³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Cristian ac Esyllt yn priodi Priodas ym Mhatagonia
Mai 2006
Ffrog sidan laes, tusw o rosod coch, dwy fodrwy aur, tair teisen ffrwythau, dillad isa' o Marks, heb sôn am yr holl drugareddau sydd eu hangen ar fabi tri mis oed.
Faint o bwysa' mae Air France yn ei ganiatau 'dwch?

Dim ond Esyllt fyddai'n teithio mor bell i ffendio gŵr! Wrth baratoi at ein siwrne i briodas fy chwaer 'ro'n i'n amau y byddem ninnau hefyd angen llong i gario'r holl bethau i'r Wladfa.

Tydi Sbaeneg Esyllt ddim cweit digon da eto i egluro i wniadwraig yn y Gaiman sut i bwytho sidan yn union fel yr oedd hi'n dymuno. Felly 'roedd hi wedi gofyn i Megan Williams Trefor greu gwisg iddi. Os oedd mam wedi coginio teisen briodas i mi, roedd yn rhaid cael gwneud un (wel tair a bod yn gywir) i Esyllt bach hefyd. Felly 'roedd 'na dipyn o bethau, a phwysau, i'w cario i'r Ariannin.

Bu ond y dim i un o'r teisennau fethu cyrraedd pen y daith. 'Doedd y gweithwyr ym maes awyr Buenos Aires ddim yn deall beth oedd y lwmpyn mawr du oedd yn ymddangos wrth i fag llaw mam fynd drwy'r peiriant sganio. Mae'n siŵr eu bod yn meddwl ei bod yn hanner call wrth iddynt agor y bag a gweld bod mam wedi stwffio'r deisen i mewn i'w het er mwyn ceisio cadw siâp y ddwy!

Er fod y briodas ar ochr arall y byd roedd trefn y diwrnod yn debyg iawn i briodas yma, dyna oedd Esyllt a Cristian yn ei ddymuno. Y gwahaniaeth mwyaf ddywedwn i oedd fod yr achlysur yn un llawer llai ffurfiol na phriodas yr oes hon yng Nghymru. Roedd capel bach Bryn Crwn, Dyffryn Camwy yn orlawn a chymuned Gymraeg y Gaiman i gyd yno yn rhan o'r diwrnod hapus.

Adeiladwyd y capel ym 1896 ond dim ond tair priodas gynhaliwyd yno cyn hyn. Cafwyd canu bendigedig, Cor Ysgol Gerdd y Gaiman yn canu'r fendith a Billy Hughes, un o gymeriadau'r Gaiman, yn canu unawd gyda Hector MacDonald yn cyfeilio. Wedi'r gwasanaeth bu pawb yn sgwrsio â'r naill a'r llall am oesoedd tu allan i'r capel, heb rhyw ddyn camera yn torri ar draws ac yn gorchymyn hwn a'r llall i sefyll yn ei le priodol!

Mae ein teulu newydd ni, y Lewisiaid, yn deulu mawr a chawsom eu cwmni difyr yn y wledd briodas yn Neuadd Ysgol Uwchradd Bethesda. Bydd y rhai fu ar drip Cwmni Drama Llwyndyrys i Batagonia y llynedd yn cofio'r 'asado' (math o farbeciw) gawsant yn fferm 'Bod Iwan', a'r teulu hwnnw fu'n paratoi'r wledd briodas i ni, digonedd o gig fel y byddai rhywun yn disgwyl!

Wrth i ni sefyll yn gwylio'r haul yn machlud yn ogoneddus dros y dyffryn gwyrdd, a cherbydau pawb yn diflannu i lawr y lôn lychlyd ddi ben draw, fedrwn i rywsut ddim credu fy mod yno. Fod gen i frawd newydd annwyl, sy'n siarad Cymraeg cystal a chi a fi, a theulu newydd na fu yma erioed. 'Sgwn i beth fyddai Nain Ffôr yn ei ddweud petai hi'n gwybod fod ei dwy or-wyres - Lleucu yn ddwy oed ac Anest yn dri mis oed - wedi teithio mor bell i briodas Anti Esyllt ym 'Mhatagonia.

Fflur

Dyma ddau englyn cyfarch a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac a ddarllenwyd yn y wledd:

O'r hen wlad hyd dy Wladfa di - o LÅ·n
I Drelew, goleuni
Dwy einioes yn arloesi
I greu byd crwn welwn ni.
Myrddin ap Dafydd

Er rhwyg pellterau'r eigion, cof heniaith
sy'n cyfuno dwyfron
Hen, hen briodas yw hon
A Gwalia mewn dwy galon.
Gerallt Lloyd Owen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý