³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
TÅ· Mawr Wybrnant TÅ· Mawr Wybrnant
Medi 2008
Efallai mai'r mwstash ysblennydd sy'n tynnu eich sylw gyntaf, ond y chwerthiniad sy'n creu'r argraff o Wil Edwards a fydd yn aros efo chi am hir.

Mae'n ddiffuant ac yn syth o'r galon, ac rydych yn teimlo'n syth fel eich bod yng nghwmni hen ffrind.

Wrth gamu dros riniog TÅ· Mawr Wybrnant, rydych chi yn nhiriogaeth Wil Edwards, a gallwch ddweud o'r cychwyn cyntaf eich bod yn mynd i fwynhau eich ymweliad.

Mae'n gallu adrodd hanes y tÅ· heb lol, ond y tameidiau bach blasus eraill y mae'n taflu i mewn i'r sgwrs sy'n aros yn y cof.

Oes, mae ganddo ambell i syrpreis i fyny ei lawes. Mae'n ddiffuant ac yn syth o'r galon, ac rydych yn teimlo'n syth fel eich bod yng nghwmni hen ffrind.

Wrth gamu dros riniog TÅ· Mawr Wybrnant, rydych chi yn nhiriogaeth Wil Edwards, a gallwch ddweud o'r cychwyn cyntaf eich bod yn mynd i fwynhau eich ymweliad.

Mae'n gallu adrodd hanes y tÅ· heb lol, ond y tameidiau bach blasus eraill y mae'n taflu i mewn i'r sgwrs sy'n aros yn y cof.

Oes, mae ganddo ambell i syrpreis i fyny ei lawes.

William Morgan

Dyma fan geni'r Esgob William Morgan wrth gwrs y cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, ac fel mae WiI yn ein hatgoffa, y dyn gaiff y clod am sicrhau parhad yr iaith.

Roedd y plant wrth eu boddau wrth glywed Wil yn dod â hanes y lle yn fyw, trwy esbonio na fyddai gwydr ar y ffenestri yn oes William Morgan, dim ond drysau pren i gadw'r gwyntoedd gaeafol allan.

Roedden nhw'n meddwl mai tynnu coes oedd o pan ddywedodd y byddai'r anifeiliaid wedi rhannu'r tÅ· efo'r teulu yn ystod y misoedd oeraf, ac roedden nhw'n anghrediniol pan ddywedodd y byddai plant yr oes honno'n cael eu gwnio i mewn i'w dillad am y gaeaf.

Dyma'r perlau annisgwyl y mae WiI yn eu taflu i mewn i'r pair wrth adrodd hanes TÅ· Mawr, gyda'r chwerthiniad nodweddiadol yn britho'r sgwrs.

Dwi'n trio egluro i blant sut fyddai TÅ· Mawr yn gweithio yn oes y Tuduriaid.

Pa arogleuon fyddai yma, pa mor dywyll fyddai hi, pa mor oer ac yn y blaen. Dyma fy ffordd i o drio dod a hanes y lle yn fyw.

Hen Grefftau

Yn wreiddiol o'r Bala, mae Wil wedi byw yng Nghwm Wybrnant ers chwe blynedd, ac wedi bod yn gofalu am TÅ· Mawr ers tair o'r rheiny.

Yn ystod y gaeaf, pan nad yw'r tŷ ar agor i'r cyhoedd, mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn gweithio ar brosiectau eraill , sydd yn amlach na pheidio'n ymwneud a hen grefftau megis plastro â chlom, a gwyngalchu.

Ond mae'n amlwg mai Tŷ Mawr yw ei gariad cyntaf, ac mae'n ceisio gwneud ymweliad â'r lle mor bleserus a phosib, a hyd yn oed yn fwy deniadol i deuluoedd yn ogystal a'r ymwelwyr diwylliannol arferol sy'n dod i Dŷ Mawr.

Rydan ni'n ceisio gwneud y lle yn werth chweil i deuluoedd dreulio dipyn o amser yma, ac nid dim ond rhyw hanner awr yn mynd rownd y tÅ·.

Dyna pam yr ydym wedi dechrau'r pecynnau gweithgaredd sydd wedi eu selio ar eu hymweliad a TÅ· Mawr.

Llwybr Hud

Mae'n rhywbeth y gall teuluoedd ei gwblhau yn yr ardd, efo'u picnic efallai, ar ôl mynd rownd y tŷ.

Mae Llwybr Hud yr Anifail yn weithgaredd teuluol arall sydd wedi cael derbyniad gwresog, os ydy'r niferoedd o deuluoedd sy'n dychwelyd yma yn unrhyw fath o linyn mesur.

Mae 15 o anifeiliaid pren wedi eu cuddio yma ac acw ar hyd llwybr hanner milltir, a'r gamp yw bod y cyntaf i ganfod y cwbl.

Un peth y mae gennym ddigonedd ohono yma yn NhÅ· Mawr ydy heddwch, meddai Wil. Be sydd gennym ydy lle bendigedig i blant fwynhau eu hunain mewn amgylchedd ddiogel, sydd ddim yn costio ffortiwn i'w rhieni.

Eglurodd Wil ei fod hefyd yn ceisio denu pobl leol i ymweld air tÅ·.

Mae cyfraniad y tÅ· yma i hanes Cymru a'r iaith Gymraeg yn amhrisiadwy.

Mae'n debyg y byddai'r iaith ar ei gwely angau erbyn hyn oni bai am gamp William Morgan.

Mae cymaint wedi digwydd yn yr ardal yma hefyd dros y canrifoedd, mae yna gymaint i'w ddysgu ac eto dydyn ni byth yn dysgu dim am beth sydd ar garreg ein drws.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý