Daeth nifer dda o aelodau a chyn aelodau'r ddau gapel i ddathlu'r achlysur unigryw hwn ar nos Sul cyntaf y flwyddyn, y 5ed o Ionawr 2004. Ysgogwyd yr uniad oherwydd i ostyngiad ym mhoblogaeth y plwyf, yn enwedig ym Mhenucha'r Plwy' olygu gostyngiad yn niferoedd mynychwyr Rhydymeirch a Salem fel ei gilydd. Cymaint y dirywiad yn rhifau'r boblogaeth nes gorfod wynebu realiti'r sefyllfa drist, a chaewyd Rhydymeirch ar ddiwedd blwyddyn 2003, gan benderfynu uno'r ddau gapel. Efallai y dylid rhoi cipolwg sydyn dros hanes diddorol yr achos yng Nghwm Penmachno, gan ymfalch茂o, yng nghyfraniad Rhydymeirch yn 1864, ar gost o 拢600, a chynyddodd yr aelodaeth yn sylweddol. Yn 1898, codwyd y trydydd capel ar y safle, y capel hardd a welir yn bresennol, yngh欧d 芒 th欧 capel, ysgoldy a festri gan gwmni adeiladu Thomas Parry o Fae Colwyn.
Roedd y draul am y gwaith yn 拢2,658, ac ymhen tair blynedd roedd y ddyled wedi gostwng yn is na 拢1,000, ac erbyn 1917 roedd pob dimau wedi ei dalu. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, cynhaliwyd cantawdau uchelgeisiol yn y capel, gyda phobl o bellteroedd yn dod i Rydymeirch i fwynhau'r wledd o gerddoriaeth yn rheolaidd.
Yn 1934, canmlwyddiant Rhydymeirch, roedd 129 o aelodau cyflawn ar lyfrau'r capel, ond wrth i ddirwasgiadau amharu ar gynnyrch y chwareli, gostwng yn raddol wnaeth yr aelodaeth, a bu i gaur chwarel olaf yn y Cwm yn 1962 effeithio'n arw ar boblogaeth y plwyf, ac ar aelodaeth yr enwadau crefyddol yr ardal yn gyffredinol.
Wedi gair byr gan lywydd Henaduriaeth Dyffryn Conwy, Mr Emlyn E. Jones, Llangernyw, a Mrs Iola Jones cafwyd anerchiad bwrpasol gan y gweinidog, y Parch. Iorwerth P. Jones. Dywedodd nad adeilad yn unig oedd Salem, ond eglwys unedig Penmachno. Er nad oedd symud i fyw i Salem yn broses hawdd i aelodau Rhydymeirch, nid diflaniad yr achos yno oedd meddai, ond uniad, a'r ddau gapel yn un corff.
Rheswm i ddathlu oedd hwn, i ddatgan diolch am gael dechrau pennod newydd ar ddechrau blwyddyn newydd yn hanes addoliad ym Mhenmachno. Pwysleisiodd na ddylid byw gormod yn y gorffennol, a cheisio gweld hyn yn gyfle newydd ac yn uchelgais i'r dyfodol, ac i hynny sbarduno'r presennol.
Atgoffodd bawb o eiriau'r Iesu pan ddywedodd na ddylid poeni'n ormodol am yfory. Siarter Cristion yw byw heddiw meddal, a dylai'r presennol fod yn bwysicach i ni na'r gorffennol, ac na ddylid caniatau'r cof reoli bywydau.
Cyflwynwyd y gweinidog, 芒 Beibl pulpud Rhydymeirch gan yr aelodau yn ystod y gwasanaeth.