Sian Elin Dafydd yn sgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw "Bonjour! Comment allez-vous? Je m'appelle Elisabeth Pompée-Klein," dyma eiriau cyntaf fy athrawes Ffrangeg, rwy wedi ymuno â'i dosbarth newydd 'Pas de Panique'. Dydw i ddim yn un sy'n dueddol o gael panig ond rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo ychydig fel plentyn yn dechrau ysgol newydd wrth gerdded i mewn i'w chartref yn sgwâr Leon Jacquet, yng nghanol Brwsel. Rwy'n bwriadu dysgu Ffrangeg yn ystod fy nghyfnod yng Ngwlad Belg a dwi'n mawr obeithio y byddaf yn gallu rhegi'n huawdl iawn mewn tair iaith erbyn y flwyddyn 2002! Mae Madame Pompée-Klein yn wraig drwsiadus a thwt fel mae'r rhan Almaenig o'i henw'n awgrymu ond mae ei hosgo a'i phryd a gwedd yn Ffrengig iawn. Stryffaglu ieithyddol Felly bob bore dydd Mercher mae pedwar ohonom yn cyrraedd ei chartref sy'n llawn celfi o liw hufen a sy'n chwaethus iawn am sesiwn o stryffaglu ieithyddol! Mae'n brofiad rhyfedd treulio amser gyda chriw bychan o bobl oedd yn hollol ddieithr i fi tan yn ddiweddar, wrth gwrs un peth cyffredin i bawb yw'r ffaith ein bod ni am ddysgu Ffrangeg. "D'accord, vous appelez-vous?" gofynnodd y Madame. Atebodd y grwp: Je m'appelle Carol, Je m'appelle Boika, Je m'appelle James a Je m'appelle Sian. Rhyddhad, pawb wedi deall a phawb wedi gallu ateb, yn gywir! Unedig er eu cefndiroedd Er ein cefndiroedd a diwylliannau gwahanol mae Carol Perry a'i mab 20 oed, James o Sheffield, Bokia Tamindzic, y wraig ddistaw, swil o Sofia yn Bwlgaria sy'n edrych yn debyg i Sophia Loren ifanc, a fi yn unedig yn ein cais i gyfathrebu'n effeithiol! Yn ystod y gwersi cychwynnol 'rwy wedi dysgu sut i gyfarch a ffarwelio â phobl yn foesgar, sut i ymddiheuro am sefyll ar droed rhywun a sut i archebu teisen pen-blwydd neu botel o cognac! Rwy'n dueddol o ymarfer gyda'r plant, mae'r ddwy yn cael gwersi Ffrangeg yn yr ysgol ac maen nhw'n cywiro fy acen yn gyson, enghraifft berffaith arall o'r oen yn dysgu'r ddafad i bori! Dipyn o haden Mae aelodau'r grwp yn wahanol iawn i'w gilydd, mae Boika dawel wrthi'n dysgu Saesneg a Ffrangeg tra bo ei phlant Olivera ac Alexandra yn yr ysgol. Ar y llaw arall does dim byd distaw am Carol Perry o ogledd Lloegr. Mae'n dipyn o haden gyda'i gwallt coch byr ac mae'n gwisgo digon o aur i agor siop! "The fashion here is awful, I expected something totally different and the mosquitos," meddai. "The food is spicey and the beer's strong too...". Mae ei mab James sy'n chwarae snwcer i Wlad Belg hefyd wedi deall bod y cwrw'n gryf a chyfaddefodd ei fod wedi cael ambell noson o gwsg ar y seddi hir mewn parciau ers symud i Frwsel! Cymraes, gwraig o Fwlgaria, Ffrances a dau o ogledd Lloegr - vive la différence! 'Sgwn i beth ma' nhw'n ei feddwl o'r Galloise sy' wastad yn hwyr i'r gwersi?
|