|
|
Addunedau 2002
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw. Dydd Llun, Ionawr 14, 2002
|
Mae'r flwyddyn newydd wedi llithro i mewn drwy'r drws cefn yn ddigon tawel a di-nod ac efallai mai dyma'r ffordd orau i'w chyfarch. Felly dyma fi ar ddechrau Ionawr fel rhyw Janus ddauwynebog gydag un llygad ar y gorffennol ac un ar y dyfodol. Bu 2001 yn flwyddyn fythgofiadwy am sawl rheswm: tyrau Efrog Newydd yn syrthio'n ddidrugaredd, marwolaeth fy nhad yng nghyfraith wedi afiechyd creulon, gorffen fy ngwaith yng Nghaerdydd a symud gyda'r teulu i Frwsel. Roedd yn flwyddyn fawr i'r byd ac i fi'n bersonol a 'sgwn i beth ddaw i'm rhan eleni? Dydw i ddim yn un sy'n gwneud llu o addunedau ar ddechrau blwyddyn ond mae angen gweithredu ym 2002 a chael gwared o rai o'r hen arferion yna! Felly dyma'r amcanion diweddara': 1) Cael rhyw fath o fywyd cymdeithasol Dwi wedi blino ar fod yn dacsi sy'n hebrwng y merched i'w partïon a'u sesiynau chwarae mewn tai ffrindiau amrywiol. O'i gymharu â nhw does dim bywyd cymdeithasol gen i, uchafbwynt pob wythnos yw cael gwydraid o win a ffonio ffrind! Dwi am ffarwelio gyda'r dyddiau diffaith yma er mwyn arbed unrhyw sgiliau cymdeithasol sydd gen i. Dim rhagor o wylio canu fado ar deledu Portiwgal i fi yn hwyr ar nos Fawrth! 2) Peidio prynu mwy o sgidie Dwi'n cyfaddef, mae gen i wendid - ac mae nifer o ferched yn dioddef o'r un gwendid credwch chi fi - sgidie. Byddai'r gwr yn dweud fy mod yn gaeth iddynt a mod i'n addoli ar yr allor maint 4. Ond mae'r crefu yma yn fy ngwaed, rhyw fympwy enynnol - yn ôl mam roedd mamgu, menyw gall ym mhob achos bron yn colli arni hi hun mewn siop sgidiau. Dwi ddim am brynu rhagor o sgidiau a'u cuddio yng nghefn y cwpwrdd, yna eu gwisgo mewn wythnos neu ddwy a gwadu eu newydd-deb. Ta waeth does gen i ddim unman i'w gwisgo (gweler pwynt 1). 3) Bod yn fwy disgybledig gyda'r plant Ar hyn o bryd yr ieuenga' yn y teulu yw'r bos ac mae hi fel rhyw unben bach pedair oed yn rheoli. Yn ystod gwyliau'r Nadolig cefais fy mygwth ganddi"os nad wyt ti yn gadael i fi gael mwy o siocled dwi'n mynd i ddweud wrth bawb am " (nodwedd gorfforol sydd gen i!). Dywedwyd hyn o flaen gwesteion yn nhy fy rhieni oedd yn bobl rhy foesgar i holi dim byd pellach. Dim rhagor o baentio ewinedd a minlliw i'r hyna' a dwi'n bwriadu eu cael yn y gwely bob nos erbyn 8 o'r gloch heb waeddi arnynt! 4) Peidio codi cywilydd ar y plant Dwi'n peri embaras mawr i'r plant - dwi'n canu'n rhy aml ("mae gen ti lais fel bran"), dydw i ddim yn gwybod beth yw enwau aelodau'r grwp S Club 7, rwy'n dwyn eu clips gwallt ac yn holi gormod am eu dyddiau yn yr ysgol, "O mam paid â bod mor boooooooring, dwi ddim ishe siarad am yr ysgol". 5) Mwynhau'r foment Dyma'r adduned bwysica' efallai ac ym mwrlwm bywyd bob dydd mae'n hawdd anghofio pwysigrwydd y presennol - achos heb y presennol fyddai 'na ddim dyfodol. Mae'n anhepgor ein bod yn edrych ymlaen, rydyn yn cynilo a'r gyfer y dyfodol, yn buddsoddi ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac edrychwn ymlaen at y gwyliau nesa'. Ond beth yw pwrpas hyn i gyd os nad ydyn yn fodlon gyda heddiw a nawr? Mae llynedd wedi dangos i fi nad oes sicrwydd ynglyn â'r dyfodol. Pwy a wyr beth fydd yn digwydd 2002 - y flwyddyn i fwynhau a gwerthfawrogi'r foment.
|
|