Podlediad
Llywydd y cynulliad Dafydd Elis Thomas yw'r gwestai ar y podlediad yw wythnos hon. I wrando neu i danysgrifio gwasgwch y botwm ar ochr dde'r blog.
Llywydd y cynulliad Dafydd Elis Thomas yw'r gwestai ar y podlediad yw wythnos hon. I wrando neu i danysgrifio gwasgwch y botwm ar ochr dde'r blog.
Yfory fe fydd Llafur Cymru yn cyhoeddi canlyniadau arolwg y blaid o'i pherfformiad yn etholiadau'r cynulliad. Mae'n debyg y bydd yr adroddiad hwnnw yn ddi-flewyn ar dafod yngl欧n 芒 methiannau鈥檙 blaid ac yn ei chyhuddo o fethu ac addasu i newidiadau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae pob plaid wleidyddol yn cynnal ymchwiliadau tebyg yn sgil etholiad ond mae'n hynod anarferol iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Yn wir hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio i hynny ddigwydd ac mae'n arwydd bod Llafur Cymru am sicrh芒i bod ei haelodau a'i chefnogwyr yn sylweddoli'r pa mor ddifrifol yw sefyllfa'r blaid.
Fe fydd yr adroddiad yn nodi bod y blaid yn wynebu problemau ar dair ffrynt. Yn gyntaf cafwyd cynnydd llawer mwy sylweddol yn y bleidlais Geidwadol yng Nghymru eleni nac yn etholiadau lleol Lloegr neu etholiad yr Alban. Yn ail cafodd y Blaid ei churo'n rhacs ymhlith y Cymry Cymraeg ac yn drydydd mae cynnydd araf y Democratiaid Rhyddfrydol yn y dinasoedd yn erydu pleidlais y blaid.
Nid nod yr adroddiad yw cynnig atebion ond ceisio sicrh芒i nad yw'r aelodau'n meddwl bod y newid yn Downing Street yn ddigon i adfer sefyllfa'r blaid Gymreig. Deallaf fod yr adroddiad yn pwysleisio nad yw apelio at y bleidlais graidd bellach yn dacteg effeithiol gan fod maint y bleidlais honno yn gostwng yn gyson oherwydd newidiadau l cymdeithasol ac economaidd.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r gr诺p Llafur yn y cynulliad sydd ar dasg o lunio cynllun i adfer sefyllfa鈥檙 blaid.
Un o adeiladau enwocaf Cymru erbyn hyn yw adeilad y "Pierhead" neu'r lanfa- yr adeilad brics coch sy'n sefyll wrth ymyl y Senedd ac sy'n gefndir i'r rhan fwyaf o raglenni Newyddion Cymru.
Tan riw ddeng mlynedd yn 么l prin oedd y bobol, hyd yn oed ymhlith trigolion Caerdydd, oedd yn gwybod bod y lle'n bodoli. Roedd yr adeilad yn sefyll y tu fewn i furiau'r dociau masnachol mewn ardal oedd yn gaeedig i'r cyhoedd.
Swyddfa'r dociau oedd enw'r lle ar y pryd. Dyw'r Lanfa a Pierhead ddim cweit yn enwau gwneud ond yn wreiddiol roeddynt yn cyfeirio at gyfleusterau glanio llongau pleser y "White Funnel Fleet" rhyw ganllath i ffwrdd ac nid yr adeilad ei hun.
Ta beth, mae'n adeilad trawiadol ac ers 1999 mae wedi cael ei defnyddio fel canolfan ymwelwyr ac addysg y cynulliad ar 么l i Ron Davies ei brynu am bunt gan gwmni Grovesnor Waterside. Gydag agor y Senedd a datblygu cyfleusterau addysg yn yr hen siambr (y siambr fach fel y'i gelwir erbyn hyn) mae'n rhaid dod o hyd i ddefnydd newydd i'r adeilad ac mae'r cynlluniau sydd ar y gweill yn ymddangos yn rhai cyffrous.
Mae'r cynulliad yn gweithio gyda phobol leol a chymdeithasau morwrol i ddatblygu canolfan fydd yn adrodd hanes yr ardal a phatrymau mudo i Gymru. Mae'n ddefnydd cwbwl addas o ystyried bod Bae Caerdydd (Tiger Bay gynt-ac mae rhai eisiau adfer yr enw hwnnw) ymhlith y cymunedau aml-ethnig cyntaf ym Mhrydain.
Ond mae 'na eironi yn hynny. Ar bwys y lanfa go iawn yr oedd Amgueddfa Diwydiant a M么r Cymru yn sefyll tan iddi gael ei haberthu ar allor byd masnach. Roedd pwrpas yr Amgueddfa honno yn ddigon tebyg i'r hyn sy'n cael ei awgrymu nawr ond roedd hi'n cyflawni'r dasg ar raddfa llawer mwy eang.
Roedd yr Amgueddfa honno yn bell o fod yn berffaith er ei bod hi, yn fy marn i, yn llawer gwell na'i holynydd Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe gyda'i horielau gweigion a diffyg creiriau diddorol.
Gan nad yw'r cynulliad yn cynnal sesiwn lawn does 'na ddim dyfyniad y dydd heddiw ond mae teitl y cynnig seneddol yma gan Dai Davies AS (Blaenau Gwent) yn gwneud i fi wennu am ryw reswm.
PUBLIC EXPENDITURE ON FLOOD PROTECTION AND INVADING IRAQ
Dyw'r cynnig ei hun ddim mor rhyfedd 芒'r teitl. Mae'n bosib ei ddarllen yn .
"We know there are sorts of issues around interruptions to power supplies. We have them constantly in North Wales for all sorts or reasons like a sheep... on the line... no... sorry... not a sheep... sorry... cows... taking down the lines... or something"
Dw i'n clywed bod y Ceidwadwyr wedi bod yn cynnal arolygon barn mewn etholaethau ymylol. Yn 么l yr hyn dw i'n clywed mae canlyniadau Brycheiniog a Maesyfed yn hynod ddifyr gyda'r blaid yn proffwydo y gallai Suzie Davies fod ar ei ffordd i San Steffan.
Draw yng Ngheredigion mae Plaid Cymru wrthi'n dewis ymgeisydd seneddol. Yr enwau sy'n cael eu crybwyll yw Penri Williams, Mabon ap Gwynfor a Sion Jobbins.
Cywiriad; Dw i ddim am guddio camgymeriad trwy newid y post! Penri James nid Williams yw'r Penri dan sylw. Mea Culpa.
Wythnos i heno fe fydd ein rhaglen wleidyddol newydd CF99 yn cael ei darlledu am y tro cyntaf. Mae'n bryd felly i mi rannu rhyw faint ynghylch y cynnwys. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw o'r Senedd bob nos Fercher ac fe fydd hi'n bosib ei gwylio yn y modd arferol ar S4C neu trwy wyrthiau'r rhyngrwyd trwy ddolen ar y blog.
Bethan Rhys Roberts a finnau fydd yn cyflwyno. Mae Bethan a finnau wedi bod yn dilyn ein gilydd o gwmpas y 成人论坛 ers blynyddoedd ond hwn yw'r tro cyntaf i ni gyflwyno rhaglen gyda鈥檔 gilydd. Rhyw gymysgedd o "This Week" ac "After Dark" fydd y rhaglen gyda thrafod dwys ac ysgafn gyda'n gwesteion ynghyd ac adroddiadau gan ein fideo-ohebwyr.
Er mwyn cyfiawnh芒i ei lle yn yr oriau brig fe fydd yn rhaid i'r rhaglen apelio'r tu hwnt i fyd yr anoracs gwleidyddol. Dwi'n weddol hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud hynny gan ddysgu gwersi o'r ffordd y mae "Dau o'r Bae" wedi llwyddo yn yr oriau brig ar Radio Cymru. Fe gawn weld!
Fe wnes i son ddoe am benderfyniad y Ceidwadwyr i ddefnyddio'u hamser yn y siambr i drafod refferendwm ar y cytundeb Ewropeaidd gan amau a oedd hynny'n ddefnydd call o'u cyfle i ddewis testun dadl.
