|
|
Diwedd y gân yw'r Ewro!
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw Dydd Llun, Tachwedd 19, 2001
|
Colli hen ffrind a chael cyfaill newydd
Bydd fe fy ffrind Franc o Wlad Belg yn diflannu cyn bo hir. Daw y cyfan i ben wrth iddo gael ei ddisodli gan gyfaill newydd, yr Ewro. Arian newydd i wledydd Ewrop Mewn ychydig dros fis, ar Ionawr 1, 2002, bydd yr arian newydd yn dechrau cylchredeg drwy'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop - heblaw am wledydd Prydain, Denmarc a Sweden. Ers misoedd mae prisiau nwyddau mewn siopau yn cael eu harddangos ochr yn ochr mewn francs ac mewn ewros a bellach mae arwydd yr arian newydd yn ymddangos ym mhobman. Rhoddir y wybodaeth am gyfrifon banc a cheir biliau hefyd yn ddeublyg. Mae llith o wybodaeth am yr ewro yn glanio drwy'r blwch post ac mae'n amlwg fod yr awdurdodau'n gwario'n helaeth ar hyrwyddo ac esbonio ei werth. Yn yr ysgol mae'r hyna' wedi hen ddechrau dysgu am yr ewro a'r cent yn union fel y dysgais i am y geiniog a'r bunt flynyddoedd maith yn ôl! Ewro siocled ar gyfer y Dolig! Mae'r plant yn defnyddio'r arian newydd wrth chwarae siop ac yn ddiweddar prynais arian siocled yn barod i'r 'Dolig - ar ffurf yr ewro. Mae'n rhaid cyfaddef fod yr holl broses o greu, cynhyrchu a dosbarthu yn dipyn o fenter. Cynhyrchir tua 70 biliwn darn o arian a bydd yn rhaid i ewro a gynhyrchir yng Ngwlad Belg, dyweder, ffitio'n dwt i beiriant Coca-cola yng Ngwlad Groeg. Disgwylir i 300 miliwn o bobl ffarwelio ag arian cyfarwydd eu gwledydd cyn hir a chroesawu'r darnau amrywiol. Mae'r holl ewros a fathwyd yn Ffrainc yn pwyso tair gwaith gymaint â'r twr Eiffel ac mae'r awdurdodau ym Mhortiwgal wedi gofyn am gymorth offeiriaid wrth gyflwyno'r arian newydd!
Y syniad tu ôl ir cynllun Cynlluniwyd un ochr o'r ddelwedd sydd ar yr ewro gan Felgiad, Luc Luycx, ac mae'r cysyniad y tu cefn i'r gwaith yn ddiddorol. Mae'r hyn sydd ar un ochr o'r wyth darn arian yn cynrychioli nod a bwriadau'r Undeb Ewropeaidd. Gwelir ar y darnau isa' o ran gwerth, y cents sef 1, 2 a 5, lun o Ewrop o fewn y byd, tra ar y darnau 10, 20 a 50 dynodir gwledydd Ewropeaidd gwahanol a'u ffiniau. Mae'r darnau 1 a 2 Ewro yn yn dangos Ewrop heb unrhyw ffiniau o gwbl. Felly mae'r datblygiad o'r lleia' gwerthfawr i'r mwya' gwerthfawr yn gosod y Cyfandir mewn cyd-destun byd eang, yn pwysleisio hunaniaeth y gwledydd unigol ac yn dangos yr ysbryd newydd o fewn Ewrop. Pob gwlad yn dewis ei llun Ar ochr arall y darnau arian mae'r gwledydd unigol o fewn yr Undeb yn cael dewis eu cynllun eu hunain. Bydd cynnwys ein cyfrif banc yn newid. Bydd cynnwys fy mhwrs yn newid a bydd yn rhaid imi gyfarwyddo â fy ffrind newydd! Bydd yn ddiddorol cadw llygad ar werth yr ewro yn erbyn y bunt a'r ddoler achos dyma fydd mesur y llwyddiant. Wedi'r cyfan diwedd y gân yw'r geiniog - neu'r ewro wrth gwrs! Er enghraifft, bydd delwedd o frenin Albert II ar rai Gwlad Belg a bydd arian Iwerddon yn cael ei gynhyrchu gyda llun o'r delyn Wyddelig arno. Bydd yr undod ariannol yn esgor ar y rhyddid i deithio'n hawdd ac o Ionawr fydd dim rhaid newid arian wrth groesi ffin. Hwyl fawr i peseta Sbaen, lira yr Eidal, drachma Gwlad Groeg a Deutschemark yr Amaen.
|
|