Mae'n flwyddyn arall arnom ni, a phethau'n dechrau dod i drefn ar ôl gŵyl y geni a'r gormodedd. A chyda 2004 bellach wedi diflannu efo'r twrci a'r trimins, dyma'r adeg draddodiadol i ni gnoi cil ar ein gobeithion a'n dyheadau ar gyfer 2005.Mae un o ddigwyddiadau mawr diwedd 2004 yn dal i hawlio penawdau newyddion y flwyddyn newydd. Lladdwyd dros 160,000 o bobl - traean ohonynt yn blant - gan tswnami trychinebus Cefnfor India ar Ŵyl San Steffan, gan greu argyfwng dyngarol byd-eang.
Gyda chymunedau cyfan wedi mynd i ebargofiant, cysylltiadau trafnidiaeth ar chwâl a hanfodion bywyd fel dŵr glân yn brin, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn wych. Mor wych mewn gwirionedd, nes codi cywilydd ar lywodraethau'r byd a'u hannog i gyfrannu llawer mwy o galennig na'u ceiniog a dimai cychwynnol.
A dyma obaith mawr cynta'r flwyddyn newydd - llai o dywallt gwaed yn Irac ac ati, a mwy o frawdgarwch rhwng pobl, waeth beth fo'u cred a'u cefndir.
Mae'n argoeli'n flwyddyn fawr i'r byd gwleidyddol ym Mhrydain. Yn gam neu'n gymwys, mae'r sôn am etholiad cyffredinol eisoes wedi dechrau - a hynny ryw 6 mis cyn i'r blychau pleidleisio agor. Byddwch yn barod am addewidion di-ri o rŵan tan hynny felly, a'r pleidiau gwleidyddol yn lladd ar ei gilydd yn lle pennu polisïau newydd.
Efallai i Tony gael cyfnod digon Blêr, ond mae'n flerach fyth ar y Ceidwadwyr di-glem a di-gyfeiriad. A diau y bydd y Rhyddfrydwyr yn honni eto fyth mai nhw yw'r brif wrthblaid go iawn. Er y bydd ffaeleddau'r gwasanaeth iechyd, ffars y mesur hela a ffrae Irac o bosib yn talu'n ddrud i fwyafrif Llafur, beryg iawn y cân nhw drydydd tymor wrth y llyw.
Unwaith eto, gallwn ddibynnu ar etholwyr Môn i ddod â rhywfaint o gyffro i'r ymgyrchu yng Nghymru gydag Eurig Wyn yn gobeithio cipio sedd Albert Owen a dychwelyd y fam ynys i gorlan Plaid Cymru.
Dymunaf well lwc i gochion eraill 'leni. Yn gyntaf, bod clwb pêl-droed Wrecsam yn caeI eu tŷ mewn trefn ar ôl llanast y llynedd. Yn ail, bod perfformiadau glew'r tîm rygbi cenedlaethol yn esgor ar fuddugoliaethau o'r diwedd - tân arni yn erbyn y Saeson yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror y pedwerydd, felly.
Ar ôl blwyddyn fethiannus arall i Giggs a'r giang, rwy'n gobeithio bydd 2005 yn dechrau cyfnod newydd dan law Toshack. Edrychaf 'mlaen at ei weld yn dod â rhywfaint o ddisgyblaeth i garfan o 'brimadonas' fel Savage a Bellamy. Ac ar gais personol, hei lwc i Man Iw yn Ewrop ac yn eu hymgais i gau'r bwlch ar Chelski yn yr Uwchgynghrair!
Mae 2005 yn flwyddyn o ddathliadau i'r brifddinas hefyd. Dyma flwyddyn canmlwyddiant Caerdydd fel dinas a hanner canrif fel prifddinas gythryblus Cymru. Siawns y bydd llond bysys o blant Dyffryn Conwy yn heidio i lawr adeg y Sulgwyn i fod yn rhan o 'Steddfod yr Urdd unigryw yn ysblander crwbanaidd Canolfan y Mileniwm. Mae'n hwyr glas i rywun roi dôs o Gymreictod yno beth bynnag.
O un adeilad o bwys cenedlaethol, i un arall tipyn mwy dadleuol. Na, nid canolfan datblygu gwledig Cyngor Sir Conwy ar safle hen bictiwrs Plas yn Dre, ond adeilad newydd y Cynulliad. Dylai'r gwaith adeiladu ddod i ben fis Awst, ac mae'r gost derfynol o £60 miliwn yn swnio'n fargen o gymharu â £431m am Senedd yr Alban. Mae'n siŵr y doith Lis a'r Diwc yno i agor y sioe i gyd. Yn bersonol, byddai'n well gen i weld y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y grym llawn i ddeddfu a chodi trethi yn ei gartref newydd yn y Bae.
2005 fydd blwyddyn geni papur newydd Y Byd. Petai hynny ond i gau cegau'r daroganwyr gwae fel Gwilym Owen ar Radio Cymru a chyn hacs a golygyddion Y Cymro a Golwg. Do, dwi wedi hen laru arnon ni'r Cymry yn lladd ar bethau sydd heb gael cyfle i ennill eu plwyf eto! Mae'r darpar danysgrifiwr hwn yn edrych ymlaen yn arw at ddarllen papur dyddiol cenedlaethol Cymraeg yn lle'r Liverpool Daily Post a'r Cardiff Western Mail.
A'r teli bocs? Mae'n adeg dyngedfennol yn hanes ein sianel ni. Bydd Prif Weithredwr presennol S4C, Huw Jones, yn codi pac o Barc TÅ· Glas ddiwedd 2005. Roedd adroddiad 'Ofcom' (corff rheoleiddio'r diwydiant teledu) y llynedd yn rhagweld dyfodol du i S4C - rhwng llai o wylwyr (yn enwedig ymysg y to iau) a llai o arian hysbysebu wrth, i Channel 4 a sianeli digidol rif y gwlith ddod yn fwyfwy cyffredin ar aelwydydd Cymru.
A 'ngobeithion i o ran arlwy'r sianel? Mwy o ddramâu o safon fel, Talcen Caled, llai o rwtsh eildwym o'r iaith fain fel Waw Ffactor a dim mwy o C'mon Midffild ar sail pennod siomedig noson Nadolig.
Ydy, mae'n argoeli'n flwyddyn fawr i sawl un. Gobeithio y bydd hi'n un da yn eich tÅ· chi.
Dylan Henblas