Deallaf erbyn hyn fod y Tor茂aid mewn tipyn o bicl ynghylch sut mae defnyddio'r holl gyfleoedd sydd ganddyn nhw. Oherwydd bod y ddwy blaid fwyaf mewn llywodraeth mae'r baich o lenwi amser y gwrthbleidiau yn disgyn ar y Ceidwadwyr. O'r hyn tan y Nadolig mae'n rhaid i'r blaid ddod o hyd i bedair ar bymtheg o bynciau i'w trafod yn y siambr. Mae'n debyg bod hynny'n achosi cryn grafu pen.
Oes 'na rywun yn mynd i'r Unol Daleithiau cyn bo hir? Dw i'n awchu i gael gafael ar un o bosteri'r. Beth fyddai John Sparks yn dweud?
Diweddariad; Ond dyw'r byd yn fach? (Gweler y sylwadau)
Chwarae teg i Elin Jones am ddewis gwneud ei datganiad yngl欧n 芒 chlefyd y tafod glas yn Gymraeg. Mae dewis iaith gweinidog yn dylanwadu ar aelodau eraill. Gan ddilyn esiampl Elin fe ddewisodd llefarydd yr wrthblaid Brinle Williams defnyddio'r Gymraeg wrth ymateb. O'r saith aelod wnaeth siarad yn ystod y datganiad fe wnaeth pump siarad yn Gymraeg
Ymhlith yr aelodau hynny roedd Nerys Evans ond mae gen i un cwestiwn bach - pam wnaeth Nerys ddewis defnyddio'r Saesneg dwywaith heddiw wrth holi Rhodri Morgan?
"It seems that Bethan Jenkins hasn't walked the same road to Domestos as her colleagues..."
-Karen Sinclair AC
Mae Arfon Jones wedi codi cwestiwn diddorol yn y sylwadau. Cystal cwestiwn nes i mi benderfynu ei ddyrchafu i'r dudalen flaen!
"Oes 'na rywbeth mawr wedi digwydd o fewn y Blaid Lafur Gymreig...a dwi wedi methu'r digwyddiad? O'n i'n meddwl fod yna ddwy garfan lafurol yng Nghymru, sef cenedlaetholwyr ar unoliaethwyr. Rwan mae ganddo ni Eluned Morgan a Carwyn Jones yn siarad oddi ar yr un sgript a Touhig/Murphy a Kinnock. Ydy'r dynamics cyfansoddiadol wedi newid?"
Cyfeirio mae Arfon at y stori .
Mae Arfon yn gywir bod Llafur Cymru yn ceisio cyflwyno ffrynt unedig ar drothwy etholiad ond dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth sylfaenol wedi newid. Mae'r posibilrwydd o etholiad cynnar yn golygu y bydd y tensiynau sy'n bodoli yn cael eu claddu am y tro. Mae'n bwysig hefyd dw i'n meddwl i gofio nad cenedlaetholwyr yw pobol fel Carwyn ac Eluned ond datganolwyr. Does 'na ddim byd anghyson mewn dadlau dros lywodraeth fwy grymus yng Nghaerdydd tra ar yr un pryd yn amddiffyn undod y DU.
Mae safbwynt Eluned yn hynod ddiddorol. Cefais sgwrs a hi Ddydd Gwener ynghylch canlyniadau etholiad y cynulliad ac mae hi o'r farn nad yw'r Blaid eto wedi sylweddoli pa mor agos y daeth hi at drychineb etholiadol. Ym marn Eluned oni cheir ymdrech i apelio yn fwy eang mae 'na beryg go iawn y gallai Llafur fod yn ail blaid y cynulliad yn 2011.
Mae apelio'n fwy eang yn golygu dau beth. Yn gyntaf mae angen i Lafur apelio at etholwyr yn y Gogledd a'r Gorllewin wnaeth droi at Blaid Cymru. Roedd y ffordd wnaeth y blaid ddelio a David Collins yn brawf yn 么l Eluned bod y wers honno wedi ei dysgu. Ond mae'n rhaid i Lafur hefyd gynyddu ei hap锚l yn y dinasoedd lle mae'r Ceidwadwyr yn ennill tir. Dyw polis茂au asgell chwith draddodiadol (fel rhai Rhodri Morgan- a Phlaid Cymru o ran hynny) ddim yn debyg o wneud hynny ym marn Eluned. Yn lle hynny dylai'r blaid ddysgu gwersi gan Lafur Newydd yn Lloegr ar bynciau megis cynnig rhagor o ddewis i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hon yn ddadl gwbwl gwahanol i'r ddadl gyfansoddiadol. Fe fyddai "unoliaethwr" fel Huw Lewis er enghraifft yn tueddu ochri gyda Rhodri dros y d诺r coch claear tra bod "datganolwraig" fel Eluned ar yr ochr arall i'r ffens.
Yn fy marn i mae 'na gryn sylwedd yn nadansoddiad Eluned. Mae'r nifer o gefnogwyr Llafur "traddodiadol" yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn ac mae newidiadau demograffig mewn etholaethau fel Gwyr, Caerffili a Phontypridd yn golygu bod etholaethau oedd yn gadarnleoedd yn prysur droi'n ymylol ar lefel gynulliadol. Mae 'na beryg go iawn y gallai na fod "dwr coch claer" rhwng polis茂au Llafur Cymru a safbwyntiau a dyheadau nifer cynyddol o etholwyr.
Digon diflas a disylwedd oedd cynadleddau newyddion wythnosol y llywodraeth a'r brif wrthblaid heddiw gydag Edwina Hart yn canolbwyntio ar fusnes dydd i ddydd y cynulliad a'r Ceidwadwyr unwaith yn rhagor yn galw am refferendwm ar ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Yfory fe fydd y cynulliad yn trafod y pwnc yn amser y Ceidwadwyr er wrth gwrs mai mater i San Steffan yw pleidlais o'r fath.
Mae'r cwestiwn o refferendwm wedi dod i frig yr agenda unwaith yn rhagor gyda'r Sun yn lansio ymgyrch rymus dros gynnal pleidlais. Serch hynny, dw i ddim yn sicr pa mor fanteisiol yw hi i'r Ceidwadwyr drafod y pwnc. Mae'n ddigon gwir bod arolygon barn yn awgrymu bod y mwyafrif llethol o bobol am weld pleidlais yn cael ei chynnal ond does 'na fawr ddim tystiolaeth bod Ewrop yn effeithio ar batrymau pleidleisio ac eithrio mewn etholiadau Ewropeaidd.
Y peryg i'r Tor茂aid yw bod son gormod am y pwnc yn atgoffa'r etholwyr o gyfnod John Major a'r rhaniadau o fewn y blaid yn ystod y blynyddoedd hynny. Y gwir amdani yw nad yw Ewrop yn bwnc o bwys i'r rhan fwyaf o etholwyr ac mae'r rheiny sy'n obsesiynol am sofraniaeth y DU eisoes yn cefnogi'r Ceidwadwyr neu'n fflyrtio ac UKIP. Ydy'r Ceidwadwyr mewn gwirionedd yn dymuno dychwelyd i'r dyddiau rhyfedd hynny lle'r oedd pob Tori gwerth ei halen yn gorfod gwisgo bathodyn si芒p y bunt ar ei got?
Dw i ddim yn gweld bod rhygnu ymlaen am Ewrop yn mynd i ennill pleidleisiau i'r Ceidwadwyr ond efallai nad hynny yw'r bwriad. Efallai bod yr ymgyrch wedi ei anelu at ennill cefnogaeth un person penodol a Rupert Murdoch yw'r person hwnnw.
Un o gymeriadau mwyaf rhyfedd gwleidyddiaeth Cymru oedd Brisbane Jones. Yn 么l yn 1970 roedd Mr Jones, pensiynwr Cymraeg ei iaith o ardal Pontypridd wedi ei gythruddo gan ddiffyg gwladgarwch Prydeinig yng Nghymru. Y diffyg hwnnw credai oedd wedi arwain at ethol Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin.
Penderfynodd yr hen soldiwr fynd ar un cyrch olaf. Newidiodd ei enw i "British Jones" a cheisiodd sefydlu plaid i frwydro dros Brydeindod yng Nghymru. Daeth fawr ddim o'r syniad er y cafodd Mr Jones gryn dipyn o gyhoeddusrwydd am gyfnod.
Roeddwn yn meddwl am British Jones heddiw wrth wrando ar araith Gordon Brown. Defnyddiodd y Prif Weinidog y term "British" dros ddeg ar hugain o weithiau yn ei bregeth a dw i'n sicr mai nid cyd-ddigwyddiad oedd hynny. Mae cenedligrwydd Prydain a gwladgarwch Prydeinig yn themau y mae'n dychwelyd atynt yn gyson a sy'n agos at galon ei weledigaeth gwleidyddol.
Mae hynny wrth reswm yn deillio i raddau helaeth o'r ffaith bod Gordon Brown yn wleidydd Albanaidd. Yn wahanol i wleidyddion o Loegr efallai mae'r Prif Weinidog yn deall yn iawn mai rhywbeth goddrychol yw cenedligrwydd, rhywbeth sy'n rhaid ei leisio a'i amddiffyn. Ar un lefel felly rhan o frwydr am galonnau a meddyliau pobol yr Alban yw'r holl s么n yma am Brydeindod, ymdrech i ymateb i ap锚l emosiynol cenedlaetholdeb Albanaidd trwy feithrin balchder mewn Prydeindod.
Ond nid yr Alban yw'r unig reswm dros bwysleisio Prydeindod. Er nad yw Llafur yn derbyn disgrifiad David Cameron o'r 鈥渂roken society鈥 does dim dwy waith bod 'na bolareiddio cynyddol yn rhai o ddinasoedd mawrion Lloegr gyda phobol o wahanol grefyddau a chefndiroedd yn cadw oddi fewn eu cylchoedd eu hun. Gallai balchder Prydeinig ddwyn y cymunedau hynny at ei gilydd ym marn Mr Brown. Dyna pam mae'r Prif Weinidog am weld baner yr undeb yn cael ei hedfan ar adeiladau cyhoeddus a Phrydeindod yn cael ei dysgu yn yr ysgolion.
Yr eironi yw bod gallu'r llywodraeth i feithrin ymdeimlad o Brydeindod yn gyfyng y tu fas i Loegr. Does ond rhaid mynd i unrhyw ysgol gynradd yng Nghymru i weld bod balchder cenedlaethol yn cael ei ddysgu i blant ond balchder yng Nghymru yw hwnnw. Does dim byd y gall Gordon Brown wneud i newid hynny.
Canlyniadau'r wythnos hon;
Cyngor BS Caerffili
Ward Moriah
Llafur 638 (73.5 % -3.1%)
Ann. 230 (26.5%)
Plaid Cymru oedd gwrthwynebwyr Llafur yn fan hyn yn 2004 gan ennill 23.4% o'r bleidlais.
Cyngor Sir Benfro
Ward St. Michael (Penfro)
Ceid. 251 (30.6%)
Dem Rhydd 242 (29.5% -28.9%)
Ann. 184 (22.5% -19.1%)
Llafur 142 (17.3%)
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli sedd mewn is etholiad cyngor- nid yn aml mae hynny'n digwydd! Doedd 'na ddim ymgeiswyr gan Lafur na'r Ceidwadwyr yn fan hyn yn 2004. Mae'n ymddangos bod gwleidyddiaeth Sir Benfro'n mynd yn fwy fwy pleidiol.
Mae'n podlediad cyntaf bellach yn fyw. Fe fydd na ddolen uniongyrchol o'r blog cyn bo hir ond am y tro gallwch ewch i fan hyn i wrando a thanysgrifio.
Mae 'na restr lawn o bodlediadau Radio Cymru yn fan hyn.
Mae "Dau o'r Bae" yn dychwelyd heddiw am 12.15 gyda Rhun ap Iorwerth yn llenwi'r twll a adawyd gan Rhunaedd. Gellir gwrando yn fyw wrth gwrs neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwrando eto.
Rhagor o syniadau gwreiddiol gan y Democratiaid Rhyddfrydol
"I will not make age an issue of this campaign. I am not going to exploit, for political purposes, my opponent's youth and inexperience."
Ronald Reagan, 1984
"Now when it comes to the next general election, I believe there is some speculation that age will be a factor. You bet it will. Because I'll make it one. Because with age comes experience, and with experience comes judgement."
Syr Menzies Campbell, heddiw
Fe fydd 'na hen ddigon o gwestiynau i'w hateb yn sgil y ddamwain erchyll ar yr M4 yr wythnos hon ond yn barod mae hi wedi'n hatgoffa o'r trallod teuluol y mae gyrru'n wyllt a chyflymdra yn achosi.
Dw i byth wedi deall y ddadl bod 'na "ddim byd yn gynhenid anniogel mewn cyflymdra". Ar riw lefel fetaffisegol mae hynny'n gywir wrth gwrs. Mae craig sy'n teithio trwy wacter y gofod yr un mor ddiogel beth bynnag yw ei gyflymdra. Ond nid gwacter y gofod yw'n ffyrdd a'n priffyrdd. Mae'n fwy peryglus os ydy'ch teiar yn byrstio wrth deithio am gan milltir yr awr nac yw hi am drideg milltir yr awr. Mae'n fater o ffiseg elfennol bod car yn debyg o achosi mwy o ddifrod ac anaf o daro rhywbeth wrth deithio'n yn gyflym nac wrth deithio'n araf.
Dw i mewn sefyllfa anodd nawr. Dw i am ganmol Heddlu'r Gogledd am yr eil dro mewn deuddydd! Dw i'n addo nad ydw i'n ongli am swydd PR Richard Brunstrom!
Mewn adroddiad newydd datgelir bod y nifer o bobol a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd y Gogledd wedi gostwng 28.1% dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n anodd credu nad oes a wnelo hynny rhywbeth a phlismona cadarn a llym ar ffyrdd yr ardal.
Disgrifiodd y Daily Mail Richard Brunstrom fel "The Mad Mullah of the Traffic Taliban". Yn sicr mae'n gymeriad digon digyfaddawd ond p鈥檜n sydd waethaf- dirwy a phedwar pwynt neu oddef anaf difrifol neu brofedigaeth?
Gydag unrhyw lwc dwi'n gobeithio cyhoeddi/darlledu fy mhodlediad cyntaf rhywbryd yfory. Mae 'na esboniad o'r dechnoleg yn fan hyn a gellir arbrofi gyda phodlediadau eraill Radio Cymru ar y dudalen hon.
Dw i'n dechrau alaru ar flogio ynghylch y busnes enwau yna. Dw i'n sicr eich bod chi'n cofio'r ddadl. A ddylid newid enw Llywodraeth Cynulliad Cymru i Lywodraeth Cymru ac oes gan y cynulliad yr hawl i wneud hynny?
Mae cyfaill o 成人论坛 yr Alban yn codi pwynt diddorol. Os ydym am lynu wrth lythyren y ddeddf oni ddylid disgrifio Gordon Brown fel Prif Arglwydd y Trysorlys? Wedi'r cyfan does dyw'r swydd o Brif Weinidog ddim yn bodoli'n swyddogol. Mater o arfer a chwrteisi yw'r teitl hwnnw
Noson hwyr heno yn recordio rhaglen beilot o'r gyfres wleidyddol newydd i S4C. CF99 (cod post y cynulliad) yw teitl y rhaglen newydd. Fe fydd hi'n cychwyn ymhen ychydig wythnosau. Yn y cyfamser dw i'n recordio fy mhodlediad cyntaf rhywbryd yfory ac mae "Dau o'r Bae" yn dychwelyd ar Radio Cymru Ddydd Gwener. Yn sgil ymadawiad Rhuanedd does 'na ddim sicrwydd pwy yw'r "Ddau" eto- ond fe fydd na raglen!
Mae'r cynulliad ei hun wedi ail-ymgynnull ers deuddydd bellach ac eisoes mae 'na un newid amlwg. Mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg yn y siambr gyda nifer o aelodau oedd arfer defnyddio'r Saesneg yn bennaf yn troi at y Gymraeg. Newid yn yr hinsawdd efallai.
