|
|
Plant pobl eraill
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw. Dydd Llun, Ionawr 28, 2002
|
Plant pobl eraill - dyma frîd rhyfedd ynte? Mae nhw i'w gweld mor foesgar yn ystod oriau ysgol - ac yn bethau bach digon diniwed gyda'u rhieni - ond ar iddynt gyrraedd chez Dafydd mae'r diafol bach coch yn ymddangos gan gorddi'r plant a dechrau chwarae ei gastiau dwl! Y brodyr drws nesaf Yn ddiweddar mae rhibidirês o blant wedi bod yma yn chwarae gyda'r ddwy - yn gyntaf daeth y brodyr sy'n byw drws nesa'. Malwyd y gêm Connect 4 a thaflwyd y darnau bach crwn coch a glas ar hyd y lle. Bu'r ddau yn ymladd ac yn gweiddi a dienyddiwyd Barbies y merched - camgymeriad mawr ar ran y ddau frawd achos byddai unrhyw beth ond tynnu pennau'r Barbies wedi cael maddeuant. Dyna ddiwedd ar bethau a minnau yn dechrau teimlo fel Kofi Annan! Llwyddodd y merched i ddweud wrthynt yn eu Ffrangeg gorau am fynd adre'! Bellach, wedi'r erchyllterau a ddioddefwyd gan y doliau hirgoes, gwalltog, mae'r ddwy wedi datgan yn ddiflewyn ar dafod nad yw ein cymdogion bach yn cael mynd yn agos i'w hystafell wely. Chwiorydd y malwod Y nesa' i ymweld â Rue Gerard oedd ffrindiau ysgol sydd hefyd yn digwydd bod yn ddwy chwaer. Llwyddodd yr hynaf ohonynt i gasglu holl falwod yr ardd ac ambell fwydyn, eu cuddio mewn ymbarél a chynnig lloches iddynt yn fy nhy glân. Does gen i ddim byd yn erbyn malwod - maen nhw'n gallu bod yn reit flasus gydag ambell ewyn garlleg - ond mae'n well gen i nhw o lawer pan fo nhw'n aros yn eu cynefin! 'Dyw gweld yr ôl arian ar hyd eich cadeiriau ddim yn rhywbeth sy'n eu hanwylo yn eich golwg a does dim hwyl 'chwaith mewn darganfod cragen wâg a fflemsan werdd yn eich llofft! Adeg cinio penderfynodd yr ymwelwyr eu bod am gael picnic yn yr ardd ac er nad dyma'r adeg i fwynhau pryd alfresco ym Mrwsel roedd y syniad wedi cydio. Dangosodd pedair merch fach eu sgiliau rhesymu ardderchog ac wedi lobïo hir a chaled bu cyfaddawdu a chafwyd gwledd o fath yn y ty bach twt yng nghanol y lolfa. Ar i fyny Dringwraig o fri oedd y nesa' i ddod atom. Roedd ei mam yn dioddef o'r ffliw a'r system wresogi yn eu ty wedi torri . Ar ddiwedd diwrnod ysgol ar ryw brynhawn dydd Mawrth di-nôd daeth Victoria nôl i dreulio'r nos fel cath fach ar goll a nodyn yn esbonio'r sefyllfa yn ei bag. Wedi gwylio'r teledu, cael swper a gorffen eu gwaith cartref, aeth y tair i'r bath (popeth yn iawn tan hyn). Ar ôl chwarter awr roedd mwy o ddwr ar lawr y folchfa nac yn y bath ei hun! Roeddynt wedi golchi'r hwyaid plastig melyn gyda fy hoff siampw a gwagio'r hufen corff hyfryd a gefais yn anrheg Dolig a'i ddefnyddio i lanhau'r teils uwchben y baddon. Wedi hyn y dechreuodd y dringo gyda'r gath fechan yn troi'n llewpard mentrus gan esgyn i fannau peryglus ac i dyllau cyfrin ar ben grisiau serth. Roedd yn dal i ddringo am ddeg o'r gloch y noson honno i ben cypyrddau uchel y ty - rhaid cyfaddef er ei bod yn gariad o ferch roeddwn yn falch o ffarwelio â hi yn y bore a gweddiais y byddai ganddynt wres yn y ty! Fy mhlant i . . . Ond dyna ni, pethau bach digon cymdeithasol yw plant, ac rwy'n mawr obeithio bod Gwen a Heledd yn ymddwyn yn gall pan yn ymweld â chartrefi eu ffrindiau. Rhyfedd felly, pan yw'n amser eu casglu, fod y mamau yn gwenu gyda rhyddhad wrth ffarwelio â nhw ac yn sychu'r chwys o'u talcen. Gwyn y gwêl mae'n siwr....
|
|