Er mai yn Ionawr 1909 y derbyniodd plant eu haddysg am y tro cyntaf yn yr ysgol newydd, cynhaliwyd yr Agoriad Swyddogol ar ddydd Sadwrn, 12 Rhagfyr 1908 felly roedd y dathlu yn digwydd mwy neu lai ganrif union yn ddiweddarach - i'r diwrnod!
Nol yn 1908, wedi i'r Dr Michael Williams, Cadeirydd y Cyngor Plwy', agor yr adeilad yn ffurfiol, gorymdeithiwyd i
Neuadd Ty'n-y-porth ar gyfer cyfarfod cyhoeddus a the parti.
Ganrif yn ddiweddarach, roedd arddangosfa wedi ei pharatoi yn yr ysgol o hen luniau a dogfennau eraill.
Manteisiwyd ar dechnoleg fodern i sganio'r rheiny a chofnodi cymaint o enwau a phosib i sefydlu archif yn yr ysgol fel bod y cyfan ar gof a chadw i'r dyfodol.
Un o uchafbwyntiau'r dathlu oedd y disgyblion presennol yn cyflwyno braslun o hanes yr ysgol, gyda'r caneuon wedi eu hysgrifennu gan y pennaeth Mrs Jane Hughes a'i gŵr, Dafydd, y pennaeth blaenorol, wrth gwrs.
Cafwyd gair ganddo ef a chan gyn¬
bennaeth arall, Mr Ellis Hughes a oedd yn brifathro rhwng 1955 a 1962.
Roedd yn braf iawn cael ei groesawu ef yn ôl ac, er yn ei nawdegau, cafwyd anerchiad byrlymus ganddo ac roedd yn rhyfeddol fel y gallai gofio hynt a helynt cymaint o'i hen ddisgyblion.
Yn anffodus, nid oedd ei olynydd, Mr John Hughes, yn gallu bod yn bresennol oherwydd gwaeledd.
Roedd hynny'n siom fawr iddo ef ac i lawer oedd wedi edrych
ymlaen at ei weld.
Danfonwyd cofion gorau'r cyfarfod ato.
Cafwyd anerchiadau pwrpasol iawn gan Dilwyn Price, a oedd yn cynrychioli'r Awdurdod Addysg a Gareth Jones, AC ac roedd Dafydd Gwyndaf, Cadeirydd y Pwyllgor Dathlu'n cadw trefn ar bawb.
Ac, os cafwyd te parti yn 1908, roedd paned a lluniaeth ar gael yn 2008 hefyd diolch i waith caled cogyddes yr ysgol, Dilys Roberts, a'i chriw o gynorthwywr prysur.
Ymysg y dyrfa roedd y parchedigion
Gerwyn Roberts a Clive Hillman. Ganrif yn ôl, ni fyddai gweinidog anghydffurfiol a rheithor y plwy' wedi bod mor gytun.
Bu sefydlu'r ysgol newydd yn destun dadl hir a chwerw gan fod ysgol ym Mhenmachno eisoes, ysgol
eglwysig dan awdurdod y Gymdeithas Genedlaethol.
Erbyn 1907 roedd cynifer a 196 ar lyfrau'r ysgol honno a'r adeilad yn amlwg yn llawer rhy fach. Ar ben hynny, roedd y mwyafrif llethol yn blant capelwyr selog Penmachno nad oedd eu rhieni eisiau eu gweld dan ddylanwad yr eglwys.
Cafwyd ymgyrch hir i berswadio'r Cyngor Sir i fuddsoddi mewn ysgol newydd, ymgyrch a fu'n llwyddiannus pan brynwyd tir a oedd yn perthyn i'r Dr Michael Williams, Mostyn Villa (Tryfan heddiw) am £453 a chodi ysgol newydd am £2,300.
Ar y llaw arall, arweiniodd y rheithor, y Parchedig Ben Jones, wrthwynebiad chwerw. Haerai ef mai dim ond 'llond dwrn o eithafwyr' a oedd eisiau ysgol newydd a bod addysg o safon uchel ar gael eisoes yn yr hen ysgol ac y byddai'r cyfan yn rhoi baich afresymol ar ysgwyddau Penmachno.
Ond cafwyd Ysgol Gyngor, a chroesodd
155 o ddisgyblion y bont i'r ysgol newydd gan adael rhyw ddeugain yn yr hen ysgol Genedlaethol.
A phan gynhaliwyd de parti i ddathlu'r Agoriad swyddogol, trefnodd y Parchedig Ben Jones ei de parti ei hun i blant yr hen ysgol!
Heb gefnogaeth ariannol y Cyngor Sir, edwino'n raddol fu hanes honno a chaeodd yn
1921 gyda dim ond 11yn weddill.
Nid dyna'r unig ysgolion yn y plwy' bryd hynny. Mae'n rhyfedd meddwl bod cymaint â chwe ysgol rhwng 1908 a 1914.
Yn ychwanegol at y ddwy ym mhentref Penmachno, roedd
Ysgolion Cyfyng, yn gwasanaethu ardal yr
Wybmant, a Rhiw-bach, ar gyfer plant y chwarelwyr, ac Ysgol Genedlaethol yng Nghwm Penmachno gyda changen yng nghapel Carmel ar gyfer plant ieuengaf y pen ucha'. Rhwng y cyfan roedd dros 350 o blant yn derbyn addysg ynddynt!
Caewyd Ysgol Rhiw-bach ar ddechrau'r
Rhyfel Mawr ond parhaodd drysau Ysgol Cyfyng ar agor tan 1958 ac Ysgol Cwm (Ysgol y Cyngor ers 1922) tan 1964.
Arhosodd y niferoedd yn Ysgol Penmachno dros gant tan wedi'r Ail Rhyfel Byd (106 ar y gofrestr ym Medi 1945) ond roedd plant hyd at 15 mlwydd oed yn aros yno, os oeddent yn methu'r 11+, tan sefydlu Ysgol Dyfftyn Conwy yn 1962.
Arhosodd y niferoedd yn gyson dros yr hanner cant am weddill y ganrif fel y
dengys y ffigyrau canlynol: 1971 - 82 o
blant; 1983 - 52; 1989 - 73 a 1994 - 58.
Erbyn 2008 mae llai na 30 o ddisgyblion
ond, mae'n argoeli'n well gyda nifer dda o fabanod a theuluoedd ifanc felly gobeithio y bydd yn bosib i do arall fedru dathlu daucanmlwyddiant yn 2108!
Efallai y byddai rhestr o benaethiaid yr ysgol o ddiddordeb:
1908 - 1912 F.O. Jones
1912 - 1929 T.W. Jones
1929-1941 J.E. Thomas
1942 - 1954 Alun Ogwen Williams
1955 - 1962 Ellis Hughes
1963 - 1978 John Hugh Hughes
1979 - 2005 Dafydd Alwyn Hughes
2005 - Jane Lloyd Hughes