Roedd y dyddiad wedi newid oherwydd llifogydd ar y 7fed o'r mis. Ffurfiwyd Dawnswyr Dyffryn Conwy i gystadlu yng Ngŵyl Gerdd Dant Dyffryn Conwy ym mis Tachwedd, dan hyfforddiant Dr Prydwen Elfed-Owens. Mae'r cwmni wedi dyblu i 12 mewn nifer erbyn hyn, sef Gwyn Ysgol Landdoged, Dafydd Ysgol Dolwyddelan, Ifan Ysgol Betws, Derfel Ysgol Ro-wen, Dilwyn Ysgol Porth y Felin a Derfel Ysgol Tudno; Bethan a Vivienne Ysgol Craig y Don, Branwen Ysgol Llanddoged a Nerys, Ann a Delyth Ysgol Bro Gwydir. Bu'r Dawnswyr yn perfformio pedair dawns, gydag eitemau rhwng y dawnsfeydd gan y cerddorion - Rhian Bebb o Fachynlleth, Geraldine Tunstall o Gwm Penmachno, Dafydd Huw o Lanrwst, Geraint Fôn o Eglwysbach, Derfel Thomas o Fochdre - a gan ddawnswyr ifanc dawnus iawn megis Meinir Siencyn o Lanrwst, Anna Pardanjac o Landrillo-yn-rhos, Hannah Rowlands o Eglwysbach a grŵp o ddawnswyr a hyfforddwyd gan Hannah o Ysgol y Creuddyn. Yn dilyn swper, daeth yn amser i'r Fari Lwyd ddod i ddiddanu. Chwech o brifathrawon Sir Conwy - yr uchod ynghyd ag Arwel Ysgol Nant y Coed, oedd yn gyfrifol am yr hwyl a'r stŵr, a chafwyd gwerth arian o hwyl yn gwylio'r 'antics'! Wedi hwyl y Fari Lwyd, roedd cyfle i bawb gael dawnsio gwahanol ddawnsfeydd gwerin gyda Dr Prydwen Elfed Owens yn galw - pawb wedi mwynhau yn fawr! Dennis Davies oedd yn cadw trefn ar y noson, a'r trefnyddion oedd Maureen Hughes ag Eira Jones.
|