成人论坛


Explore the 成人论坛

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Catalog Nadolig y plant
Sian Elin Dafydd yn sgrifennu am baratoadau'r Nadolig ym Mrwsel
Dyma ni eto, mae'r Dolig ar ein pennau, mae'r plant yn golygu eu llythyrau Siôn Corn yn nosweithiol ar ôl siarad â'u ffrindiau.

Eleni mae'r hyna wedi sgwennu llythr a chreu catalog fydd yn mynd gyda'r llythr rhag ofn bod Siôn Corn ddim yn siwr o'i bethau!

Bu sawl ymweliad â siop deganau wych o'r enw Christiaensens gerllaw'r ty, yna treuliodd hydoedd yn dewis a dethol cyn torri allan y lluniau o gylchgrawn Dolig y siop.

Mae'r catalog bondigrybwyll sy'n cynnwys y lluniau o'r anrhegion mae'n gobeithio eu derbyn bron fel llyfryn bach proffesinol. Trueni na fyddai mor drefnus gyda'i gwaith cartref! .

Ac wrth gwrs mae plant bach yng Ngwlad Belg yn dathlu gwyl Sant Nicolas ar ddechrau Rhagfyr, a dyma'r cyfnod lle maen nhwn derbyn eu anrhegion.

Felly mae'r ddwy wedi bod yn manteisio ar y gwahaniaeth diwylliannol gan sgwennu nodiadau cyson at cher Sant Nicolas yn gofyn am anrhegion sil vous plaît ac os mai non ywr ateb, beth am o leia adael bonbons.

Mae'n braf bod yn ifanc ac yn ffyddiog yntydi?

Ffeiriau traddodiadol
Ond mae'r cyfnod hwn yn hyfryd yn ngogledd Ewrop, gyda'r ffeiriau traddodiadol a lliwgar a'r addurniadau trawiadol. Dros y dyddiau nesa bwriadaf ymweld â thref Monschau sydd ychydig i'r de o Aachen yn yr Almaen, lle ma na ffair Nadolig hynafol.

Hefyd os bydd amser hoffwn fynd i Brugge i weld cynnyrch Gwyl Ia ac Eira, deallaf bod cerflun ia mawr or Sagrada Familia yno.

Peth da felly bod y tywydd yn Brugge yn oerach na Barselona - dwi ddim am i'r campwaith doddi cyn i fi gyrraedd yn fy long johns!

Fel coedwig
Rwy hefyd wrth fy modd gyda chanol Brwsel dros yr wyl, mae'r GrandPlace yn anhygoel ac eleni mae'r lle fel coedwig gyda dros ddau gant o goed yno.

Mae'r goeden Dolig fawr yn y sgwâr wedi ei thyfu yng Ngwlad Belg ac yn dod o ardal yr Ardennes.




Coeden Nadolig draddodiadolFel arfer yn flynyddol mae dinas Helsinki yn rhoi coeden i bobl Brwsel ond maer pinwydd i gyd yn dod o Wallonia y tro yma.

Ynghanol y gwyrddni ceir preseb traddodiadol ond mae'r anifeiliaid sy'n rhan o'r arddangosfa yn unrhywbeth ond traddodiadol.

Artist o Ffrainc
Mae'r mamaliaid plastig wedi'u goleuo - gwaith artist o Ffrainc, Patrick Rimoux yw'r defaid pinc a'r gwartheg melyn - mae'n olygfa eitha swreal yn enwedig ar ôl ambell ddiod boeth!

Hefyd yn y ddinas ceir stondinau di-ri sy'n ymestyn i lawr i Place Sainte Catherine ac yn yr ardal a arferfai fod yn borthladd codwyd llawr sglefrio dros dro.

Mae'r hen ar ifanc, y da a'r dibrofiad i gyd yn gallu mwynhau, a do dwi wedi bod yn ymarfer yn barod, dim tîn-droi llythrennol ar yr ia i fi tro hwn.

Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn dra gwahanol ar dir Ewrop i'r hyn sydd adre, yn un peth falle nid yw'n achlysur sydd mor fasnachol.

Adre maen arferiad gweld twr o bobl syn dathlu drwy gollir gallu i sefyll neu siarad, maer Dolig yn dechrau yn Hydref , mae pawb yn flin, mae rhieni o dan bwysau ac wrth gwrs mae disgwyliadaun uchel.

Yma maen arferiad i fwynhau'r achlysur.




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy