Cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf mai'r golygydd newydd yw Ioan Hughes, 50 oed, o Bencaenewydd sydd 芒 chanddo wyth mlynedd ar hugain o brofiad mewn newyddiadura. Y g诺r arall o Eifionydd, wrth gwrs - ac o Bencaenewydd ac Ysgol Llangybi hefyd - oedd John Roberts Williams a fu'n Olygydd y Cymro o 1946 i 1962. Magwyd loan ar fferm Brychyni, yr ieuengaf o chwech o blant. O Ysgol Dyffryn Nantlle aeth i'r Coleg Normal ond yn lle mynd yn athro ar 么l cwblhau ei gwrs aeth i weithio i'r Herald yng Nghaernarfon a oedd bryd hynny dan olygyddiaeth John Eilian. Treuliodd ddeng mlynedd efo'r Herald cyn ymuno 芒'r Cambrian News i ofalu am newyddion ardal Dwyfor i'r papur hwnnw a chyfrannu ei golofn wythnosol boblogaidd dan y pennawd "Yn Fy Marn I." Ar ei benodiad i'w swydd newydd dywedodd Ioan: "Mi wn fod llawer o waith i'w wneud ond rwy'n edrych ymlaen i wynebu'r her. Un peth sy'n apelio'n fawr yw y caf r诺an ysgrifennu popeth yn Gymraeg." Y mae Ioan yn briod ag Owenna, athrawes, merch o Nantlle a gyfarfu gyntaf yn yr ysgol, ac mae iddynt dri o blant - Meilir, myfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion, Lleucu, myfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a He1edd, disgybl yn Ysgol Glan-y-M么r. Y mae Ioan ac Owenna yn aelodau o Orsedd y Beirdd ers Prifwyl Bro Dwyfor yn 1975 - y naill yn Adran Ll锚n a'r llall yn Adran Cerdd. Dymunwn bob llwyddiant i Ioan yn olygydd ein papur cenedlaethol.
|