Y degfed o Fedi eleni yw 400 Mlwyddiant marwolaeth yr Esgob William Morgan. Mae i Dŷ Mawr Wybrnant ran allweddol ym mywyd yr Esgob. Yn ôl yr hanes, bu mynach yn cuddio yno rhag cael ei ddal gan filwyr Harri'r 8fed, ac fe aeth a'r William Morgan ifanc i Gastell Gwydir, Llanrwst, lle derbyniodd ei addysg cynnar wedi iddo sylwi ar allu'r bachgen. Daeth Tŷ Mawr Wybrnant, sydd ddwy filltir o bentref Penmachno, i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951, ac ers hynny mae'r tŷ wedi'i adfer i sut y byddai wedi ymddangos yn yr 16eg a'r 17eg ganrif. Croesewir ymwelwyr yn gynnes i'r tŷ bob dydd lau, Gwener, Sadwrn a Sul o'r 1af Ebrill - 31 Hydref 2004 rhwng 12 a 4.30pm gan Dennis Davies, gofalwr y tŷ, sy'n rhoi sgwrs fywiog ar fywyd a hanes yr Esgob, esboniad o'r celfi sy'n dyddio o gyfnod y tŷ yn ogystal â disgrifio yr arddangosiad mwyaf o feiblau yng Nghymru sydd i'w gweld yno. Amrywia'r beiblau o un Tsieineaidd i rai sydd mewn rhai o ieithoedd prin Affrica e.e. xhosa - iaith y Bushman tribe y mae Nelson Mandelha yn perthyn iddi, i rai sydd wedi'i sgrifennu mewn tafodiaith "cockney" a "scouse" hyd yn oed. Gellir hefyd gweld Feibl William Morgan, y pwysicaf oll, sef un o ddim ond 19 sydd ar ôl o'r 1000 a argraffwyd yn wreiddiol yn 1588, ac argraffiad diwygiedig 1620 Richard Parry a John Davies. Bydd y digwyddiadau a gynhelir yno yn siŵr o ychwanegu at naws arbennig Tŷ Mawr ac yn nodi pwysigrwydd a mawredd y gŵr: Ebrill 1 - Tŷ Mawr Wybrnant yn agor am y tymor 8 - 12 - Arddangosfa arlunio Glen Palin Mai 7 - Taith dywys gyda Phrif Warden stâd Ysbyty Ifan 15 - 17 - Arddangosfa arlunio Glen Palin Mehefin 17 - 20 - Arddangosfa arlunio Glen Palin Gorffennaf 3ydd a'r 10fed - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn 9 - Taith dywys Awst 28 - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn Medi 4 - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn 10 -12 - Penwythnos dathlu 400 mlwyddiant ers marwolaeth William Morgan 10 - Cyflwyniadau cerddorol a llafar o fywyd yr Esgob gan blant Ysgol Penmachno am 2pm. 11 - Darlith am y Beibl newydd Cymraeg, Gwilym H. Jones yn yr adeilad arddangos (sydd wrth ymyl y tŷ) am 2 pm. 12 - Noson o ganu mawl dan arweiniad Mrs Catherine Watkin ac adloniant yng nghwmni Côr Meibion Llangwm ac Esyllt Tudur. Hydref 1 - Taith dywys gyda'r Warden.
|