Mae'n
bosib mai ef ydi'r organydd ieuengaf sydd
wedi bod yn y Gymanfa ac yntau ond yn
bymtheg oed. Rhaid ei longyfarch am ei
waith.
Plant ac ieuenctid Bethel oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth dechreuol.
Cafwyd pleser a mwynhad, yn blant ac
oedolion yn canu emynau, newydd i rai
ohonom, o adran y plant. Yn rhai o'r
caneuon 'roedd gofyn am symudiadau,
bysedd sydd yn clic/o, pen sydd yn
nodio, traed sydd yn tapio, gliniau sydd
yn plygu, trwyn sydd yn crychu,
'sgwyddau sydd yn codi, dwylo sydd yn
clapio - y cyfan yn rhodd gan Dduw.
Roedd gofyn hefyd am ganu Affricaneg a
Sbaeneg mewn emyn arall! Da clywed fod
pawb wedi mwynhau.
Eleri Jones, Eglwysbach oedd yn llywio y
cyfarfod a chafwyd ganddi anerchiad oedd yn dwyn sylw y plant wrth iddi gyfeirio at
wahanol bobl oedd wedi bod yn
llwyddiannus ym myd chwaraeon.
Gofynnwyd y cwestiwn sut mae'r bobl hynny yn rai llwyddiannus ac enwog. Mynegwyd
yn ateb, efallai mai dawn naturiol sydd
ganddynt, ond yn bennaf, oherwydd eu bod
yn ymarfer yn gyson, oriau o ymarfer dydd ar 么l dydd.
Maent yn gosod nod i'w gyrraedd, golygai ymdrech. e.e. Rygbi, chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd,
tennis, ennill Wimbledon. Soniodd am un o gymeriadau y Beibl, yr Apostol Paul a
ymdrechodd er iddo gael ei rwystro lawer
tro i s么n am lesu Grist.
Daliodd ati i anfon neges lesu o amgylch y byd. Byrdwn ei neges oedd wrth ymdrechu'n galed ac ymarfer, gellir cyrraedd y nod.
Cafwyd datganiad ar yr organ gan Trystan
Lewis, beirniad o'r Emyn-d么n fuddugol a
gyfansoddwyd gan Gwenda Williams,
Pwllglas gyda Mair Williams, Seion, Llanrwst yn ail. Llongyfarchiadau iddynt.
Cafodd y plant eu llongyfarch a'u
gwobrwyo am y gwaith llaw yr oeddynt
wedi ei wneud. Beirniad y cystadlaethau oedd Eira Jones Trefriw ac Eleri Jones, Dolgarog. Roedd y Festri yn werth ei gweld, gwaith lliwgar ac amrywiol.
Bu i Bryn Hughes, Eglwysbach, llywydd
pwyllgor y Gymanfa, ddatgan gair o ddiolch
i bawb fu'n ymwneud a'r Gymanfa yn arbennig i Gwenda Griffiths, Trefriw, yr ysgrifennydd, tu'n gyfrifol am yr holl
drefniadau.
Clywch y nodau llawen,
clywch y lleisiau byw
megis c么r o glychau'n
seinio mawl i Dduw.