Ddeugain mlynedd yn 么l, ym mis Medi 1964, agorwyd Ysgol Gynradd Llangybi ar ei newydd-wedd. Roedd yr hen ysgol wedi ei. thrawsnewid yn llwyr. Dydy "Changing Rooms" ddim ynddi hi! Trowyd Ystafell y Babanod, sef Dosbarth Miss Mai Jones a'i gr芒t agored, yn gegin fodern i Mrs Jones, Bronallt a Mrs Pritchard, Fron Olau, a throwyd y R诺m Fawr - Dosbarth Mr Jones yn ystafell ddosbarth braf i Miss Mai.
Ychwanegwyd at hynny ddwy ystafell ddosbarth fawr arall, dau gyntedd a thoiledau y tu fewn am y tro cyntaf. Gydag ysgolion Brynengan a Bwlchderwin wedi cau eu drysau am y tro olaf yr Haf hwnnw, yn ogystal 芒 chynnydd yn nifer y plant yn yr ardal, croesawyd tua trigain o blant i'r Ysgol y mis Medi hwnnw.
Deugain mlynedd - carreg filltir go arbennig. Ble'r aeth yr holl blant oedd yno yn y cyfnod hwnnw? Syniad! Beth am gael aduniad? Beth am ymestyn y cyfnod i ddyddiau Prifathrawiaeth Mr H.D. Jones?
Ffonio, sgwennu, gosod posteri, swnian, ac ar y cyd 芒 Rhian a Beti, dyna drefnu i bawb oedd 芒 diddordeb, i ddod i'r Aduniad yng Ngwesty'r Goedlan, Edern ar 18 Medi i gael bwffe.
Yn drist iawn, mae rhai cyfoedion wedi'n gadael, ac oherwydd gwahanol amgylchiadau methodd llawer un arall a bod yn bresennol. Ond daeth yn agos at gant ohonom ynghyd i fwynhau cyfarfod 芒 hen ffrindiau.
Yn ogystal 芒'r "plant", roedd yn braf gweld rhai o'r staff wedi troi atom. Bu Mrs Hughes T欧 Newydd yn cynorthwyo ar amser cinio a chasglu arian cinio am flynyddoedd.
Yn bresennol hefyd roedd Mrs Kathleen Roberts ddechreuodd yn yr Ysgol fel athrawes pan agorwyd yr ysgol newydd. Hefyd, y bytholwyrdd, Mr H.D. Jones, y Prifathro, ac roedd yn bleser gwrando ar ei araith ddifyr ar 么l y bwyd, yn dwyn atgofion pleserus am ddigwyddiadau o'r cyfnod hwnnw.
Cafwyd cyfle hefyd i edrych ar hen luniau a ddaeth gydag ef mewn dwy albwm, yn ogystal 芒 lluniau gan gyfoedion eraill. Hedfanodd y noson wrth gael sgwrs a hel atgofion difyr hefo hwn a'r llall. Roedd yn braf iawn gweld yr hen griw unwaith eto a diolch iddynt am ddod. Noson o fwynhad pur!
Hafwen, Bryn Mawr