gan Diarmuid Johnson Bu cryn sôn yn ddiweddar am ddatganiad Joschka Fischer, gweinidog materion allanol yr Almaen, ynglyn â ffederaleiddio Ewrop. Gweld y Gymuned Ewropeaidd yn magu peth sofraniaeth y mae'r Almaenwyr. Bu'r Almaen yn fodlon diarddel sofraniaeth y Deutschmark i hybu'r Ewro, ond mae'r gair 'ffederaliaeth' yn peri pryder yn Ffrainc. Gweld y drafodaeth am ffederaliaeth Ewrop yn 'beth iach' y mae'r Prif Weinidog Lionel Jospin, llywydd y Blaid Sosialaidd. Nid yw ef ac Arlywydd Ffrainc, Jaques Chirac, ceidwadwr traddodiadol, yn cyd-weld. Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus. Mae'r drafodaeth am ffederaliaeth yn rhan hanfodol o'r drafodaeth am gynnwys rhagor o wledydd yn y Gymuned Ewropeaidd. Tair blynedd yn ôl yr oedd Jaques Chirac yn gobeithio agor y drws i Wlad Pwyl, i Ungaria ac i'r Wladwriaeth Czech erbyn 2000. Ond mae'r pleidleiswyr yn yr Almaen ac yn Awstria yn pryderu am weithlu dwyrain Ewrop, ac aros am ail wynt y mae'r broses ehangu bellach. Yn ogystal â gweithlu estron, y mae testun pryder i wledydd 'niwtral' fel Iwerddon a Norwy, mewn datblygiadau eraill. Maen nhw'n credu fod lle i ofni milwreiddio'r Gymuned. Mae'r milwreiddio yn rhan o gynlluniau Ffrainc a'r Almaen heb os nac oni bai. Ar ôl dwys ystyried y cwestiwn, penderfynodd llywodraeth Schroder y bydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu ym Merlin cyn bo hir. Gall yr Airbus gludo 37 tunnell am 5000 km, neu hyd at 140 parasiwtydd. Cyndyn iawn i gymryd rhan mewn unrhyw weithred filwrol fu'r Almaen ers ailuno'r wlad yn 1989 oherwydd y cof am ddinistr yr Ail Ryfel Byd. Ond anfonodd yr Almaen filwyr i Kosovo y llynedd gan esgor, felly, ar drefn newydd. Mae cynllun Airbus yn brawf digamsyniol fod y drefn newydd honno, fel sofraniaeth Ewrop, yn cael ei harddel ar lan y Rhein, ac o ystyried geiriau Jaques Chirac, ar lan y Seine hefyd.
|