Fel gweithwraig Gymdeithasol yn ardal Caernarfon mae Siân Rhun o Benmachno yn cydweithio yn rheolaidd gyda Dr Bobby Kurian-Seiciatrydd sy'n hanu o Kerala, talaith yn Ne India. Mae Siân Eleri hefyd yn gweithio fel Therapydd Galwedigaethol yn ardal Caemarfon a Meirionnydd ar ôl sgwrs gyda Siân Rhun.
Mae Bobby yn byw ac yn gweithio yma yng Ngogledd Cymru ers nifer o flynyddoedd ond yn mynd adref yn rheolaidd at ei wraig a'i deulu, ac hefyd i oruchwylio nifer o'r prosiectau cymunedol y mae ef a'i ffrindiau wedi eu sefydlu.
Roedd y diddordeb i fynd yn gryf iawn ar ôl nifer o drafodaethau gyda Bobby.
Oherwydd lliwiau a diwylliant cyfoethog India, cynhesrwydd a chyfeillgarwch sawl cydweithiwr o'r India a'r cyfle i weithio a chyfrannu at brosiectau Bobby, roedd yr atyniad at India wedi bod yn araf ferwi yng nghefn ein meddyliau.
Fel roedd y Gaeaf yn
, araf gropian a'r meddwl yn crwydro I gael dianc I'r haul, sgwrsiodd Siân yn sydyn hefo Bobby a
a phenderfynu ar daith i India.
Rhyw fis cyn mynd daeth Siân arall 'on
Board'ar ôl sgwrs yn y gampfa!
Roeddwn i,
Siân Eleri o Ddolwyddelan yn awyddus iawn i ymuno ar y trip erbyn hynny.
Roedd cael y ddwy ohonom yn gwmni i'n gilydd yn mynd i fod yn grêt.
Gan fy mod innau hefyd yn gweithio yn yr un maes yn ardal Meirionnydd ac Arfon, roedd y ddwy ohonom yn rhannu'r un diddordeb ae eisiau cael yr un math o brofiadau.
Ar ddydd Sul braf o lonawr dyma gychwyn am Fanceinion a rhyw 12 awr yn ddiweddarach glanio yn Kochin.
Er mor gyffrous oeddem, roedd teimlad o bryder yng nghefn ein meddyliau.
Er i'r ddwy ohonom deithio tipyn yn y gorffennol roeddem yn ymwybodol o'r anawsterau oedd yn debygol o'n wynebu a wnaeth y daith gyntaf yno o'r maes awyr ddim helpu!
Nid oedd llawer o siarad ar y daith pedair awr i Kottayam.
Yn gyntaf roedd y ddwy ohonom yn flinedig iawn, yn ail roedd cael ei'n cyflwyno i'r byd newydd yma drwy ddiogelweh y tacsi yn wledd i'r synhwyr~u ac yn mynnu ein holl sylw.
Ond yn drydydd ni allem ddweud bod y tacsi yn teimlo'n ddiogel iawn ac roedd y profiad cyntaf o ffyrdd a gyrru yn India yn frawychus a'r
ddwy ohonom yn meddwl a oeddem am
gyrraedd o gwbl.
Dysgom yn sydyn iawn nad oes defnydd o 'indicator' yn bodoli ac roedd synau yr holl gyrn ar y daith gyntaf yno yn fyddarol, yn brifo'r glust ac yn ddigon i ddychryn dwy oedd wedi blino yn lân ac yn ceisio addasu eu hunain i hinsawdd ac awyrgylch newydd.
Wedi noson iawn o gwsg nid oeddem yn hir yn setlo mewn i Kottayam ac yn dotio pob dydd at y tirwedd gwyrdd trofannol yn ogystal a'r afonydd oedd yn neidro o'n cwmpas.
Ni chawsom ein siomi hefo'r lIiwiau lIachar a'r bwrlwm oedd ym mhob man.
Yn union fel y disgwyl roedd saris y merched yn anhygoel a phob merch a phlentyn yn gwenu yn gynnes a swil wrth basio.
Hedfanodd y tair wythnos nesaf heibio a IIwyddom lenwi pob diwmod yn
gweithio a phob nos yn cael ein croesawu i gartrefi a ffordd o fyw teulu a ffrindiau Bobby.
Daeth yn ddigon clir i ni o'r cychwyn fod pawb wedi bod yn trefnu ein tair wythnos hefo digwyddiadau oedd am sicrhau amryw o brofiadau bythgofiadwy.
Roedd teulu a ffrindiau Bobby am y gorau i sicrhau fod ein hymweliad yn cael ei lenwi hefo pob math o brofiadau a daethom i ddeall yn sydyn yr ystyr tu ôl i'w dywediad poblogaidd 'y gwestai yw Duw'.
Nid oeddem erioed o'r blaen wedi dod ar draws pobl mor
groesawgar a gofalus yn y ffordd roeddynt yn ein gwarchod a'n difetha.
