Ond ar yr achlysur hwnnw ni roddwyd 'cap' i'r chwaraewyr i nodi eu camp.
Bellach mae Manon wedi derbyn ei chap swyddogol cyntaf, a hynny yn Yr Alban ar 20 Mai, fel aelod o d卯m merched dan 17 Cymru.
Wedi teithio i faes awyr Birmingham gyda dwy ferch o Bwllheli a merch arall o Ddolgellau, hedfanodd Manon a'i chydchwaraewyr mewn awyren i Gaeredin, cyn teithio mewn bws moethus, gyda seddau lledr a theledu, i Perth.
Cynhaliwyd y g锚m ym Mharc McDiarmid - cartref t卯m p锚l droed St Johnstone, ac er mai ar yr asgell dde y mae Manon yn chwarae fel arfer, roedd yn safle'r blaenwr y diwrnod hwnnw.
Y sg么r terfynol oedd Yr Alban 2 Cymru 1, ond er bod colli bob amser yn siom, codwyd calon Manon wrth iddi dderbyn y cap melfared coch ar ddiwedd y g锚m.
Fel petai chwarae dros ei gwlad ar ddydd Sadwrn ddim yn ddigon i ferch bymtheg oed, hedfanodd Manon, a'r tair merch arall o ogledd orllewin Cymru, yn 么l y noson honno, fel b么nt yn gallu chwarae i dim Pwllheli y dydd Sul canlynol.
Bae Cinmel oedd eu gwrthwynebwyr y diwrnod hwnnw, a th卯m Pwllheli a orfu.
|