Gwleidydd yn poeni am wallt ei ben Mae'r byd gorllewinol yn rhoi pwyslais mawr ar bryd a gwedd. Ac yn ystod y misoedd diwethaf dyfarnodd Tom Ford, un o hoelion wyth y byd ffasiwn, mai Hamid Karzai, arweinydd dros dro Affganistan, yw y gwleidydd â'r steil mwya' trawiadol. Y peth olaf ar ei feddwl O ystyried yr hyn mae ei wlad newydd ddioddef, mae'n siwr mai'r peth olaf sydd ar ei feddwl yw lliw neu siap het newydd ond dyna'r neges - anghofiwch am y ffoaduriaid, dilynwch y ffasiwn ddiweddara'. Ond mae delwedd yn beth pwysig iawn mewn gwleidyddiaeth er falle na fyddai Ann Widdecombe a nifer o aelodau'r Cynulliad yn cytuno. O fod yn llygad y cyhoedd mae'n rhaid bod yn drwsiadus ac wrth gwrs rhaid ceisio cadw'n ifanc ond mae Canghellor yr Almaen, Gerhard Schröder, yn dechrau ymddwyn yn eithafol a'r rheswm ei wallt!
Tan yn ddiweddar, doedd dim barn bendant ar 'steil' Schröder - does dim byd hynod amdano o ran pryd a gwedd, mae'n ddyn canol oed sy'n gwisgo siwtiau tywyll ceidwadol fel pob pennaeth Ewropeaidd arall - ond nawr mae'r blew ar ei ben yn destun siarad. Anghofiwch am yr economi, yr amgylchedd a hiliaeth, mae'r canghellor 57 oed yn bwriadu mynd i gyfraith, oherwydd amheuaeth am liw ei wallt. Pa liw yw ei wallt Meiddiodd asiantaeth newyddion ddyfynu geiriau ymgynghorydd delwedd yn ddiweddar; "Dylai Schröder gyfaddef ei fod yn lliwio ei wallt," ac o ganlyniad mae'r arweinydd wedi mynd yn benwan fel petai! "Yn bersonol dwi'n credu ei fod yn ddyn lwcus iawn, mae ganddo lond pen o flewiach brown tywyll tra bo nifer o'i oedran e wedi hen golli'r blew heb sôn am y lliw - dwi'n cofio fy nhad pan oedd e'n 57! Ond NA, byddai'n well ganddo weld Banc Canolog Ewrop yn syrthio cyn dioddef sylwadau am ei ben. Bellach mae wedi cael ei coiffeur personol, Udo Walz - sy'n trin gwallt y cyfoethog a'r enwog yn yr Almaen - i dyngu llw. Sel bendith ei wraig Mae Walz wedi derbyn sêl bendith Doris, gwraig Schröder, wrth ddatgan i'r byd a'r betws bod blew yr arweinydd mewn cyflwr di-liw, naturiol. Ac wrth gwrs 'da ni i gyd yn gwybod bod gwleidyddion gan gynnwys Clinton wastad yn dweud y gwir ar ôl tyngu llw! Yn gyntaf, beth yw'r ots os yw Schröder yn lliwio'i wallt? Yr hyn sy'n bwysig i'r Almaen ac i'r Undeb Ewropeaidd yw ei safon fel arweinydd. Peidied neb â gwadu mai byd yr ifanc yw hwn ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn ein ffyrdd ein hunan yn gwneud rhyw ymdrech i gadw'n drwsiadus. Yn ail mae'n hollol dderbyniol i ferched sôn am ddeiets, lliwio'u gwalltiau a gwisgo colur a dillad ffasiynol, pam felly fod dynion yn teimlo y dylid cadw eu cyfrinachau ymbincio' o dan glo? Gwastraffu arian ac amser Os yw lliwio ei wallt yn ei wneud yn hapus, dyna ni. Yr hyn sydd yn fy mhoeni yw bod Schröder yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus yn cymryd camau cyfreithiol dros rhywbeth mor ddin-nôd â'i wallt. Serch hynny, byddai'n braf gweld ambell aelod o'r Cynulliad yn dilyn esiampl Schröder heb fynd dros ben llestri. Mae'n bryd i'r arweinydd gwalltog ym Mae Caerdydd ystyried cael mêcofer falle byddai cael steil newydd yn gwneud byd o les i fyd gwleidyddol Cymru!
|