Colli ffrind ac ymweliad ag ysbyty Mae pawb yn teimlo'n flin drostyn nhw'u hunain weithiau gormod o waith a dim digon o amser, colli cyfleoedd, amser y mis, gwyliau gwlyb a sylweddoli nad oes gobaith ennill y loteri, byth. Dyma'r natur ddynol - ond fe ges i ysgytwad bach yn ddiweddar sydd wedi f'atgoffa fod angen dympio'r hunan dosturi. Daeth criw o ffrindiau draw i Frwsel i aros am benwythnos ac ar ôl tridie o chwerthin, bwyta a chadw trefn ar yr holl blant roedd y ty'n teimlo'n wag. Oherwydd yr ymweliad roedd mynyddoedd o ddillad gwely yn aros i gael eu concro a'u golchi ac yn waeth na hynny penderfynodd y teledu roi'r gorau iddi. Cysgais gan feddwl digon i'r dydd Ond na, ar ôl bod â'r plant i'r ysgol canodd y ffôn am y tro cyntaf. Galwad ffôn Gaby oedd yno, yn dweud ei bod hi a'i theulu, sydd wedi byw ym Mrwsel am flwyddyn, yn symud i Frankfurt mewn mis. Mae ein plant yn chwarae'n gyson gyda'i gilydd. Marlies, merch fach Gaby, yw ffrind gorau Heledd. Dwi wedi treulio sawl prynhawn yn ei chwmni yn malu awyr, yfed te a bwyta strudel (mae hi'n dod o Awstria ac mae'r cacennau mae'n eu coginio yn anhygoel.) Mae 'na lot o fynd a dod mewn dinas fel Brwsel ac yn aml ar ôl treulio amser yn meithrin perthynas, mae 'na symud a gadael. Ond dyna ni, rhaid bwrw ymlaen a chyda digon o ddillad i'w smwddio ac heb sianel deledu wachul Rai Uno i gadw cwmni imi canodd y ffôn yr eildro. Wedi brifo yn yr ysgol Ysgrifenyddes yr yn gofyn imi ddod i nôl Gwen yn syth gan ei bod wedi syrthio ar yr iard, torri ei gwefus, taro ei thrwyn a'i phen . . .
Rhuthrwyd bachgen i mewn ar wely. Roedd yn waed i gyd, wedi bod mewn damwain. Dwi'n amau os aeth e adre y noson honno. Ar ôl profiad tebyg mae'r cyfan arall o bethau bach bywyd yn ddibwys. Roedd Gwen wedi'i briwio ond yn iawn ac yn iach ac o fewn dyddie roedd fel deryn bach eto yn benderfynol o fynd â'r lluniau o'i phen i'r ysgol i'w dangos i'w ffrindiau. Roedd y cyfan wedi trwsio - gan gynnwys y teledu!
|