|
|
Gwyliau chwedlonol
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel Dydd Llun, Mai 20, 2002
|
Mae'n ddiddorol clywed bod Bwrdd Croeso Cymru wedi dechrau ar ymgyrch farchnata fawr gyda'r bwriad o ddenu trigolion o Wlad Belg a'r Iseldiroedd i ymweld â Chymru. Bydd hysbyseb deledu, y gyntaf erioed gan y Bwrdd Croeso i werthu' Cymru dramor - yn cael ei hanelu at bron i bum miliwn o bobl. Dyna'r gobaith, er bod 26 miliwn yn byw yng ngwledydd Benelux.
Rhamant Pwyll a Rhiannon Bydd yr hysbys sy'n gyfuniad o animeiddio a chymeriadau cig a gwaed yn adrodd stori wych Pwyll a Rhiannon o'r Mabinogion gyda'r darluniau'n troi'n actorion sy'n marchogaeth tuag at Gastell Caeriw yn Sir Benfro. Yn ôl y corff twristiaeth mae'r 29,000 o ymwelwyr o Wlad Belg, a'r 49,000 o'r Iseldiroedd werth £13 miliwn bob blwyddyn i economi Cymru. Ac hefyd, yn ôl yr ymchwil, mae'r bobloedd yma am ymweld â gwlad sy'n cynnig chwedloniaeth a hanes. Ar eu ffordd i Iwerddon Yn flynyddol dwi'n treulio fy ngwyliau haf yng ngogledd Sir Benfro ac, yn anffodus, mae nifer fawr o'r Iseldirwyr dwi wedi cwrdd a hwy yno ar eu ffordd i Iwerddon i flasu chwedloniaeth a hanes Gwyddelig - yn ogystal â'r Guinness. Ysgwn i gwerth faint o ewros sy'n mynd i goffrau Iwerddon - tipyn mwy na £13 miliwn. Yn naturiol, rhywbeth arall sy'n denu Ewropeaid i Iwerddon yw'r ewro ond faint, yn go iawn, o ddarpariaeth sydd yna i dderbyn yr arian newydd yng Nghymru? A fydd siopau a chaffis yn fodlon derbyn yr ewro heb hawlio llog uchel? Rhai yn aros Ond rhaid dweud hefyd bod nifer o'r rhai fu'n ymweld â'r ardal wedi penderfynu aros am ddyddiau ychwanegol gan ddweud iddynt gael eu synnu gan brydferthwch naturiol y wlad a chyfoeth y parc cenedlaethol. Mae'n siwr, felly, mai dyma yw gobaith y Bwrdd Croeso - annog twristiaid i ymweld â Chymru a threulio amser yno yn hytrach na teithio drwyddi a neidio ar y fferi yn Abergwaun. Dwi'n mawr obeithio bydd yr ymgyrch yn gweithio ac yn denu twristiaid i Gymru. Mae angen yr hwb wedi holl golledion a helyntion y clwy. Dan ymbaré Prydain Ond mae un peth bach yn fy mhoeni - fod ymgyrch farchnata y Bwrdd am ddatblygu Cymru o dan 'ymbarél' Prydain. Siawns mai'r ffordd i ddatblygu Cymru yw dangos a nodi'r gwahaniaethau. A yw hyn yn fater o "for Wales see England"? Mae cynnwys yr hysbyseb, stori o'r Mabinogion, yn hynod i Gymru. Chwedloniaeth a hanes sy'n denu'r ymwelwyr ac mae'r ddau beth yma mor gyffredin a gwerthfawr â'r dwr yng Nghymru.
Pam, felly, mae'n rhaid bod o dan yr 'ymbarél'? Y gwahaniaethau nid yr hyn sy'n debyg sy'n ddiddorol i ymwelwyr. Edrychaf ymlaen at weld yr hysbyseb. Caf eistedd o flaen y bocs yn fy nghartref ym Mrwsel a gweld pendefig Dyfed a'i gariad yn dod yn fyw o flaen fy llygaid. Gobeithio y bydd yn codi hiraeth arnaf i - ac awydd ar weddill Gwlad Belg.
|
|