Sian Elin Dafydd yn sgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw
Penderfyniad munud ola' oedd mynd i Antwerp, ond ar ôl yr ymweliad undydd dwi'n benderfynol o fynd yn ôl i ddarganfod mwy am y ddinas gymysg hon. Mae cyrraedd Antwerp yn hawdd. Cymerodd y daith ychydig dros awr yn y car ond yn wahanol i Frwsel, sy'n hollol ddwyieithog, Fflemineg yw iaith swyddogol Antwerp. Deiamwntiau mewn tlodi Ar yr olwg gyntaf nid yw'r hen borthladd yma yn lle cyfoethog iawn ac mae'r ardaloedd o amgylch y dociau a'r brif orsaf yn dlodaidd - OND, diwydiant deiamwntiau Antwerp yw'r mwyaf yn y byd ac mae darluniau gorau Rubens, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn y ddinas, yn addurno waliau'r galerïau a'r eglwysi yno. Mae'n ddinas o eithafion, yn llawn o'r annisgwyl. Yn gudd bron, y tu ôl i'r Centraal Station, mae 'na sw a pharc dinesig, sy'n hafan i drigolion ac ymwelwyr ac yn gartre' i tua 4,000 o anifeiliaid amrywiol. Sefydlwyd Sw Antwerp ym 1843 - yr wythfed o'i bath yn y byd. Roedd llygaid y plant fel soseri wrth iddynt weld eliffantod o'r India, giraffs gosgeiddig, pengwins prysur, camelod a cheirw. Gwelson hipo unig (dim jôcs mam-yng-nghyfraith os gwelwch yn dda), arth wen yn eistedd yn ddiflas yn ei chartref fel petai hi'n aros am fws a'r mwya' trawiadol o'r Arch Noah o gasgliad oedd teulu'r gath - y llewod a'r llewpard, jagiwar a'r panther. Mae'n brofiad anhygoel gweld jagiwar du, cryf, yn gorwedd yn ddiog mewn coeden yn cadw llygad barcud ar y cyfan o'i amgylch. A phan fyddai'n barod i gael gwared â'r gwr, dwi'n gwybod ble i fynd i roi hergwd fach iddo!
Rhywbeth yn drist Wedyn draw a ni i weld y mwncïod. Mae rhywbeth trist iawn gweld anifeiliaid fel orang-wtangiaid, epaod a tsimpansïaid mewn 'stafelloedd mawr gwydr gyda chriw o rai tebyg yn eu gwylio. Pwy sydd galla' wir? Roedd un tsimp yn cyfathrebu gyda gwraig oedd yn dangos cynnwys ei bag iddo - yn ystumio ac yn gofyn am gael gweld yr hyn oedd ym mhocedi eraill y sach ledr ond doedd dim yn ei blesio a bant a fe i grafu ei fol! Roedd yr orang-wtang yn y lle nesa' wedi troi ei gefn ar y gynulleidfa, roedd yr hen ddyn o'r coed yn amlwg wedi cael digon ar berfformio ac roedd angen bach o lonydd neu breifatrwydd arno druan. Gwylio'r byd a'i bobl Wedi'r trafod brwd am yr anifeiliaid, (Ydi mwncïod yn gorfod brwsio'u dannedd Mam?) bant a ni i ganol y ddinas i weld y Grote Markt, sgwâr pert gyda cherflun trawiadol, Ffynnon Brabo, yn y canol. Lle gwych i gael paned neu ddiod a gwylio'r byd a'i bethau, a'r ymwelwyr o Siapan yn tynnu lluniau. Ond y rhyfeddod mwya' i mi oedd yr ardal i'r de orllewin o'r Centraal Station. Tlawd a llwyd Mae'n ardal dlawd a llwyd a does dim arwydd allanol mai hon yw'r ganolfan ddeiamwntiau fwyaf yn y byd. Mae'r unedau bach siabi yng nghysgod yr orsaf yn llawn gemau gwerthfawr o bob cwr, fe'u danfonir yno i gael eu torri, eu trin a'u gwerthu.
Rheolir y diwydiant gan Iddewon uniongred a ddaeth yno o ddwyrain Ewrop tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sicr byddaf yn mynd yn ôl i Antwerp i weld mwy o'r ddinas annisgwyl o hyfryd ond y tro nesa' bydd cerdyn banc neu lyfr sieciau yn saff yng ngwaelod fy mag!
|