Cafodd y digwyddiadau eu trefnu gan Fenter laith Conwy. Ymhlith y llanast roedd Meic Stevens, Bethan Gwanas, Ifor ap Glyn, Steffan Crafos, Iwcs, Maharishi, Gwenno, TNT, Theatr Bara Caws, Orig Williams, Meinir Gwilym, Bysedd Melys, Alun Tan Lan, MCSaizmundo a hogiau Anweledig ac enwogion eraill. Amcangyfrifwyd fod hyd at 1800 o bobl wedi mynychu'r holl wyl.Dechreuodd yr wyl yn addawol gyda llond tafarn yr Albion yn gwylio Gwenno nos Fercher, ar 么l y g锚m rhwng Cymru a Rwsia - mi ddaru hynny lwyddo i godi calonnau rhai o'r hogiau Cymraeg yno!! Llawn hefyd oedd y Llew Coch wrth i hanes gael ei greu nos Iau, wrth i dalwrn cyntaf o Feirdd yn erbyn Rapwyr gael ei gynnal. Y Rapwyr enillodd yr ornest o drwch blewyn, gyda'r Beirdd yn awchu am gyfle i gystadlu yn eu herbyn eto. TNT a Gwenno fu'n diddanu disgyblion Ysgol Bro Gwydir ac Ysgol Dyffryn Conwy yn ystod y dydd, tra llwyddodd Theatr Bara Caws i ddenu 150 i'w perfformiad Dulce Domum yn gynnar nos Wener, gyda rhai fel Valmai Jones a Maldwyn John yn actio i'r cwmni.Llwyddodd Alun Tan Lan a Meic Stevens i ddenu ffigwr tebyg i Westy'r Eryrod gyda'u doniau cerddorol unigryw. Tra fod Meic wedi diddanu gyda'i hen ffefrynnau cafodd pawb eu synnu gan ddawn newydd a chyffrous Alun Tan Lan. Cafodd 15 o s锚r y dyfodol hyfforddiant gan enwogion s卯n pop Cymraeg yng Nghanolfan Gymunedol Llanrwst fore Sadwrn, tra mentrodd 150 arall draw i Ganolfan Hamdden Llanrwst yn y pnawn i weld y Wreslo Americanaidd o dan arweiniad yr enwog Orig Williams.Roedd y Llew Coch dan ei sang unwaith yn rhagor wrth i Gystadleuaeth B么n Braich yr wyl ddechrau. O dan ofal Orig Williams enillodd t卯m Llanrwst, sef Gwyn Llindir, Aled Pant Manus ac Elgan Fedw. Wrth i gerddorion ddechrau eu sesiynau o gwmpas y tafarndai heidiodd cannoedd i lenwi pob un tafarn i'w hymylon, i'r ffasiwn raddau fel ei bod hi'n anodd i'r cerddorion chwarae ym mhob tafarn. Serch hynny cafwyd nifer o sesiynau hynod lwyddiannus ym mhob rhan o'r dre. Dywedodd Deiniol Thomas, Swyddog Maes y Fenter, Mae Menter Iaith Conwy yn gobeithio bod yr wyl wedi codi proffil y Gymraeg yn y dre yn ogystal 芒 chynnig budd economaidd i fusnesau Llanrwst. Mae'r Fenter yn bwriadu cynnal Llanast Llanrwst eto'r flwyddyn nesaf. Os oes gennych syniadau ynglyn 芒'r Wyl ffoniwch Menter Iaith Conwy 01492 642357 neu e-bostiwch menteriaithconwy@cymrui.net
|