Gair o Frwsel gan Sian Elin, yn son am ei bywyd newydd hi a'i gwr, Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop 成人论坛 Cymru.
Ond yr wythnos hon mae Sian ar 'ymweliad tramor'- a Chaerdydd! Mae'r haf ar fy mhen ac yn hytrach na hedfan i'r haul gyda'r teulu dwi'n dod nôl i Gymru gyda'r glaw yn fy mhoced. Mae'r plant yn edrych ymlaen at weld Mamgu, Tadcu a'u ffrindiau a dwi'n edrych ymlaen at gael ambell noson allan a chysgu'n hwyr yn y bore!
Ymweliad cyntaf â Chaerdydd Roedd yr awyren adre i Gymru'n llawn ac ymhlith y teithwyr roedd nifer yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf. Mae'n siwr eu bod wedi cael argraff reit wael. Wedi glanio, er ein bod yn ddigon agos i gerdded i'r maes awyr fe'n gyrrwyd o amgylch y lle ddwywaith. Doedd unwaith ddim yn ddigon mae'n amlwg. O'r diwedd fe'n corlanwyd allan o'r bws ond roedd drws y terminal wedi ei ..gloi. Bu pawb yn aros tra bo rhywun yn dod i lawr atom gydag allwedd! Does dim rhyfedd bod nifer y tu hwnt i Glawdd Offa yn meddwl ein bod yn dal i fyw yn oes yr arth a'r blaidd. Prifddinas ifanca Ewrop Wedi'r dadbacio doedd dim amdani ond mynd am dro i ganol Caerdydd a chael sbec o amgylch prifddinas ifanca' Ewrop'. Dyma sut mae Caerdydd yn cael ei hyrwyddo gan y cyngor ac os am fathu'r term hwn beth am i'r cyngor feithrin agweddau deinamig, mentrus, arloesol ac hyderus wrth farchnata'r brifddinas. Byddai'n braf gweld y cyngor yn meithrin agwedd ddigyfaddawd tuag at yr amgylchedd ac ailgylchu, mae'r llygredd yn ddifrifol yng Nghaerdydd ac mae sbwriel yn frith ar hyd y ddinas. Ac wrth gwrs beth am y perl dinesig diweddara', Bae Caerdydd. Dyma hafan y gwleidyddion, rhywle i besgi ar fwyd, diod a hufen iâ a rhywle i fynd am dro pan yn dioddef hangofyr ar fore Sul. Colli cyfle i wneud rhywbeth gwahanol Roedd cyfle i wneud rhywbeth yn wahanol wrth ddatblygu'r Bae - dangos Cymreictod' ar ei newydd wedd. Ond, yn anffodus, dilynwyd y patrwm Prydeinig o adeiladu un cylchdro ar ôl y llall gan ddiystyru adeiladau gwreiddiol a'r gymdeithas leol. Beth am drafnidiaeth i'r Bae mae'n siwr bod adeiladu twnel neu ffyrdd ar gyfer tramiau yn rhy gostus neu'n rhy uchelgeisiol. Felly yr hyn sydd gennym yw mwy o draffig a mwy o dagfeydd a mwy o lygredd mewn dinas fach. Mae'n bwysig bod swyddogion dinas Caerdydd yn cadw golwg ar Ewrop, nid Llundain a chreu rhywbeth arbennig i ni'r Cymry yng Nghaerdydd, rhywbeth fydd hefyd yn denu ymwelwyr. Adfer hen dramiau Mae angen cael atyniadau unigryw yma - beth am adfer y defnydd o'r tramiau, comisiynu cerfluniau trawiadol, cadw a chywiro'r adeiladau cynhenid yn lle eu taro i lawr a chynnig bwyd da a gwasanaeth effeithiol mewn siopau, caffis ac wrth gwrs yn y maes awyr. Prin iawn yw'r tai tafarn traddodiadaol yng nghanol y ddinas mae 'na ddigon o fariau Gwyddelig ac Awstraliaidd yma mae angen newid hyn ac ail amlygu ffactorau unigryw Caerdydd. Mae gan Cymru iaith a diwylliant gwahanol ac arbennig, a dylai Caerdydd fel prifddinas fod yn ddrych o hyn. Cyn hir, dechreuir ar y gwaith o wneud cais pwysig i wneud Caerdydd yn Ddinas Ddiwylliant Ewrop ym 2008. Gobeithio y bydd y brifddinas gosmopolitan hon gyda'i 320,000 o drigolion yn cael dangos i Ewrop ei bod wedi dod i oed o'r diwedd.
|