|
|
Syrffio'r sianelau
Testosteron, Teirw, Dawnsio a'r Simpsons mewn Ffrangeg - a chip ar Alan Titchmarsh! Dydd Llun, Mai 14, 2001
|
-Mae Iolo ap Dafydd newydd gychwyn tymor yn ohebydd 成人论坛 Cymru ym Mrwsel. -Dyma ail erthygl ei briod, Sian Elin, yn sôn am fywyd yn eu cynefin newydd. Dwi newydd dyngu llw pwysig iawn, ar ôl treulio ychydig o wythnosau yn syrffio sianelau teledu gwledydd Ewrop. Dwi wedi addo i'r Caws Mawr na fyddai byth eto yn cwyno am safon rhaglenni teledu yng Nghymru. Na - o hyn ymlaen fe fydd yn bleser gwylio'r cynnyrch cartre'. Llygadu'r sianelau Dyma enghraifft gyflym o noson wylio Ewropeaidd: -Er mwyn cyflwyno ar Rai Uno (yr Eidal) mae angen bronnau mawr ac, wrth gwrs, y gallu i siarad pymtheg i'r dwsin. Digon o destosteron - Mae TVE (Sbaen) yn darlledu sioeau ymladd teirw fel y bydd sianelau adre yn dangos gemau rygbi. Yr un yw'r elfennau perthnasol - mae 'na stadiwm a thorf yn gwylio, mae un ochr yn derbyn cweir, mae 'na waed, ac mae 'na ddigon o destosteron. Llanelli v Caerdydd, y matador v y tarw? Cawn hefyd y pleser o weld ail chwarae - action replay - o'r gyllell yn glanio ar war y tarw, yn union fel y byddwn adre yn cael gweld chwaraewr yn croesi'r llinell i gael y cais holl bwysig hwnnw. Mae'r matador yn debyg i chwaraewyr rygbi ac yn cael ei drin fel tipyn o arwr ond mae'n siwr na fyddai rhywun fel Colin Charvis neu Scott Quinnell yn rhy falch o wisgo teits tynn, lliwgar, pinc neu goch a hetiau bach duon. Ond pawb at y peth a bo, mae gwrhydri yn ategu ei hun mewn ffyrdd gwahanol - olé! Llond stiwdio o ganu a dawnsio - Sianel arall gwerth ei gweld yw TRT (Twrci). Bob tro fydda i'n troi ati mae llond stiwdio o bobl yn canu neu'n dawnsio ac mae'n fy hatgoffa i o'r stori am fy ffrind Andrea a'i chariad Stuart yn mynd i Dwrci ar eu gwyliau ac yn penderfynu mynd i weld perfformiad gan y Whirling Dervishes. Roeddent yn edrych ymlaen yn arw gan feddwl mai grwp pop lleol oedd y troellwyr. Ond ar ôl gwylio tua dwsin o ddawnswyr yn perfformio'r symudiadau troellog, traddodiadol, am rhyw ddwy awr llowciwyd nifer o ganiau o gwrw Efes! Felly ma' na wên barhaus ar fy wyneb wrth wylio dawnswyr a chantorion lliwgar TRT. Cip ar Alan Titchmarsh - Mae'n od gwylio aelodau o deulu The Simpsons yn siarad .... Ffrangeg. Rhyfedd hefyd yw gweld rhyw ffilm wachul, Americanaidd, gyda Jean Claude van Damme (sydd, gyda llaw, yn un o'r deg enwogion sy'n dod o wlad Belg) gydag is-deitlau Fflemineg. - Ac wrth gwrs dwi'n cael gweld 成人论坛 1 a 成人论坛 2 - ond awr yn hwyrach wth gwrs. Felly dwi'n gwylio'r News at 10 am unarddeg ac, yn anffodus ddigon, dwi wedi cael ambell i gip ar Alan Titchmarsh a'i gyfeilles gringoch, Charlie Dimmock, yn Ground Force!
Ymweld â thai gwydr Ymlaen at bethau mwy diwylliannol. Bu'r pedwar ohonom - fi, fe, yr hyna' a'r ifanca' yn ymweld â Thai Gwydr Brenhinol yn Laeken sydd yng ngogledd y ddinas. Mae rhain yn hynod ac yn cael eu cymharu â'r Crystal Palace gwreiddiol yn Llundain a'r Gerddi Botaneg yn Kew. Mae'r tai gwydr trawiadol a adeiladwyd gan frenin Leopold II tua 1865 yng ngerddi cartref y brenin a'r frenhines bresennol, Albert a Paola, ac maent yn cael eu hagor i'r cyhoedd am dair wythnos yn unig bob blwyddyn. Helfa drysor o daith Yn anffodus, doedd Albert a Paola ddim yno i'n tywys o amgylch y gerddi - mae'n siwr eu bod nhw wedi mynd am wyliau bach i'r ty haf sydd ganddynt yn agos i ardal Woluwe-St-Pierre. Ta waeth, dyma helfa drysor o daith - roedd cerdded trwy'r twnel coch cyfoethog o blanhigion ffiwsia, gweld y lilis gosgeiddig, y rhedyn swil a'r gerddi bach o goed bonsai Siapaneaidd - yn wych ond y cewri palmwydd sy'n aros yn y cof. Roedd y casglaid o goed palmwydd sy'n ganrifoedd oed yn rhyfeddol ac wrth iddynt dyfu rhaid eu tyllu'n ddyfnach i'r ddaear yn hytrach na'u torri ac wrth gwrs rhaid gwarchod to y tai gwydr. Crwydrais yng nghwmni nifer o ymwelwyr eraill (tybir bod tua 50,000 o bobl yn gwasgu i'r tai gwydr yn ystod y cyfnod hwn) a sylweddolais nad oedd yr un peth a welais yno wedi fy mhlesio cymaint â'r bwa o dresi aur sydd yn ngerddi Castell Bodnant. Pan fydd mwy o amser gen i fe fydd yn rhaid i fi fynd nôl i Laeken i awgrymu'n garedig wrth Albert a Paola i drefnu trip bach ar hyd yr A55 i Ddyffryn Conwy! Fe'm swynwyd yr eildro yn ddiweddar; na, nid gan gerfluniau neu adeiladau hardd Art Deco Brwsel, ond gan olygfa go brin. Wrth fynd â'r plant i'r ysgol gwelais wiwer goch yn rhedeg ar hyd ochr y parc cyn diflannu i fyny coeden yn go glou! Dyma'r ail dro yn unig imi weld gwiwer goch - gwelais y llall yn blentyn - mewn amgueddfa wedi ei stwffio, druan. Dwi ddim yn gwybod pwy oedd fwya' cyffrous - fi neu'r plant! Mae'r llwydion yn ddigon o bla adre ond roedd gweld y gochen bert yma'n brofiad a hanner! Dwi am gymryd hwn fel arwydd o lwc dda!
|
|