³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Ian Williams Modelwr
Gorffennaf/Awst 2008
Hanes gŵr dawnus o Lanaelhaearn sy'n ennill gwobrwyon ar draws Ewrop.
Y model o'r Scammell Tank Transporter a welwch yma yw'r un a ddyfarnwyd yn orau o blith yr holl fodelau o Wledydd Prydain, yr Iseldiroedd a Denmarc mewn arddangosfa dan nawdd Amgueddfa Gaydon, gerllaw Warwick y llynedd.

A'r gŵr a'i lluniodd yw Ian Williams, 'Rynys, Llanaelhaearn sy'n fforman hefo'r Bwrdd Dŵr.

Enillodd yr un gamp yn 2004, a chipiodd eisoes eleni bedair gwobr gyntaf a dwy ail gyda modelau llai.

Ar wahân i'r gallu i ddeall cynlluniau a medr i drin llafnau miniog yn hylaw, y cymhwyster hanfodol arall i wneud modelau yw amynedd - peth mwdredd o amynedd!

Mae yn y model mawr o'r Scammell filoedd ar filoedd o ddarnau, y cyfan wedi eu torri o blyg o blastig, ac fe gymerodd, yn fras, tua blwyddyn a hanner i Ian i roi'r cwbl wrth ei gilydd.

Bu ef yn hoff o wneud modelau er pan oedd yn blentyn.

Ei hoff bynciau yn yr ysgol ym Mhwllheli oedd gwaith coed a dylunio technegol ac yn syth o'r ysgol cafodd le i'w brentisio'n ffitar efo'r Bwrdd Dŵr.

Yn ogystal a llunio modelau y mae wrth ei fodd hefyd yn gwneud giatiau a rheiliau ac addurniadau haearn o bob math.

Rhyw wyth mlynedd yn ôl yr aeth ati o ddifri i gystadlu â'r modelau gan ennill rhesi o wobrau mewn sioeau yn Huddersfield, Crewe, Stoke-on- Trent a Hinkley yn ogystal , sioe Gaydon sy'n gyfyngedig i fodelau o dryciau yn unig.

Yn ddiweddar y mae Ian yn canolbwyntio. mwy ar wneud modelau bychain gan brynu'r darnau, eu haddasu ac ychwanegu atynt.

Mae ganddo bedair-ar-ddeg o loriau ar y gweill ar y funud.

Mantais modelau bychain yw y gall eu gwneud yn y tÅ· yng nghwmni Ann, y wraig sy'n weinyddes yn Ysbyty Gwynedd, a Mari y ferch flwydd oed. Gwrando ar y teledu y bydd Iau a gofyn i Ann beth sy'n digwydd!

Yn ddiweddar mae wedi dechrau ysgrifennu erthyglau ar y grefft o wneud modelau i gylchgronau arbenigol ac mae'n mwynhau gwneud hynny hefyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý