Wrth gwrs, nid golchi a danfon dillad yw prif swyddogaeth y golchdy bellach ond hurio llieiniau, dillad gwely ynghyd â gwisgoedd staff arlwyo i fusnesau ym maes twristiaeth ac i dai bwyta ledled Gogledd Cymru.
Pan ddaeth sôn am adeiladu ffordd newydd heibio i'r pentref, bu'n rhaid ail leoli'r golchdy ar safle newydd ychydig i ffwrdd i gyfeiriad pentref Chwilog.
Gwasanaethau Afonwen Cyf yw enw'r busnes bellach ac mae'n cyflogi dros gant o bobl leol.
Oherwydd natur y gwaith ac er mwyn parhau i weithredu ar raddfa eang roedd yn ofynnol i'r cwmni fuddsoddi mewn adnoddau pwrpasol ar gyfer trin dŵr gwastraff, a'r cwmni hwn yw'r cyntaf drwy Brydain i sefydlu proses o drin y gwastraff hwn yn gemegol a biolegol fel ei fod yn addas i'w waredu trwy bibell Dŵr Cymru i ddyfroedd y môr.
Mae'r rheolwyr yn ymhyfrydu yn y ffaith mai hwy yw'r cwmni cyntaf o'i fath drwy'r wlad i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y gwastraff golchi a chwrdd â safonau uchel Asiantaeth yr Amgylchedd o safbwynt diogelu'r amgylchedd a chynnal safon y dŵr yn yr ardal.
Er mwyn gwneud y fenter hon yn bosibl, cytunodd Cyngor Gwynedd i symud rhan o ddepo'r Adran Priffyrdd oddi ar safle gyfagos er mwyn gwneud lle i osod y cyfarpar newydd wrth ymyl y golchdy.
Golygodd y fenter fuddsoddiad o £650,000 ar ran y cwmni, gyda chymorth grant o £275,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Heb y bartneriaeth hon rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus; byddai'n rhaid i'r cwmni fod wedi symud i ardal arall y tu allan i Wynedd.
Eglurodd y rheolwr gyfarwyddwr, Mark Woolfenden, bod rheoliadau amgylcheddol newydd Ewrop a'r safonau uchel y mae'n rhaid eu cyrraedd cyn gollwng gwastraff i'r mor wedi gorfodi'r cwmni i chwilio am ddull o drin a gwella ansawdd y gwastraff yn y golchdy.
Bydd y gwaith i gyd wedi ei gwblhau yn ystod haf 2006 a bydd yn gwbl weithredol ym mis Medi, gan ddiogelu dros gant o swyddi.
|