Coeliwch neu beidio, oes mae 'na!
Sefydlwyd Yr Odyn a llu o bapurau bro eraill yn sgil bwrlwm cenedlaethol y saithdegau. Roedd yn fodd o droi egni'r protestio a'r ymgyrchu yn weithgaredd diwylliannol a chymdeithasol a fyddai'n crythau Cymreictod y fro. Gobeithio bod Yr Odyn wedi llwyddo, i ryw raddau neu'i gilydd beth bynnag, yn hynny o beth.Nodwedd arall oedd mai criw o bobl ifainc oedd y tu cefn i'r fenter yn Nant Conwy fel mewn cymaint o ardaloedd eraill. Criw yn eu hugeiniau a'r tridegau cynnar oedd y rhan fwyaf ac yn gapten ar y criw, wrth gwrs, roedd Arthur Thomas.
Roedd paratoi'r Odyn dros y blynyddoedd cynnar yn dasg llawer mwy llafurus, gyda'r deunydd i gyd yn cael ei deipio ar deipiaduron digon anwadal gan nad oedd sôn am gyfrifiaduron a phrosesu geiriau! Byddai'r teipyddion a'r gosodwyr yn treulio tair noson, ac weithiau pedair, yn cael trefn ar bob dim. Ysgol Dolwyddelan oedd y man cyfarfod ar y dechrau, cyn symud i Dan Lan ac yna'r ysgol ym Metws-y-coed.
Dim ond wyth tudalen oedd i' r rhifyn cyntaf ond roedd pwt o hanes pob pentref i'w gae1.
Heidiwch i brynu'r Odyn - yn hwnnw
Cewch hanes y dyffryn
Yn wastad bydd pob testun
Yn eich iaith annwyl eich hun.
oedd anogaeth englyn yn y rhifyn hwnnw.
Ar y dudalen flaen roedd llun criw o Ysbyty Ifan a fu'n fuddugol yng Ngŵyl Giamocs Cerrig-y-drudion ac un ohonynt, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach yn dathlu dod yn dad am y nawfed tro!
Bu Eisteddfod ym Melin-y-coed a dwy ferch fach yn ennill gwobrau dan 7 oed, Catherine Davies ar yr unawd ac Edna Roberts am adrodd.
Roedd cyfarfod agoriadol yr Urdd wedi ei gynnal yng Nghapel Garmon a Gordon Jones wedi ei ddewis yn Arweinydd, Enid Thomas yn Ysgrifennydd a Clydwen Davies yn Drysorydd.
Dan Capel Curig dymunwyd yn dda i Margaret a Tomos, Garth ar gychwyn eu gyrfa yng Ngholeg Glynllifon a llongyfarchwyd tîm dartiau'r Bryntyrch ar guro'r Red Lion, Ty'n-y-groes a'r Ship yn Nhrefriw. Bu'r Prifardd Emrys Roberts yn meurynna mewn Ymryson y Beirdd ym Mhentrefoelas a chofnodwyd englyn R.E. Jones i un arall o fawrion llên y fro:
Huw Sêl, fel 'rych yn sylwi - sydd o hyd
Yn ŵr hardd a heini.
A rhoes yn awr, siars i ni
Na redwch i briodi.
Gwelwyd llun o 17 o ferched plwyf Penmachno a oedd wedi codi £135 tuag at y Cylch Meithrin wedi cerdded i Cwm ac yn ôl. Roedd cyhoeddiad bod Dr Jeffries, y meddyg newydd, yn cychwyn cynnal meddygfa yn Nhan-y-dderwen a chroesawyd Iwan, mab Ann a Ken adref o'r ysbyty. Diolch byth - mae'n dal i weithio'n galed dros yr Odyn!
Roedd Colofn Bop Dafydd Gwyndaf yn ffarwelio â dau grŵp o'r ardal oedd yn rhoi'r gorau iddi, y Mellt a Mimosa a chafwyd llun o bedwar o sêr pop y cyfnod Glyn Jenks, Phil Jones, Ithel ac Elfed!
Dymunodd pobl Betws yn dda i Elizabeth Grodzicka a John Thomas ar eu priodas ac i Dafydd, Ty'r Banc, Vida Little a Susanne Williams ar ddechrau eu gyrfa golegol tra'r oedd Dolwyddelan yn ymhyfrydu yn llwyddiant Eurwyn Roberts ar werthu ei blu pysgota cyn belled ag Awstralia ac America - a'i longyfarch ar ennill Cwpan Siabod am y marciau uchaf am gynnyrch gardd yn Sioe'r pentref - fel y gwnaeth yn 1971, 1973 a 1974 hefyd!
Ar y dudalen gefn roedd llun o dîm balch Machno wedi iddynt guro Trawsfynydd 3 i 1 ac adroddiad o gêm yr ail dîm hefyd yn nodi fod bechgyn ifanc fel Merfyn Morris a Thomas Owen yn cael cyfle i wneud eu marc. Gweld yn chwith roedd Dolwyddelan gan fod Selwyn Hughes "a fu'n asgwrn cefn y clwb am lawer tymor" bellach yn chwarae i dîm
cyntaf Blaenau Ffestiniog.
Ydi, mae'r Odyn wedi cofnodi hynt a helynt sawl cenhedlaeth erbyn hyn a gobeithio y bydd digon o weithgaredd Cymraeg a Chymreig hwyliog, amrywiol a diddorol i'w adrodd am 30 mlynedd arall. Ond cofiwch mai mynd yn hÅ·n mae llawer o'r criw a byddai'n braf cael rhagor o waed newydd i ysgwyddo peth o'r gwaith.