Er bod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers y ffrwydriad yn Atomfa Niwclear Chernobyl, mae'r plant yma'n dal i deimlo effaith y ddamwain erchyll. Yn ôl Tamara Zosimova -cyfieithydd ac arweinydd y grŵp - mae pob babi sy'n cael ei eni yn Lipin (pentref genedigol y plant) yn dioddef o furmur y galon, ac erbyn iddynt gyrraedd eu harddegau mae nifer helaeth ohonynt yn dioddef o lewcemia a mathau eraill o gancr y gwaed.
Pentref anghysbell, rhyw 350 milltir o Chernobyl yw Lipin ac mae yno un ysgol ar gyfer 140 o ddisgyblion. Bydd y plant yn mynychu'r ysgol hon o pan fyddant yn 6 mlwydd oed hyd nes byddant yn 17. Ychydig iawn o arian y mae ysgolion Belarus yn ei dderbyn gan Lywodraeth y wlad ac yn sgîl hyn, prin iawn yw'r adnoddau. Dibynna'r plant ar haelioni'r pentrefwyr ac elusennau tramor i gyflenwi pethau mor elfennol â phensiliau, papurau a sialc. Gan nad oes yna ddŵr yn yr ysgol, twll yn y ddaear yw'r toiled.
Bydd y gwersi'n dechrau am 8 y bore tan 2 y prynhawn, pan fydd criw arall o ddisgyblion yn cyrraedd i dderbyn gwersi tan 8 yr hwyr. Dilynir rhaglen waith ddwys gyda'r plant yn cael eu trwytho mewn Mathemateg, Rwsieg a Belarwsieg, ymysg pynciau eraill.
"Bywydau difreintiedig iawn sydd gan y plant yma" meddai Tamara, sy'n athrawes ei hun. " 'Does ganddyn nhw ddim tapiau yn eu tai, felly pan fydd eu rhieni yn nol dŵr o'r pwmp yng nghanol y pentref yn y gaeaf, mae cynnwys eu bwcedi wedi rhewi'n gorn erbyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl i'w tai."
Ychwanegodd Tamara, "Mae lefel diweithdra'n uchel iawn yn Belarus, gyda mamau'r plant yn aros gartref a'r rhan fwyaf o'r tadau yn gweithio am gyflog isel iawn ar y ffermydd cyfalafol. Ond mae'r. plant hefyd yn gorfod gweithio'n galed - yn tyfu llysiau a ffrwythau ar gyfer y cartref. Tatws, bresych a moron yw'r diet mwyaf cyffredin, gyda'r llysiau hyn wedi eu meithrin mewn pridd ymbelydrol".
Terry a Menna McDaid o Waunfawr a drefnodd yr ymweliad ag Ysgol Llangybi. Sefydlasant gangen o'r elusen 'Chernobyl Children Life Line' yn ardal Caernarfon bedair blynedd yn ôl ac ers hynny bu'r ddau'n gweithio'n ddyfal i drefnu gweithgareddau codi arian er mwyn croesawu criwiau bychain o blant sy'n dioddef o ôl-effeithiau'r drychineb i Gymru am fis o wyliau ymarferol yn flynyddol.
"Mae'r plant yma'n bwyta, yfed ac anadlu ymbelydredd bob dydd o'u hoes", meddai Terry a Menna, "ac, yn syfrdanol, mae treulio mis ymhell o amgylchedd niweidiol Chernobyl yn ychwanegu dwy flynedd at eu heinioes". Tra'n lletya gyda gwahanol deuluoedd yn lleol, bydd mwyafrif y plant a ddaw ar ymweliad misol yn tyfu: rhwng 2 a 3 modfedd yn ystod eu harhosiad, yn ogystal â gweld optegydd a deintydd am y tro cyntaf yn ystod eu hoes.
Cyflwynodd yr ymwelwyr o Belarus anrhegion bychain i ddisgyblion Ysgol Llangybi - pib, botymau a thlysau
pren wedi eu paentio'n gelfydd â llaw, a derbyniasant hwythau fag ysgol, organ geg a phensiliau lliw bob un.