Ceir enghraifft arall o hynny yng Ngogledd Cymru. Am y tro cyntaf mae un o heddluoedd Cymru wedi penderfynu bod y Gymraeg yn hanfodol i fod yn blismon mewn rhai ardaloedd . Fe fydd un ar ddeg o swyddi yn Nolgellau, Pen Ll欧n, Caernarfon, Llangefni, Bangor, Caergybi a Benllech ond yn agored i Gymry Cymraeg.
Ydy'r Prif Gopyn wedi tynnu nyth cacwn arall ar ei ben? Wel nac ydy, mae'n ymddangos. Mae'r penderfyniad wedi derbyn cefnogaeth lwyr gan Ffederasiwn yr Heddlu er ei fod yn golygu y bydd rhai ymgeiswyr di-Gymraeg, sydd eisoes wedi pasio eu profion, yn gorfod disgwyl am swyddi yn rhannau eraill o'r Gogledd.
Does dim dwywaith mai Plaid Cymru enillodd brwydr y gimics/syniadau gwreiddiol yn ystod etholiad y cynulliad. Mae'n anodd gor-ddweud yngl欧n 芒'r dirmyg sy gan y pleidiau eraill tuag at bolis茂au fel cluniaduron i blant ysgol a grantiau i bobol sy'n prynu t欧 ar y tro cyntaf.
Mae'r ail bolisi yn arbennig wedi ennyn dirmyg y Tor茂aid sy'n awgrymu y byddai ond yn ychwanegu at chwyddiant ym mhrisiau tai.
Ond beth yw ? Draw yn Awstralia mae John Howard arweinydd chwaer blaid y Ceidwadwyr yn wynebu brwydr am ei einioes wleidyddol ar 么l degawd mewn grym. Na phoener. Mae gan blaid Mr Howard arf ddirgel yn eu meddiant sef cynyddu'r gwariant ar "" a "First Home plus", cynlluniau poblogaidd a gyflwynwyd gan y llywodraeth nol yn y flwyddyn 2000.
Beth mae'r cynlluniau hynny'n gwneud? Ie, dyna chi, cynnig grantiau i bobol sy'n prynu t欧 am y tro cyntaf.
Ydy Glyn Davies yn gwybod rhywbeth? Ar ei mae'n hel atgofion am noson y refferendwm ac yn dweud hyn.
"As driving home about 5.00 in the morning, I knew that there was inevitably going to be a major change in the way Wales would be governed. There would be no going back. I also knew that what had been agreed was a hopeless compromise, and that eventually full law making powers in devolved areas would inevitably be granted...wouldn't it be a something really special for me (and the greatest of ironies) if a referendum to create such a 'Parliament' were to become official Conservative policy at the next General Election. I'd be a very happy candidate indeed."
Yn y cyfamser mae busnes teitl swyddogol llywodraeth y cynulliad yn parhau gyda Dafydd Elis Thomas yn galw am fabwysiadu'r enw 鈥淟lywodraeth Cymru/Welsh Government鈥.
Pwy yw'r unig arweinydd plaid sy'n fodlon ei gefnogi'n gyhoeddus (hyd yn hyn)?
Nick Bourne.
Ar gyfartaledd mae'r byd yn colli un o'i ieithoedd bob pythefnos. Gellir darllen mwy yn .
Ar 么l cwrdd 芒 swyddogion y Blaid Lafur mae cyn-ymchwilydd Ann Jones, David Collins, wedi rhyddhau datganiad arall yn ymddiheuro am ei sylwadau ynghylch yr Iaith Gymraeg.
Roedd Mr Collins eisoes wedi pwysleisio nad oedd ei ddaliadau personol yn adlewyrchiad o bolis茂au ei blaid na safbwyntiau ei gyflogwr. Dyma oedd ganddo i ddweud ddoe yn ei lythyr ymddiswyddiad.
"As you know, the comments I left were personal and in no way reflective of your opinions or the policy of Wales Labour Party"
Heddiw mae wedi mynd un cam ymhellach gan fynnu nad oedd ei sylwadau yn adlewyrchiad teg... o' i ddaliadau personol ei hun.
"The comments were written in haste and do not represent my views. In truth I support the policy of Welsh Labour, which is to invest in a strong future for the Welsh language."
Nawr dw i ddim yn gredwr mewn cicio dyn sydd ar lawr ond dyw David Collins ddim yn gwneud ffafrau a'i hun trwy'r holl ddatganiadau 'ma.
Gair i gall gan Denis Healey "os ydych chi mewn twll y peth cyntaf i wneud yw stopio palu."
Mae heddiw'n ddiwrnod prysur rhwng popeth. Mae'n ddeng mlwyddiant y refferendwm ac mae'r gwleidyddion nol yn y Bae. Yn y cyfamser mae cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau yn Brighton gyda Mike German yn dal i bendroni dros ei ddyfodol a Lembit a Gabriella yn dathlu pen blwydd eu perthynas trwy ymddangos yn "Hello."
Gweithio ar y deng mlwyddiant ydw i'n benna heddiw gan ddal lan a rhai o rheiny oedd yng nghanol y dadlau deng mlynedd yn 么l.
Mae'n beth rhyfedd mai dim ond un o'r pum gwleidydd wnaeth ymddangos gyda'i gilydd ar lwyfan Theatr Bute ar noson y cyfri sy dal yn wleidydd etholedig sef Peter Hain. Mae'r pedwar arall, Win Griffiths, Ron Davies, Dafydd Wigley a Richard Livsey wedi gadael y llwyfan, rhai o'u gwirfodd ac eraill oherwydd damweiniau gwleidyddol neu bersonol. I aralleirio Harold Wilson os ydy wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth mae degawd yn oes.
Mae'n hen bryd i ni fentro yn 么l i'r bwcis i ystyried yr ornest sydd ar feddyliau pawb yng Nghymru y dyddiau hyn. Na, nid Cwpan y Byd ond yr etholiad i ddewis arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad. Mae Karl Williams yn cynnig y prisiau canlynol:
Mike German - Evens
Kirsty Williams 2-1
Jenny Randerson 4-1
Peter Black 6-1
Mick Bates 8-1
Eleanor Burnham (yr unig un sy' di dweud bod hi am sefyll hyd hyn!!) 10-1
Sgwennais wythnos ddiwethaf am y dryswch ynghylch enw Llywodraeth Bae Caerdydd. Mae Betsan hefyd wedi bod yn ceisio darganfod beth ar y ddaear i alw'r peth.
Dw i'n cael ar ddeall y gallai 'na fod datblygiadau yn y maes yma yn ystod y dyddiau nesaf gyda phwysau cynyddol am arddel y teitl "Llywodraeth Cymru/Government of Wales/Welsh Government" yn lle "Llywodraeth y Cynulliad/Welsh Assembly Government". Wedi'r cyfan Llywodraethu Cymru mae'r cabinet nid llywodraethu trigain o wleidyddion.
"Llywodraeth Cynulliad Cymru" yw'r teitl a ddefnyddir ym Mesur Llywodraeth Cymru ond mae enw'r mesur ei hun yn rhoi rhiw faint o hyblygrwydd wrth ddeilio a'r mater. Ta beth mae gwleidyddion y Bae wedi bod yn ddigon parod i anwybyddu llythyren y ddeddf yn y gorffennol. Mae da'r Albanwyr term da am y fath yma o beth sef "Independence creep"
Mae David Collins yr ymchwilydd Llafur oedd yng nghanol y ffrae iaith wedi ymddiswyddo. Dyma'r llythyrau rhyngddo a Ann Jones AC.
Dear Ann,
Having returned to the UK last night and for the first time properly seen the coverage in Friday and Saturday's papers, it is clear to me that it is untenable for me to remain in your employment.
As you know, the comments I left were personal and in no way reflective of your opinions or the policy of Wales Labour Party. On reflection I deeply regret having written them.
As a dedicated and committed constituency representative I know that you work with and stand up for the interests of all the people of the Vale of Clwyd. It was not my intention to cause you this embarrassment and I can only apologise.
II would just like to say in conclusion that it has been a pleasure to work for such a stalwart and principled politician as yourself over the past seven or so years.
Yours sincerely
David Collins
Dear David,
I have accepted your resignation and I will ask the Fees Office to make the necessary arrangements to effect your resignation.
