|
|
Ymweliad arbennig
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel Dydd Llun, Mehefin 10, 2002
|
Gwawriodd y dydd, dydd Mercher i fod yn benodol, ac roedd fel pob diwrnod arall - mynd i lawr y grisiau i baratoi brecwast i'r plant, gwneud eu brechdanau a phacio'u bagiau, darganfod dillad glân, newid, gweiddi ar bawb a gadael y ty yn hwyr. Ond yn ystod y prynhawn arbennig hwn byddai 'na newid i'r patrwm arferol. Roedd Heledd sydd bellach bron yn bum mlwydd oed yn ymweld â'r deintydd am y tro cyntaf. 'Dyw'r newydd yma ddim yn syfrdanol iawn ond rhaid cyfaddef fy mod wedi poeni ychydig amdani. Gormod o sglods a siocled Dyma'r ferch fach fyddai'n gallu byw ar ddeiet o sglods a siocled pe byddai'n cael, mae ei sgiliau trin a thrafod yn wych ac mae gyrfa ddisglair o'i blaen os fydd y nectar melys yn rhan o'r hafaliad!
Ac wrth gwrs iddi hi mae byw ym Mrwsel fel nefoedd fach gyda'r holl siopau siocled, mae hyd yn oed ffatri siocled yma a channoedd o'r cabanau bach sy'n gwerthu sglods ar gornel strydoedd y ddinas. Felly nawr amdani wedi i sawl ffrind sôn am brofiadau gwael - clywais am nifer o blant yn cael llanw yn eu dannedd llaeth - a dim ond unwaith yr wythnos yr oedd y rhain yn cael siocled neu losin (bellach dwi'n gorfod cuddio'r melysbeth neu ei roi yn bell allan o'i chyrraedd). Ofnais y byddai'r deintydd yn fy ngwawdio am fod yn fam wael; "Mae'r dannedd hyn yn pydru, bethmae'n bwyta siocled bob dydd". O leia' byddai hyn yn fy ngalluogi i resymu gyda'r fechan - "Dyna fe mae'r deintydd wedi dweud - dim rhagor o milci wê y bolgi bach." Trefnu apwyntiad Nepell o'r man dwi'n mynd iddo i wneud gwaith gwirfoddol, mae 'na ganolfan ddeintyddol Sgandinafaidd. Felly ar ôl ymweliad ysbrydoledig ag Ikea a'r ffaith bod systemau iechyd y gwledydd yma i fod yn drwyadl ac effeithiol - i fewn â fi i drefnu apwyntiad Heledd. Wythnos yn ddiweddarach dyma ni'n cyrraedd y clinig er mwyn gweld deintydd o'r enw Frederik Lemche, fi'n chwysu chwartiau a'r ddwy yn hapus braf! Roedd Heledd yn edrych ymlaen i gael profiad newydd a finnau'n ofni'r canlyniad ac yn cofio am y mynydd o siocled yr oedd wedi ei sglaffio. Gwenodd y ferch yn y dderbynfa gyda'r dannedd gwyn, perffaith, arweiniwyd ni i'r man aros lle'r edrychais ar gylchgronau Sgandinafaidd a cheisiais feddwl am esgusodion. Daeth deintydd ifanc i'n nôl, eisteddodd Heledd yn y gadair ac esboniodd am y teclynnau yr oedd am eu defnyddio. Procio'r dannedd Bu'n siarad gyda hi, yn tynnu ei choes a phrocio'r dannedd bach cyntaf. Trodd ata i - dyma ni - y ddedfryd - "Mae glendid ceg eich plentyn yn berffaith." Bu bron i fi gwympo oddi ar fy sedd, nid dyma oeddwn wedi disgwyl ei glywed ac roedd fy rheswm am dorri siocled o'i deiet yn hollol ddi-werth nawr. Felly ar ôl talu 25 ewro a chael sgwrs ddifyr am hanes Jutland a thai haf yn Nenmarc bant â ni i gyfeiriad y metro. "Mam, fe fuais i'n ferch dda yn y deintyddalla i gael hufen ia?" holodd y fechan. Troeson ein trwynau tuag at barlwr hufen ia Hagen Das, roedd un peth yn sicr, roedd angen siwgr arna i i ddod dros y sioc!
|
|