw rhedeg gweithdy a sefydlu ei hun fel cerfiwr yn adnewyddu darnau pren hanesyddol ynghyd â chynhyrchu a chynllunio. Gobeithio y caiff Sara wireddu ei huchelgais a chael dod i ennill ei bywoliaeth yn ei milltir sgwâr. Yn y cyfamser mae'n sefydlu ei hun fel crefftwraig dalentog iawn yn Llundain.
|