Mae'n siwr bod nifer o ferched yn gyfarwydd iawn gyda'r clefyd dwi'n dioddef ohono sef catherinezetajones-itis. Ym mhob papur a chylchgrawn rwy'n bwrw golwg arnyn nhw mae'r llygatddu brydferth o Abertawe yno'n gwenu arna i, yn procio fy nghydwybod: "mae'n rhaid i fi wneud ymdrech a chofio defnyddio hufen bob bore a nos ar fy ngwyneb, mae'n rhaid i fi ail-ddechrau nofio a gwneud yn siwr fy mod i yn yfed litr o ddwr bob dydd, brwsio fy nannedd yn gyson ac mae'n rhaid i fi gofio smwddio fy nillad a bod yn fwy trwsiadus." Dysgais dros y Sul ei bod hi a'i gwr Michael Douglas, (sydd tan nawr wedi llwyddo i roi cwlwm yn ei 'gynffon' a bod yn ffyddlon iddi) newydd orffen addurno un o'u tai yn Bermuda, byddai'n braf cael ymweld â'r lle heb sôn am brynu ty yno! Ennill cytundeb arall A dyma hi eto yn gwenu'n braf arna i yr wythnos hon - mae wedi ennill cytundeb (sy'n werth lot o arian mae'n siwr) i fod yn wyneb cyhoeddus i'r cwmni colur Elizabeth Arden. Yn anffodus roeddwn i'n lot rhy brysur yn golchi a sychu dillad y plant pan gynigiwyd y swydd i fi! Yn rhyfedd ddigon mae gennym ni rai pethau yn gyffredin - ryn ni'n Gymry, yn ein tridegau, yn famau, yn dywyll o ran pryd a gwedd ac yn dwli ar ein teuluoedd. OND dyna'r cyfan, mae'r gweddill yn wahanol iawn. Ers symud i Frwsel rwy'n aml yn cael fy holi - o ble 'dach chi'n dod. Yr ymateb sawl tro ar ôl sôn am Gymru yw, "Pays de Galles - aaah La Zeta Jones." Dylid urddo'r ferch - rhowch wisg werdd a sgidiau dwr iddi! Ei hedmygu yn dawel bach Yn dawel bach dwi'n eitha edmygu'r actores. Bu'n ddigon brwdfrydig, dygn a phenderfynol i wneud y gorau ohoni hi ei hun. Wedi rhywfaint o enwogrwydd ym Mhrydain gyda'r gyfres The Darling Buds of May croesodd yr Iwerydd a choncro America. Priododd aelod o deulu dylanwadol a llwyddodd i droi ei chytundeb priodasol yn gontract ariannol, ac os ysgaru fe fydd yn fenyw gyfoethog iawn. Chwarae teg iddi. Ond mae ei diwydiant yn un gwamal iawn. Mae'r cyfan yn ddibynnol ar ddelwedd ac ar ymddangosiad dyn. Dyma ei chyfnod hi ac mae'n manteisio'n llawn ar ei chyfleoedd. Tinc Cymreig i'w glywed Er ei henwogrwydd a'i hacen Americanaidd, mae'r tinc Cymreig i'w glywed yn ddigamsyniol ac yn anffodus iddi hi, dyw'r Cymry ddim cweit mor ffasiynol â'r Gwyddelod neu'r Albanwyr yn Hollywood. Fe'n lloriwyd unwaith ganddi. Dwi'n cofio bod yn geg agored pan ofynnwyd iddi siarad ychydig o iaith y nefoedd ar ryw raglen neu seremoni wobrwyo. Disgwyliwn glywed un o'r ystrydebau - "Shwmae", "Iechyd da," neu "Croeso i Gymru" ond er mawr syndod, anfarwolwyd Max Boyce ganddi a dywedodd - "Ogi, Ogi, Ogi"! Fe all y digrifwr o Glyn-nedd farw'n ddyn hapus nawr bod CZJ yn gyfarwydd â'i waith, mae'n siwr bod ei recordiau i gyd ganddi a'i bod hi'n gwrando ar Hymns and Arias neu We all had doctor's papers wrth wneud y gwaith ty! Wrth ei bodd yn dod adref Mae'n amlwg bod CZJ wrth ei bodd yn dod nôl i'w chynefin a thybiwn i os byddai'n cael llonydd gan y wasg y byddai wrth ei bodd yn cael gwneud y Mumbles Mile neu fynd am beint i'r dafarn leol, cyn ei throi hi am adre gyda sglods neu kebab i lanw twll! Mae siwr bod Michael bellach yn gwybod mai un o'r pethau mwya rhamantus yw rhannu bag o tships! Anghofier am y boulevards yn Hollywood - Abertawe amdani Swansea Jack myn yffarn!
|