Ann
Dw i wedi sgwennu erthygl i'r prif safle ynghylch degawd datganoli. Er mwyn i chi allu ymateb dw i'n cyhoeddi hi fan hyn hefyd.
Degawd Datganoli
"Ydwyf". Go brin y bydd unrhyw un wnaeth aros ar ddihun yn oriau man Medi'r 19eg, 1997 yn anghofio llais pregethwrolo John Meredydd yn cyhoeddi'r newydd fod etholwyr Shir Gar wedi sicrhai buddugoliaeth fechan i'r ochor Ie yn y refferendwm datgonoli. Er mor fregus oedd y mwyafrif hwnnw roedd y canyniad heb os yn garreg filltir bwysig i Gymru.
Wrth gwrs fel oedd Ron Davies yn hoff o ddweud proses nid digwyddiad yw datganoli ac mae'r cynulliad heddiw yn wahanol iawn i'r un derbyniodd s锚l bendith yr etholwyr ddegawd yn 么l.
Roedd blynyddoedd cynnar y cynulliad yn rhai anodd a dweud y leiaf. Yn sgil y brwydro mewnol ffyrnig yn y Blaid Lafur ar ol cwymp Ron Davies byw o ddydd i ddydd oedd hanes llywodraeth leiafrifol Alun Michael. Dim ond ar 么l i Rhodri Morgan gymryd y llyw y dechreuodd y corff ddatblygu a thyfu.
Mae'r datblygu hynny wedi bod yn ddi-dor er nid yn ddi-rwystr byth ers hynny. Yn nhermau ariannol mae gwariant y cynulliad wedi dyblu i bob pwrpas. Erbyn hyn mae'n gwario oddeutu pedair mil o bunnau'r pen ar ddarparu gwasanaethau i drigolion Cymru.
Fe fyddai rhan fwyaf o'r gwasanaethau hynny, iechyd, addysg ac yn y blaen, wedi eu darparu ta beth wrth gwrs. Y cwestiwn allweddol yw ydy'r modd y cyflenwir y gwasanaethau yn well neu hyd yn oed yn wahanol oherwydd bodolaeth y cynulliad?
Mae'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yn hynod ddiddorol. Heb unrhyw amheuaeth mae 'na agendor bellach rhwng y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru a Lloegr. Yr eironi yw mai'r rheswm penna am hynny yw'r newidiadau radicalaidd yn Lloegr yn hytrach nac unrhyw newid sylfaenol yng Nghymru.
Tra bod y llywodraeth yn San Steffan wedi troi'n fwyfwy at y sector breifat ac asiantaethau hyd-braich i ddarparu gwasanaethau mae gwleidyddion Bae Caerdydd wedi glynu at fodel llawer mwy traddodiadol. Cyfyng yw r么l y sector breifat yn y gwasanaethau cyhoeddus yma ac os unrhywbeth mae'n debyg o grebachu'n bellach.
Mae llywodraeth Bae Caerdydd hefyd wedi cyflwyno cyfres o bolis茂au i greu "dwr coch claer" rhwng Cymru a Lloegr. Mewn rhai achosion, megis mynediad am ddim i Amgueddfeydd mae Lloegr wedi dilyn esiampl Cymru. Mae eraill fel dileu taliadau presgripsiwn yn parhau'n unigryw. Mae Cymru a'r Alban hefyd wedi mabwysiadu rhaglenni i ail-agor rheilffyrdd i deithwyr syniad sydd wedi ei wrthod gan yr adran drafnidiaeth yn Llundain. Ond mewn rhai meysydd wedi gorfod cyfaddawdi. Oherwydd rheolau Ewropeaidd, er enghraifft, roedd hi'n bosib i'r cynulliad gynnig cymorth i fyfyrwyr Cymreig sy'n mynychu Colegau yng Nghymru ond nid i rai sy'n dewis astudio dros y ffin.
Mae'n bosib dadlau'r naill ffordd neu'r llall pu鈥檔 ai ydy model Cymru鈥檔 well nac un Lloegr ond does dim gwadu eu bod yn gyfan gwbwl gwahanol i'w gilydd ac mae'r gwahaniaethau hynny yn sicr o gynyddu wrth i'r cynulliad ddechrau defnyddio ei hawliau deddfwriaethol newydd.
Ymhen pedair arall mae'n ddigon posib y bydd etholwyr Cymru yn wynebu trydydd refferendwm datganoli, y tro hwn i benderfynu a ddylai'r cynulliad gael pwerau deddfwriaethol tebyg i rai senedd yr Alban.
Dw i'n ymddiheuro am beidio blogio rhiw lawer ddoe. Fe es i angladd Deryk Williams, hen gyfaill a chydweithiwr, a roeddwn yn ddigalon braidd ar 么l ffarwelio a un fu farw ymhell cyn ei amser.
Fe gafodd Deryk y darn mwyaf o anlwc y des i ar draws hi erioed. Ar 么l ymddeol fel un o benaethiaid S4C roedd yn chwilio am rhywbeth i wneud, jobyn oedd yn ddiddorol ond yn ddi-st诺r. Mae'n sicr ei fod yn meddwl ei fod wedi canfod yr union beth pan gafodd ei benodi fel rheolwr Cymreig Cyfrifiad 2001. O fewn wythnosau dechreuodd yr holl st诺r ynghylch blwch ticio Cymreig a roedd yn rhaid i Deryk druan fynd o stiwdio i gyfarfod i stiwdio yn ceisio amddiffyn ei feistri tra'n ceisio eu hargyhoeddi nhw eu bod wedi creu smonach llwyr. Ar y pryd roedd 'na bwysau arno i ymddiswyddo ond fel un wnaeth astudio'r gyfraith roedd Deryk o'r farn bod hyn yn oed y cleient gwaethaf yn haeddu cynrychiolaeth!
Gan ein bod yn nesu at etholiadau cyngor dw i'n bwriadu cyhoeddi canlyniadau is-etholiadau lleol o hyn ymlaen. Hyd y gwn dim ond un oedd yn cael ei gynnal ddoe.
Mochdre (Cyngor Conwy)
48% yn pleidleisio
Llafur 303
Plaid 166
Ceid. 159
BNP 35
Dw i'n edrych ymlaen at weld cofeb newydd Owain Glynd诺r yng Nghorwen. A barnu o'r lluniau mae'r cerflun yn un trawiadol. Mae'n sicr o fod yn well na'roedd yna o'r blaen!
Mae celf gyhoeddus yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn ond mae rhai enghreifftiau鈥檔 fwy llwyddiannus nac eraill. Mae hwn yn farn gwbwl goddrychol wrth gwrs ond fy ffefryn personol i ymhlith y cerfluniau mwy diweddar yw cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.
Mae'r ym Mae Caerdydd ar y llaw arall yn beth echrydus. Mae'n ymddangos ei bod wedi ei greu o deils t欧 bach cyhoeddus a dw i ddim yn synnu bod y cynllunwyr wedi ei guddio y tu 么l i'r Eglwys Norwyeg!
Yn Neuadd Dinas Caerdydd mae "Casgliad Cerfluniau Cenedlaethol Cymru" sy'n dylunio arwyr Cymru. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddewis yr arwyr yng nghanol y rhyfel byd cyntaf. Ar y cyfan yr un fyddai鈥檙 dewisiadau heddiw Llywelyn ein llyw olaf, Dewi Sant, Hywel Dda ayb er fy mod yn amau bod Buddug ond wedi ei chynnwys er mwyn cael menyw a dw i'n amheus a fyddai'r Cadfridog Picton yn cael ei ddewis heddiw.
Pe bai na ychwanegiadau (ac mae na le i wneud hynny) pwy o'r ugeinfed ganrif fyddai'n cael ei ddewis tybed? Mae na groeso i chi awgrymmu!
Ar gais y Cyngor Llyfrau dw i wedi sgwennu adolygiad o gofiant Huw T. Edwards ar gyfer safle GWALES . Mae hwn yn llyfr hanfodol i ddilynwyr gwleidyddiaeth Cymru felly dw i'n si诺r na fydd y cyngor yn poennu os dw i'n ail-gyhoeddi'r adolygiad yn fan hyn! Mae'r llyfr ar gael o , wrth gwrs, neu o鈥檆h siop leol.
