Ac yn waeth fyth gorfodi eich teulu a'ch ffrindiau i edrych arnynt. Ond wrth i flynyddoedd fynd heibio mae rhywbeth braf, doniol ac hiraethus mewn pori drwy hen ffotograffau.
"Paid a tynnu fy llun i' ydy gwaedd lot pan mae camera yn pwyntio atynt, ond mae'n hawdd i ni anghofio pan ddaeth y camera allan gyntaf roedd yn dechnoleg ffantastig.
Roedd gan bobl ddiddordeb mawr cofnodi eu hunain ac eraill, roedd camera yn ddull cyflym i wneud hyn o'i gymharu a peintio portread.
Dyna pam mae y ffotograffau yma yn werthfawr.
Mae edrych ar wynebau a dwylo y merched yn y lIuniau yma yn rhoi syniad i ni o galedi bywyd yn ystod Oes Fictoria.
Cymro o'r enw John Thomas oedd y ffotograffydd, roedd ganddo stiwdio yn Lerpwl,
y Cambrian Gallery ble byddai'n ennill ei fara menyn yn tynnu lIuniau confensiynol o bobl parchus dosbarth canol.
Ond datblygodd ddiddordeb ac hoffter o deithio o gwmpas Cymru yn tynnu lIuniau pentrefi, capeli, marchnadoedd ac yn fwy diddorol, y bobl gyffredin (gan gynnwys y cardotyn a'r meddwyn nad oedd yn gonfensiynol o gwbl yn Ges Fictoria).
Bu yn Ysbyty Ifan yn 1875 gan aros chwech diwrnod yno nes i'r cariwr wythnosol alw heibio.
Disgrifiodd 'Sbyty fel "Lle tawel clyd " ac fe hoffai'r bobl.
Gwelwn yma lun o ferched elusendai 'Sbyty yn eu dillad gorau.
Gwyddai John Thomas ei fod am lun ohonynt fel pobl balch a nid oedd am ei bychanu.
Fel Cymro roedd ganddo barch at y bobl hyn.
Felly gwelwn ferched Capel Garmon yn gwau sanau wrth ymyl yr olwyn nyddu.
Roedd gwau sanau yn bwysig iawn i'r economi, yn ddiwydiant bwthyn go iawn.
Mae y merched yma hefyd yn eu dillad gorau.
Byddai wrth ei fodd yn mynd i ffeiriau a marchnadoedd. Byddai dydd y ffair yn ddiwrnod cyflog i lawer a mae sôn i John Thomas gynhyrchu y nifer mwyaf o ffotograffau mewn un diwrnod, sef 47 yn
ffair Pentrefoelas.
Cofiwch mai proses hir oedd prosesu llun yn y cyfnod yma.
Yn ogystal a lluniau Capel Garmon a 'Sbyty, mae yn y casgliad luniau o
Betws, Dolwyddelan, Penmachno a Pentrefoelas.
Bellach mae y casgliad wedi ei ddigido gan y Llyfrgell Genedlaethol, a diolch am ganiatâd i gyhoeddi y ddau yma.