Roedd y driniaeth a gawsom yn aml yn lIethol ac roeddwn yn teimlo nad oedd y gwaith roeddwn wedi ei wneud yno yn talu yn ôl am y croeso a gawsom.
Treuliwyd pob dydd yn gweithio yn un o brif
brosiectau Bobby sef canolfan Ashabavan,
canolfan i ferched dros 18 oed gydag
anableddau dysgu.
Roedd Bobby wedi
esbonio maj'r grwp yma oedd y mwyaf
bregus a gwan yn eu eymdeithas, yn gyntaf
oherwydd safle israddol y ferch ac yn ail
oherwydd y stigma sydd o amgylch
anabledd dysgu, gyda lIawer o deuluoedd
vn cuddio bodolaeth plentyn ag anabledd hyd yn oed rhag y teulu ei hun.
Tra roeddem yno treuliodd y ddwy ohonom ein
hamser yn gwneud amryw o weithgareddau hefo'r merched.
Roedd eu diwrnod yn dilyn
patrwm o ddysgu sgiliau sylfaenol byw,
gweddïo a chanu, chwaraeon ac yn y
prynhawn gwaith crefft.
Roeddem yn
awyddus i sefydlu prosiect bychan yn yr
amser byr yr oeddem yno felly aethom ati bob prynhawn i ddysgu'r merched i wneud cardiau, rydym nawr yn gallu gwerthu'r cardiau yma er mwyn codi arian i'r ganolfan.
Cawsom hefyd y cyfle i fod yn rhan o brosiect oedd yn magu hyder a
chysylltiadau i blant ifanc oedd yn dangos
gallu arbennig academaidd ond yn dod o gefndiroedd anobeithiol o dlawd.
Yn bersonol i'r ddwy ohonom roedd cael treulio amser hefo'r plant yma a'u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain yn uchafbwynt
bythgofiadwy i ni.
Roedd y plant yn wynebu
sefyllfaoedd anodd iawn yn ddyddiol ond
drwy gymorth y prosiect roeddynt yn hynod
o hapus ac yn edrych ar ochr orau bywyd yn
ogystal a sylweddoli pwysigrwydd helpu ei
gilydd ac eraill.
Ers dod adref mae'r ddwy
ohonom wedi bod mewn cysylltiad hefo arweinydd y prosiect a gyda rhai o'r plant ac yn mynd i'w cefnogi yn rheolaidd.
Roedd
nifer o'r plant a fyddai'n elwa o gael cyswllt
rheolaidd gydag eraill ac ein bwriad yw cael
hyd i bobl fyddai a diddordeb cefnogi'r plant
hefo cyngor, llyfrau, a llythyrau.
Roedd yn
golygu cymaint i'r plant a'u teuluoedd gael cyfarfod rhywun y tu allan i'w cymunedau, a
bydd cysylltiad rheolaidd yn amhrisiadwy
iddynt.
Roedd gadael ar ôl tair wythnos yn anodd
iawn ond roeddem yn teimlo ein bod wedi
cyflawni llawer o ystyried yr amser ac yn
bendant ein bod am ddod yn ôl i'r ardal
arbennig yma i weld y ffrindiau a'r llefydd
oedd wedi gadael marc ar ein calonnau.
Wedi teithio i nifer o wledydd roedd cael y
cyfle i weithio yn un llawer mwy buddiol.
Er i
Siân Eleri fod yn Affrica 'nol yn 2008 i helpu
pentref Amdallai roedd gweithio yn agosach
at yr unigolion yn fraint mawr.
Byddent yn
argymell i unrhyw un sydd awydd profiad
gwahanol mewn gwlad sy'n hawdd teithio
ynddi oherwydd cymorth ei phobl i fynd i
Kerala yn yr India.
Ar ein noson olaf
sylweddolom fod hyd yn oed cyrn y ceir
wedi dod yn sŵn annwyl ac roedd cerdded y
strydoedd poeth, prysur, lliwgar oedd yn
llawn arogl sbeisiau yn rhywbeth wnaiff aros
yn y cof am byth.
Er dod adref mae'r ddwy ohonom yn ceisio codi arian i'r ddau brosiect ac yn gwerthu'r cardiau mae'r merched mwedi eu gwneud. Er i
Siân Eleri fod yn Affrica 'nol yn 2008 i helpu
pentref Amdallai roedd gweithio yn agosach
at yr unigolion yn fraint mawr.
Byddent yn
argymell i unrhyw un sydd awydd profiad
gwahanol mewn gwlad sy'n hawdd teithio
ynddi oherwydd cymorth ei phobl i fynd i
Kerala yn yr India.
Ar ein noson olaf
sylweddolom fod hyd yn oed cyrn y ceir
wedi dod yn sŵn annwyl ac roedd cerdded y
strydoedd poeth, prysur, lliwgar oedd yn
llawn arogl sbeisiau yn rhywbeth wnaiff aros
yn y cof am byth.
Siân Eleri a Siân Rhun