Mae 'na ambell i ddegawd sy'n mynd yn angof i haneswyr a'r cyhoedd fel ei gilydd. Degawd felly yw pumdegau'r ganrif ddiwethaf, degawd a ystyrir yn rhyw egwyl ddi-liw rhwng erchyllterau'r pedwardegau a chwyldro cymdeithasol y chwedegau.
Y gwirionedd, wrth gwrs, yw fod pob degawd yn gosod sylfaen i'r hyn sydd i ddilyn, ac mae pob un ohonynt yn haeddu sylw. Yn y pumdegau yr enillodd Huw T. Edwards y teitl 鈥楶rif Weinidog Answyddogol Cymru鈥, a nod llyfr Gwyn Jenkins yw ailgyflwyno鈥檙 cymeriad allweddol a diddorol yma i'w gyd-Gymry.
Mae stori Huw T, ar adegau, yn darllen fel nofel, ac roedd ef ei hun yn hoff o ramantu yn ei chylch. Yn ystod ei fywyd tymhestlog fe fu'n l枚wr, yn chwarelwr, yn filwr ac yn was bach. Roedd hynny i gyd cyn iddo ddechrau ar ei fywyd cyhoeddus hyd yn oed.
Fel trefnydd y T&G yn y gogledd y daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf fel person cyhoeddus. Ond roedd yn llawer mwy nag undebwr. Fel rhywun oedd ag un troed yn y mudiad Llafur a'r llall yn y byd Cymraeg, roedd e'n berson amlwg i gadeirio ac eistedd ar gyrff cyhoeddus. Roedd Huw T yn frenin ar y cwangos ddegawdau cyn i'r term hwnnw gael ei fathu.
Roedd rhan Huw T yn y frwydr dros ddatganoli yn un o'i gyfraniadau allweddol. Nid stori syml yw hon. Fel Cadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy, roedd llais Huw T yn un pwysig. Ond person 鈥榗eisio am y posib鈥 oedd Huw T, ac ar y dechrau roedd yn ddigon llugoer yngl欧n 芒 syniadau fel Senedd neu hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol i Gymru.
Yn y diwedd fe ddaeth yn gefnogwr brwd i'r syniad, gan gefnu ar y Blaid Lafur am gyfnod ac ymuno 芒 Phlaid Cymru. Mewn cyfnod lle mae'r ddwy blaid honno mewn clymblaid yng Nghaerdydd, mae hanes Huw T yn taflu goleuni diddorol ar y berthynas rhyngddynt a'r tensiynau rhwng datganolwyr ac unoliaethwyr y Blaid Lafur 鈥 un o brif them芒u gwleidyddiaeth Cymru hyd heddiw.
Mae'n amlwg o'r llyfr ei hun a鈥檙 么l-nodiadau fod Gwyn Jenkins wedi cyflawni gwaith ymchwil trylwyr, nid yn unig wrth bori trwy bapurau, ond hefyd trwy holi cymeriadau fu鈥檔 rhan allweddol o fywyd Huw T. Mae ganddo hen ddigon o ddeunydd ar gyfer cofiant hir, academaidd. Ond mae'n amlwg nad hynny oedd ei fwriad fan hyn. Yn hytrach, trwy chwynnu'n drwyadl, mae wedi llwyddo i greu portread hynod ddarllenadwy o'i destun fydd yn apelio at unrhyw un sydd 芒'r diddordeb lleiaf yng ngwleidyddiaeth neu hanes diweddar Cymru.
Dw i'n cyffwrdd fy nghap i am dynnu sylw at y sylwad yma ar flog .
Compulsory Welsh may also diminish young pupils enthusiasm for education and their confidence in their ability to master a subject. You cannot successfully teach a practically brain dead language to young children whose families don't want it revived or couldn't care less about it. It can only be dulling for them. Yet the education system is trying to do just that, under the ridiculous premise that everyone should be adopting a "Welsh identity" - and the obnoxious premise that they should be compelled to. Removing the compulsory nature of Welsh would let the education system be more flexible, responsive, and successful at preparing our children for life in the real world.
Pwy yw'r ? Ymgeisydd cyngor y Blaid Lafur yn Grangetown yng Nghaerdydd, ardal sy'n brysur Cymreigio, a dyn sy'n ennill ei damaid fel ymchwilydd i Ann Jones AC.
Dw i'n siwr y bydd Llafur yn mynnu y byddai'n hurt i gredu bod geiriau Dave Collins yn cynrychioli barn ei blaid... yr un mor hurt ac ymgyrchu ar y sail bod sylwadau byrfyfyr Seimon Glyn yn 2001 yn cynrychioli safbwyntiau ei blaid yntau...
Dyn diwyd yw Mark Hoban, Aelod Seneddol Fareham. Yn ddiweddar gofynnodd tri ar ddeg o gwestiynau ysgrifenedig yngl欧n 芒 gwariant Swyddfa Cymru. O ganlyniad rydym yn gwybod, er enghraifft, bod yr adran wedi gwario deugain punt ar flodau a dwy fil a hanner o bunnau ar dacsis yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gwariwyd yr un geiniog ar daliadau diswyddo na thribiwnlysoedd diwydiannol.
Ar gyfartaledd mae ateb cwestiwn ysgrifenedig yn costio cant a deugain o bunnau. Mae rhiw bymtheg can punt o arian cyhoeddus wedi ei wario ar ateb cwestiynau Mr Hoban felly.
Cewch chi farnu p鈥檜n ai Swyddfa Cymru ai Mr Hoban sy'n wastraffus.
O fewn y dyddiau nesaf rydyn ni'n debyg o wybod rhagor am yr ELCO ynghylch yr iaith Gymraeg. Hwn yw'r cais a gyflwynir gan y cynulliad i'r senedd yn gofyn am yr hawl i ddeddfu yn y maes. Does 'na ddim manylion eto ond dw i'n deall bod y cais yn debyg o gythruddo鈥檙 aelodau seneddol hynny sy'n dymuno cadw pwerau deddfu'r cynulliad yn gyfyng.
Yn 么l yr hyn dw i'n clywed fe fydd hi'n amlwg bod llywodraeth y cynulliad yn ystyried cyflwyno cyfres o fesurau deddfwriaethol yn ymwneud a'r iaith mewn ystod eang o feysydd. Mae hynny'n wahanol iawn i'r mesur cyfyngedig i greu swydd y Dyfarnydd y bu Llafur yn son amdani adeg yr etholiad.
Mae 'na arwydd fach arall o'r ffordd mae'r gwynt yn chwythu. Yfory fe fydd y gweinidog diwylliant Rhodri Glyn Thomas yn dadorchuddio'r cerflun newydd o Owain Glynd诺r yng Nghorwen. Tybed a fyddai Alun Pugh wedi mynd?
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd dw i'n colli'r cynadleddau gwleidyddol eleni gan adael y gwaith a'r gloddesta i eraill. Gallai hynny fod yn fendith gyda Ramadan yn cychwyn fory! Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf fe fydd 'na gyfres o newidiadau a gwelliannau i wasanaethau gwleidyddol Cymraeg y 成人论坛 a pharatoi ar gyfer rheiny fyddai dros y mis nesaf.
Beth fedrwch chi ddisgwyl felly? Wel yn gyntaf mae "Maniffesto" wedi dirwyn i ben a'r rhaglen wleidyddol Gymraeg yn dianc o'r geto sabothol. Fe fydd 'na raglen wleidyddol newydd yn yr oriau brig ar S4C gyda rhagor o adnoddau a steil gwbwl newydd. Mwy am hynny yn y man ond fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth gwyno rhai misoedd yn 么l am ddyblygu rhwng "Maniffesto" a'r "Politics Show" yn falch i wybod na fydd hynny'n digwydd o hyn ymlaen.
Fe fydd na newidiadau yn y gwasanaeth ar lein hefyd gyda'r brif dudalen wleidyddol yn cael ei diweddaru'n amlach a phodlediadau rheolaidd. Gydag unrhyw lwc, dwi'n gobeithio cynnwys elfennau aml-gyfrwng ar y blog hefyd.
