|
|
Meddwi ar harddwch Brugge
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw Dydd Llun, Rhagfyr 10, 2001
|
Dinas na all Caerdydd gystadlu a'i balchder a'i diwylliant! Wedi treulio saith mis yn byw yng Ngwlad Belg roedd yn hen bryd imi ymweld âr ddinas ganoloesol a ystyrir y brydfertha yn y rhanbarth.
Mae 'Brugge' yng ngogledd orllewin y wlad ac yn adnabyddus drwy Ewrop fel dinas sy'n llawn diwylliant, celfyddyd hen a chyfoes gyda golygfeydd cerdyn post godidog. Mae'n amlwg bod awdurdodau Bruges yn buddsoddi llawer o amser, egni ac arian yn cynnal delwedd unigryw y ddinas ac mae'n sicr, gyda'r holl dwristiaid oedd yno o bob cwr o'r byd, fod yr ymdrech yn talu ar ei chanfed. Bruges yw'r ddinas sy'n denu'r nifer fwya' o ymwelwyr o blith y rhai sy'n ymweld â Gwlad Belg. Camlas a cheffyl Mae modd cael blas ar Bruges o'r gamlas ac o geffyl a chert ac mae hyn i gyd yn ychwanegu at y teimlad canoloesol sydd yno. Mae amgueddfeydd niferus y ddinas yn gartre' i brif gasgliad celf Ffleminaidd y wlad, mae'r camlesi a'r strydoedd cerrig yn hyfryd ac mae popeth yn lân ac yn ddestlus. Er ei bod yn hawdd dychmygu eich bod nôl yn y drydedd ganrif ar ddeg mae'r cyfan bron yn rhy berffaith a'r awyrgylch, o'r herwydd, yn afreal. Er gwaetha' hyn mae digon o bethau yno i blesio pawb felly bant â fi ar droed ac ar gwch i ddarganfod y ganolfan enwog. Bronnau siocled Ar y bore cyntaf roeddwn wedi ymweld ag eglwys gothig, wedi gweld ambell i leian yn crwydro, yfed sawl coffi cry' ar sgwâr hyfryd y Markt ac wedi prynu par o fronnau siocled yn anrheg pen-blwydd i ewythr di-enw ! (a do, cafodd Wncwl Caron flas ar y siapau melys!) Roedd mynd ar hyd y camlesi yn hyfryd o hamddenol ac yn ffordd dda o weld yr hen ddinas. Hawdd dychmygu nad oedd llawer wedi newid ers canrifoedd. Yn ystod yr oesoedd canol datblygodd Bruges i fod yn ganolfan bwysig o safbwynt masnachu. Rhwng 1524 a 1830 rheolwyd y ddinas gan Sbaen, Awstria, Ffrainc a'r Iseldiroedd wrth i'r gwledydd weld gwerth yn ei lleoliad. Allforiwyd gwlân o Brydain i Bruges ac yna cynhyrchwyd deunydd ohono. Mae Bruges hefyd yn baradwys i bererinion gyda 12 o eglwysi gan gynnwys yr un enwog, Heilig Bloed Basiliek, Eglwys y Gwaed Sanctaidd, a adeiladwyd rhwng 1139 a 1149. Cedwir ffiol yn yr eglwys ar sgwâr y Burg yr honnir ei bod yn dal dafnau o waed a dwr o gorff Crist. Yn ôl y stori cadwyd yr hylif gan Joseff o Arimathea wedi iddo olchi ei gorff ac er yr amheuon cyfoes mae'r traddodiad hynafol yn parhau wrth i orymdaith liwgar ond difrifol ei naws - yr Heilig-Bloedprocessie - gario'r ffiol drwy'r dre ar wyl Dydd Dyrchafael. Yn ogystal â phlesio'r rhai sydd â diddordeb yn y crefyddol mae yna ddigon o ddiwylliant yn Bruges gyda tua 13 o amgueddfeydd. O waith Jan van Eyck i luniau Magritte ceir amrywiaeth eang yn Amgueddfa Groeninge sy'n gartref i baentiadau celf Ffleminaidd hen a chyfoes. Yn amgueddfa Arentshuis arddangosir gwaith artist o dras Cymreig. Roedd Frank Brangwyn a anwyd yn Bruges yn 1867 yn enwog am baentio murluniau mawr ac mae un o'r goreuon yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe. Ond heb os, i fi, y prif ddarn celf yn Bruges yw cerflun Michelangelo o'r Madonna a'i phlentyn mewn marmor gwyn. Mae hwn wedi'i leoli yn Eglwys y Forwyn Fair.
Ym 2002 Bruges fydd Dinas Diwylliant Ewrop ac roedd tipyn o waith adnewyddu ac atgyweirio yn mynd yn ei flaen yn ystod ein hymweliad. Mae hyrwyddor diwylliant, balchder yn y dreftadaeth, agwedd broffesiynol y bobol oedd yn gweithio yn y siopau, cafés ar bwytai yn sicrhau llif cyson o ymwelwyr. Mae dinas Caerdydd yn ymgeisio i fod yn ddinas diwylliant Ewrop ym 2008 ond o weld yr hyn mae Bruges yn ei gynnig does dim gobaith gan Caerdydd. Yn anffodus.
|
|