|
|
Gweld y trysor
Sian Elin Dafydd yn ymweld ag adeilad cyfrin ym Mrwsel Dydd Llun, Medi 24, 2001
|
Sian Elin Dafydd yn sgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw Mae 'na amryw o ddarnau celf dwi wedi bod wrth fy modd yn eu gweld, Picasso yn y Prado, lluniau pwerus Van Gough yn y Louvre a phaentiadau olew tywyll Kyffin Williams yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r eiliad pan fyddwch yn deall yr hyn sydd ar y cynfas neu'n adnabod amlinelliad cerflun yn arbennig ond mae'r profiad o weld murlun Jef Lambeaux yn adeilad a gynlluniwyd gan y pensaer Victor Horta wedi'i losgi ar fy nghof am yr un rheswm ag y mae'r dyddiad Medi 11, 2001 wedi'i serio ar gof a chadw nifer. Adeilad cyfrin wedi ei gloi Ar fore Sul gwlyb a'r glaw yn syrthio'n gyson ysgafn arna i a'r plant dyma ni'n camu i mewn i adeilad cyfrin, adeilad sydd wastad wedi'i gloi. Ers symud i Frwsel mae'r Pavilion des Passions Humaines wedi fy swyno, nid oherwydd pensaernïaeth hynod ond oherwydd yr hyn mae wedi'i gil-gynnig i fi drwy'r twll clo. Byddaf yn rhedeg weithiau mewn ymgais i gadw'n heini o amgylch y parc dinesig, Parc du Cinquantaire, sydd yn llawn teuluoedd yn cydgerdded, cariadon yn sibrwd eu cyfrinachau a phlant yn chwarae a chwerthin. Ond wedi ei guddio yng ngwaelodion y gwyrddni mae'r darn o gelfyddyd a gymerodd tua 15 mlynedd i'w greu. Sbecian drwy'r twll yn y drws Yn ddeddfol dwi'n aros y tu allan i'r pafiliwn gyda'm gwynt yn fy nwrn yn sbecian drwy'r twll yn y drws fel plentyn yn cael gweld rhyw drysor hynod. Yr un yw'r olygfa bob tro - dau gorff marmor gwyn yn anwesu, mae'r murlun yn fawr a rhan fechan yn unig dwi wedi ei weld. Tan nawr. Am ddau ddiwrnod y flwyddyn yn unig mae Brwsel yn agor drysau adeiladau sydd o bwys diwylliannol fel rhan o weithgaredd Ewropeaidd ehangach. Cychwynwyd y cynllun gan lywodraeth Ffrainc ym 1984 ac oherwydd ei lwyddiant penderfynodd Cyngor Ewrop ei fabwysiadu. Ymweld â'r safle hynod Felly penderfynais ymweld â'r safle hynod sydd fel arfer wedi'i gloi i'r cyhoedd, ond yn denu oddeutu 20 miliwn o ymwelwyr drwy Ewrop yn ystod y ddau ddiwrnod arbennig. Cerddodd y grwp bychan o ymwelwyr yn eiddgar tuag at y drysau pren trwm a thawelodd pawb ond y plant, oedd yn dal i drafod hyn a'r llall. Roeddwn i wedi aros misoedd i weld hyn. Yn fawr ond wedi'i oleuo'n naturiol wele'r darlun cyfan, roedd gweddill y darnau wedi disgyn i'w lle. Wyneb yn wyneb â marwolaeth Y bore Sul hwn daeth pawb o'r grwp wyneb yn wyneb â marwolaeth fel teyrn ar ben y murlun marmor gwyn. Yna o'n blaenau roedd y ddelwedd o'r benglog a'r corff hir yn estyn ei adenydd yn ben ar y meidrolion oddi tano. Byddai'r gwaith yn drawiadol o dan amgylchiadau arferol ond roedd y foment yn fwy arwyddocaol oherwydd yr erchyllderau terfysgol oedd newydd syfrdanu'r byd. Gallaf ond dyfalu bod pawb wedi cofio am y meirw yn Efrog Newydd, Washington a Pittsburgh yr eiliad honno. Pan fyddaf yn cael fy atgoffa o'r drasiedi a ddigwyddodd ar ddiwrnod braf ym mis Medi gyda'r awyrennau'n fflachio i ganol y tyrau a'r gweithwyr yn neidio o'r adeiladau, rhai yn dal dwylo, bydd y ddelwedd o waith Lambeaux yn cyplysu'r cyfan yn llygad fy meddwl. Trodd y cyrff marmor yn rhywbeth byw i fi. Gadewais yn gynt na'r gweddill, yn falch o gael cerdded yn ôl i'r glaw yn gafael yn dynn mewn dwy law fechan.
|
|