Yn y cyfamser- peidiwch 芒 becso. Mae gen i sbeis yn y cynadleddau ac fe wn芒i fy ngorau i hel y clecs i gyd!
Fel wnes i broffwydo Ddydd Sadwrn Gwenll茂an Landsdowne yw Prif Weithredwr newydd Plaid Cymru. Heb os mae'n benodiad da. Mae Gwenll茂an yn un o'r bobol hynny sy'n boenus o alluog. Mae ganddi gasgliad o raddau a doethuriaethau a dw'n i'm faint o ieithoedd mae'n siarad. Mae'r adroddiad byr yma yn dweud y cyfan.
"Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Gwenll茂an Lansdowne ar ei phriodas a Teodros Seyoum...Daw Gwenll茂an o Fangor a'i gwr o Ethiopia a chyfarfu'r ddau yn Rhydychen. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Gymraeg, Saesneg ac Amharic er mai Ffrangeg yw iaith y cartref."
Blincin hec...
Deng mlynedd yn 么l i heddiw roeddwn yn ffilmio Carys Pugh a Betty Bowen ar fws yr ymgyrch Na ar drothwy'r refferendwm datganoli. Rhiw gymysgedd digon rhyfedd oedd yr ymgyrch honno gyda'r Ceidwadwyr ac ambell i aelod seneddol Llafur yn llechu yn y cysgodion a dwy hen fenyw o'r Rhondda yn ffryntio'r cyfan. Hyd heddiw mae'n ryfeddodd i mi eu bod wedi dod mor agos at drechu'r cynllun.
Go brin y gall unrhyw un anghofio cyffro noson y cyfri, er ein bod yn gwybod erbyn hyn bod 'na elfen o lwyfannu yn y cyfan gyda chanlyniadau Gwynedd a Sir Gar yn cael eu dal n么l er mwyn ychwanegu at y ddrama
Beth bynnag am hynny, wrth edrych ymlaen at y posibilrwydd o drydydd refferendwm mae'n werth cofio pa mor ddiawledig o anodd y gallai hi fod i gefnogwyr datganoli yn enwedig os ydy Aelodau Seneddol Llafur yn ymgyrchu yn erbyn.
O fewn y cynulliad mae'r farn wedi hollti ynghylch pa mor ennilladwy fyddai'r bleidlais ond yn fy marn i mae 'na ambell i ffactor oedd yn bwysig yn 1979 a 1997 na fyddai'n berthnasol y tro nesaf. Yn y ddwy bleidlais ddiwethaf dadleuon mwyaf effeithiol yr ymgyrchoedd Na oedd cost cynulliad a gwrthwynebu creu rhagor o wleidyddion proffesiynol. Y tro nesaf mae'n annhebyg y byddai cynyddu'r pwerau'r cynulliad yn ychwanegu at y gost ac mae'r gwleidyddion eisoes yno. Gallai "Rhowch mwy o waith i'r diawled" fod yn slogan bur effeithiol i'r ymgyrch Ie!
Mae Peter Black wedi ymateb ar eii'r sylwadau gen i rhai dyddiau yn 么l yngl欧n a'i daflen ddiweddar. Peidiwch becso does dim rhaid mynd nol dros bopeth i ddeall y ddadl! Barnu wnes i fod Peter wedi awgrymu bod gweithio'n galetach yn ateb i broblemau'r blaid a bod 'na fawr ddim newydd nac unigryw yn ei neges wleidyddol. Mae Peter yn ymateb trwy ddweud hyn;
鈥淥riginality was not one of the virtues that I have ever claimed for this pamphlet. In fact I published it with the express intent of starting debate by setting out very much where the Welsh Liberal Democrats stand at present both in terms of political position and policy.鈥
Digon teg. Mae Peter yn mynd yn ei flaen i amlinellu pump maes lle mae'n credu y dylai'r blaid ganolbwyntio ei hegn茂on. Mae'r rhaglen a gynigir ganddo yn un sy'n berthnasol i ofidion pobol Cymru ac yn llwyddo i fod yn radicalaidd heb fod yn afresymol o uchelgeisiol. Y broblem yw canfod beth yn union sydd yn gwahaniaethu'r weledigaeth yma o raglenni pleidiau'r Glymblaid? I ddefnyddio'r term marchnata beth yw'r 鈥淯nique Selling Point鈥?
Efallai, wrth gwrs, nad oes angen USP. Os ydy 鈥淟lywodraeth Cymru'n Un鈥 yn llanast neu'n fethiant gallai dwylo glan fod yn ddigon.
Mae 'na dri datganiad i'w wasg o'm mlaen- y tri gan wleidyddion neu swyddogion llywodraeth Bae Caerdydd. Mae'r cyntaf yn defnyddio'r teitl swyddogol "Llywodraeth Cynulliad Cymru". "Llywodraeth Cymru'n Un" yw hi yn yr ail a'r "Labour-led Assembly Government" yn y trydydd.
Mae 'na rym mewn geiriau ac mae teitlau'n gallu cyfleu llawer. Dyna'r rheswm, mae'n debyg, am benderfyniad Alec Salmond i fabwysiadu'r enw "Llywodraeth yr Alban" ar gyfer ei gabinet -penderfyniad sydd wedi gwylltio rhai gwleidyddion Llafur sy'n mynnu mae'r enw "Executive" sy'n gywir. Yng ngeiriau un gweinidog yn San Steffan "They can call themselves the White Heather Club if they want, but they will never be the Scottish government."
Yn dechnegol y gwleidyddion Llafur sy'n gywir. Ond pan benderfynodd Rhodri Morgan ddefnyddio'r teitl "Prif Weinidog" yn hytrach na'r teitl swyddogol "Prif Ysgrifennydd" fe dderbyniwyd hynny gan y pleidiau eraill a'r cyfryngau. Beth am fynd un cam ymhellach a mabwysiadu'r enw "Llywodraeth Cymru"?
Dw i'n meddwl bod hin bryd cael cwis. Gan fod hwn yn benwythnos mawr o ran chwaraeon mae'r cwestiynau i gyd yn ymwneud a chysylltiadau rhwng gwleidyddiaeth a'r meysydd chwarae.
1.Pa faes chwarae yng Nghymru sydd wedi ei enwi ar 么l aelod seneddol? (Dw i'n ymwybodol o un-ond mae'n bosib bod na fwy!)
2.Beth sy'n cysylltu Janet Ryder, David Watkins a Simon Weston?
3.Pa gricedwr amlwg wnaeth geisio am sedd seneddol yng Nghaerdydd?
4.Dim ond un person sy wedi chware Rygbi dros Gymru, Criced dros Forgannwg a Ph锚l-droed dros Ddinas Caerdydd. Pwy oedd e a beth yw'r cysylltiad rhyngddo a Peter Hain?
5.Y frwydr rhwng Rhodri Morgan ac Alun Michael am arweinyddiaeth Llafur Cymru oedd yr eildro i'r ddau rasio yn erbyn ei gilydd. Beth oedd yr achlysur cyntaf?
Fe fydd Plaid Cymru yn cyhoeddi enw ei phrif weithredwr newydd wythnos nesaf. Y ddau enw sy'n cael eu crybwyll yw Gwenll茂an Lansdowne a Geraint Day.
Fe fydd yr etholiad cyngor yn ward Glanyrafon yn Nghaerdydd yn ddifyr os mai Gwenllian sy'n cael ei dewis. Mae hi eisoes yn gynghorydd yn y ward tra mae Mark Drakeford SPAD Rhodri Morgan wedi ei ddewis fel ymgeisydd Llafur.
Dyw hi ddim yn erbyn y rheolau i SPAD sefyll mewn etholiad lleol ond disgwylir i fe neu hi 鈥測mddwyn yn gymedrol a gochel rhag ymosodiadau personol鈥. Dyw hynny ddim wastad yn hawdd yng nghanol berw etholiad!
Yfory fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cwrdd i drafod trefni etholiad ar gyfer eu harweinydd yn y cynulliad, tasg a allai fod yn un ddigon diddiolch. "Dysfunctional" yw'r gair a ddefnyddir amlaf gan y pleidiau eraill i ddisgrifio'r gr诺p yn y cynulliad ac yn sicr mae 'na densiynau personol a gwleidyddol yn mudferwi rhwng yr aelodau.
