Fe aeth tîm i gystadlu yn y Cwis Hwyl yng Ngwesty'r Eryrod Llanrwst ar Dachwedd 20ed - llongyfarchiadau i Dorothy, Anne-Marie, Ann P a Dilys ar ddod yn gydradd 3ydd drwy'r rhanbarth.
Roedd Cyngerdd Lleisiau Lliwedd yn llwyddiannus, er fod y gynulleidfa braidd yn denau ond roedd pawb wedi mwynhau a gwnaethpwyd elw sylweddol i elusen sydd eto i'w henwi.
Cafwyd hwyl ar siopa yn Lerpwl, a cawsom ein cinio Nadolig ar Ragfyr 11eg yng Ngwesty Pont y Pair, llawer o ddiolch i Antoine a Bethan am eu croeso a'r bwyd ardderchog.
Pump o aelodau yn dangos gwaith crefft oedd thema'r noson, gyda Dorothy yn
dangos gwaith cerfio coed, Anne-Marie yn
dangos gwaith gwau, Ann y Ffald yn dangos sut mae gwneud botymau o bob math gan ddefnyddio clai arbennig, Ann P yn dangos gwau eithafol gyda gweill enfawr, ag Eifiona yn nyddu ac yn dangos eitemau cywrain o waith llaw.
Cawsom noson gartrefol gyda digon o amser i sgwrsio a rhoi cynnig ar y gwahanol grefftau.
Anwen ag
Eifiona oedd yn gwneud paned ac enillydd y raffl oedd Catherine.
Enillwyr cystadleuaeth y mis - gosodiad blodau mewn cwpan wy oedd 1. Olwen M 2. Dorothy ag Olwen M 3.Sue a Dilys.
Yn ein cyfarfod nesaf ar Ionawr 18ed byddwn yn mynd i Siwgwr a Sbeis yn Llanrwst.
|