Cyn etholiad y cynulliad y gred gyffredinol oedd y byddai Kirsty Williams, yn hwyr neu'n hwyrach, yn olynnu Mike German gyda'r amseriad yn dibynnu ar p鈥檜n ai oedd y blaid yn rhan o lywodraeth glymblaid neu'n eistedd ar feinciau'r gwrthbleidiau. Drylliwyd y disgwyliadau hynny ar 么l yr etholiad gyda Kirsty'n cael ei chyhuddo o ddiffyg teyrngarwch ac o gynllwynio i ddryllio clymblaid yr enfys. Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Kirtsy ei hun wedi colli diddordeb yn yr arweinyddiaeth.
Mae hynny'n gadael y Blaid mewn picl. Fe fyddai'n bosib i Mike barhau ond ar 么l iddo fethu ddelifro clymblaid ddwywaith does ganddo fawr o hygrededd gwleidyddol. Ond pa ddewis arall sydd na? Peter Black? Elinor Burnham?
Fe ddywedwyd unwaith mai anlwc Michael Foot oedd iddo gael ei ethol yn arweinydd Llafur ar adeg pan nad oedd y blaid yn fodlon cael ei harwain. Mae'n ymddangos bod sefyllfa debyg yn datblygu yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Gan fy mod yn teithio i Falaysia ymhen rhiw fis i ddathlu Eid fe wnes i wylio'r ceiniogau a'r carbon dros yr haf gan aros yng Nghymru fach a chymryd ambell i drip. Am y tro cyntaf ces i'r cyfle i fwynhau un o lwyddiannau mawr llywodraeth y cynulliad trwy deithio ar reilffordd Bro Morgannwg. Yn wahanol i San Steffan mae llywodraethau Caerdydd a Chaeredin wedi mabwysiadu polis茂au o ail-agor rheilffyrdd i deithwyr lle mae hynny'n bosib. Ail agorwyd lein y fro yn 2005 ac yn y flwyddyn gyntaf cludwyd bron i chwarter miliwn o deithwyr ffigwr ymhell y tu hwnt i'r broffwydoliaeth fwyaf optimistaidd. Testun dathlu i'r llywodraeth felly.
Fe ddylai'r gwleidyddion bod yn llai hapus wrth weld yr hyn sy'n digwydd yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Ydych chi'n cofio'r gwleidyddion yn brolio hyd syrffed am gael gwared ar dal mynediad yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol? Wel yn yr hen ddyddiau yn Sain Ffagan roedd yn rhaid talu tal mynediad...ond roedd y parcio am ddim. Nawr mae'r mynediad am ddim ond mae'n rhaid talu i barcio.
Digon tila yw'r gwasanaeth bysus i Sain Ffagan ac i bob pwrpas tal mynediad trwy'r drws cefn yw hwn. Fe dderbyniodd yr Amgueddfa dalp o arian cyhoeddus pan gyflwynwyd polisi mynediad am ddim. Ydy鈥檙 gwleidyddion yn hapus i weld y polisi hwnnw'n cael ei lastwreiddio? Fe wn芒i ofyn.
Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia wedi ei groniclo hyd syrffed ond mae 'na ran arall o'r byd sy'n cyfri Cymru fel ei ffrind penna -ei hunig ffrind efallai. Mae ei gwleidyddion yn ymwelwyr cyson a Bae Caerdydd ac ar hyn o bryd mae Alun Michael AS yn y wlad honno yn rhoi cyngor i'w llywodraeth.
Fel y rhan fwyaf o bobol mae fy ngwybodaeth o Somalia yn gyfyngedig i'r hyn dwi'n gweld ar deledu a'r hyn dw i'n cofio o "Black Hawk Down" ond mae artaith y wlad honno, lle na fu llywodraeth weithredol am bron i ugain mlynedd, yn boen dyddiol i filoedd o drigolion Caerdydd.
Nol yn oes Fictoria pan oedd glo'r de'n pweru llyngesau'r byd dynion o British Somaliland oedd yn bwydo ffwrneisi'r llongau. Rhain, meddid, oedd yr unig bobol oedd yn gallu dioddef y gwres a'r st诺r yng nghrombiliau鈥檙 llynges. Mae disgynyddion y dynion caled hynny yn byw yng Nghaerdydd hyd heddiw ac wedi gorfod gwylio eu mamwlad yn goddef anarchiaeth.
Ond dyw hynny ddim cweit yn wir. Tra bod y rhan fwyaf o Somalia yn gwaedu mae'r rhan ohoni oedd yn drefedigaeth Brydeinig, y rhan lle mae gwreiddiau Somaliaid Cymru, yn heddychlon gyda'i llywodraeth, senedd a'i system gyfreithiol ei hun.
Pymtheg mlynedd yn 么l cyhoeddodd Somaliland ei hannibyniaeth o weddill Somalia ac ers hynny mae ei thrigolion wedi llwyddo i osgoi'r erchyllterau sy'n digwydd yng ngweddill y wladwriaeth fethedig.
Y broblem sy gan lywodraeth Somaliland yw nad oes 'na'r un llywodraeth arall na'r un corff rhyngwladol yn cydnabod ei hawdurdod. Neb, hynny yw, ar wah芒n i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd llefarydd senedd Somaliland yn westai swyddogol yn agoriad adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Gweithred symbolaidd oedd honno, wrth gwrs, ond roedd hi'n weithred o bwys ac mae gwaith cyson, tawel gwleidyddion fel Alun Michael a Lorraine Barrett wedi bod yn gysur cyson i wlad fach anghofiedig sy'n haeddu gwell. Mae Alun, yn arbennig, wedi gweithio'n ddyfal fel cadeirydd grwp aml-bleidiol yn San Steffan i hyrwyddo achos y wlad.
Y gobaith yn y tymor hir yw y bydd hi'n bosib meithrin yr un fath o berthynas rhwng Somaliland a Chymru a'r un sy'n bodoli a Lesotho er y bydd hi'n anodd cyflawni hynny yn wyneb statws ansicr y wlad. Serch hynny mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim. Dw i ddim yn dweud hyn yn aml ond yn yr achos yma mae'n gwleidyddion yn haeddu clod.
Dyna ni felly. Mae'r haf hirfelyn (?) tesog (??) yn tynnu at derfyn ac mae'n bryd i mi glirio'r dwst o'r stafell a dechrau ail-ddodrefni.
Dyma ychydig o ddolenni diddorol i ddechrau. Yn mae 'na drafodaeth ddifyr rhwng Ian Dale a Robert Waller ynglyn a maes y gad yr etholiad cyffredinol yng Nghymru. Almanac Waller yw'r Beibl i newyddiadurwyr adeg etholiad ac mae ei sylwadau'n graff. Un rhybudd - mae'r ynganu yn boenus ar brydiau.
. Mae meibion y fflam wrthi yn Ne Ffrainc.
Dros yr haf cyhoeddodd Huw Lewis a Peter Black daflenni yn dadansoddi perfformiadau eu pleidiau yn etholiadau'r cynulliad. Gellir darllen llith Huw yn ac un Peter yn .
Mewn gwirionedd does 'na ddim llawer o gig yn y naill daflen na'r llall. Gwella'r drefniadaeth a llunio perthynas agosach a'r undebau yw rys谩it Huw ar gyfer dyfodol Llafur. Haws dweud na gwneud.
Ailadrodd yr hen fantra Rhyddfrydol mae Peter " Where we work we win". Fel Boxer y ceffyl yn "Animal Farm" gweithio'n galetach yw'r ateb. Ie, dyna chi rhagor o daflenni!
Mae Peter hefyd yn awgrymu y dylai'r blaid bwysleisio ei "neges unigryw radicalaidd" sef...
" tackling poverty and inequality, taking the hard decisions that will improve our environment and our quality of life, that will remove barriers and offer people the educational and employment opportunities to better their lives and which will open up government and make it more transparent and accountable."
Mae'n anodd gweld unrhyw beth unigryw yn y neges honno. Fe fydd angen gwell os ydy Peter yn bwriadu herio Mike German am yr arweinyddiaeth.
成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.