Yn wahanol i lawer o'm ffrindiau, 'roeddwn i'n gwybod yn union be oeddwn i eisiau'i wneud o ran gyrfa, ers pan o'n i'n ifanc iawn. Rydw i wastad wedi bod yn un am ddangos fy hun, boed hynny drwy arddangos fy sgiliau acrobatig ar y ffrâm ddringo o flaen y camera fideo, neu'n syml drwy floeddio'n uwch na'r plant eraill! Efallai gall yr enghreifftiau yma esbonio atyniad, a hudoliaeth y byd perfformio i mi.Yr atgof cynharaf sydd gennyf o berfformio, yw o fod yn saith oed, ac yn ddisgybl yn Ysgol Treferthyr yng Nghricieth. Penderfynais gasglu llond llaw o blantos parod (ffrindiau fy mrawd yn bennaf), gyda'r bwriad o gynhyrchu drama i'w pherfformio o flaen gweddill yr ysgol. Penodais fy hun yn ddramodydd, yn gyfarwyddwr ac yn actor, ac yna dechrau ar y gwaith.
Ymhen 'chydig wythnosau, pan oedd y campwaith yn barod, caniataodd y prifathro i bawb ddod i'w weld, a phawb yn talu 10c! Wrth gwrs, roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol!
Fel plentyn, 'roeddwn hefyd yn mwynhau cystadlu mewn Eisteddfodau. Yn flynyddol, byddai Eisteddfod Cricieth yn cynnig tarian i'r sawl oedd wedi ennill y mwya' o bwyntiau, wrth roi tro ar y cystadlaethau. Pan yn 11, wedi rhoi fy mryd arni ers blynyddoedd, enillais y darian (ond rhaid ychwanegu nad am dalent oedd hynny, ond yn hytrach am imi drio pob cystadleuaeth bosib).
Parhaodd fy niddordeb ym myd y perfformio wrth imi fynychu Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, Coleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, ac ymlaen wedyn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, i astudio am radd mewn actio. Yno cefais gyfle i ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar actio, gan astudio pob agwedd o'r grefft gan gynnwys gwersi llais, canu a dawns. Credaf i'r cyfnod yma a dreuliais yn y coleg fod o fudd mawr imi, ac yn sail bendant ar gyfer gyrfa yn y maes. Mwynheais pob eiliad o fy amser yno.
Daeth fy nghyfle cyntaf o swydd broffesiynol tra yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg, wrth gael cynnig rhan y cymeriad 'Lisa' mewn addasiad o'r nofel Y 'Stafell Ddirgel', ar gyfer y teledu. Gan y coleg oedd y gair olaf parthed derbyn gwaith proffesiynol a'i peidio, a phe cymerwn y swydd, golygai golli fy mhedwar mis olaf yn y coleg.
'Roedd pob actor yn cael wig newydd sbon danlli wedi'i greu yn arbennig iddynt, er mwyn sicrhau ffit perffaith, a chredadwy. Golygai hyn eistedd mewn cadair, tra'n cael cling ffilm wedi'i lapio rownd fy mhen, er mwyn creu cap, a chael mowld perffaith o mhen! Profiad newydd a dweud y lleia'. Ymlaen wedyn i 'stordy dillad "Angels" - cwmni sy'n llogi dillad o bob cyfnod, ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu. Yma roedd rhaid dadwisgo, a gwario oriau yn trio staes ar ôl staes, sgert ar ôl siaced, er mwyn adeiladu casgliad o ddillad i'r cymeriad.'Roedd cychwyn ar y gwaith ffilmio fel cymeryd naid i'r tywyllwch. Roedd rhaid dysgu'r dechneg o actio ar gyfer y sgrin, o'r newydd, ac roedd hyn yn anodd ar brydiau, gan iddo fynd yn erbyn yr hyn a ddysgais yn y theatr. Yn aml, atgoffwyd fi nad oedd rhaid gweiddi, gan bod y microffon yno i'm helpu, ac nad oedd angen tynnu ystumiau, gan fod y camera, ac felly'r gynulleidfa, yn agos iawn ataf, ond buan iawn mae rhywun yn addasu.
Wedi graddio, mi es i weithio i'r siop - Gwalia Stores hynny yw! 9 tan 9 oedd y gyfres, a Iona Huws oedd y cymeriad - merch annwyl iawn, ond dim llawn llathen! A dweud y gwir, cyhuddiad cyson gan aelodau eraill o'r cast oedd nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngof fi a Iona! Efallai mai cadarnhau y cyhuddiad wnaiff y ffaith nad oedd angen trip i Lundain er mwyn chwarae Iona, ond yn hytrach, dim ond gwisgo pâr o drowsus diddorol a/neu gyffyrddus, a sbectol las, i gyflawni'r trawsnewidiad! Mater o farn yw hyn wrth gwrs, ond beth sydd yn sicr yw'r ffaith imi fwynhau'r gweithio ar y rhaglen yn fawr iawn.
'Roedd yr ymateb a gawsom i'r gyfres yn galonogol iawn, ac mae'r ffaith imi glywed y dywediad "Ffor Fish Cêcs!" yn cael ei ailadrodd yn aml gan aelodau o'r cyhoedd, yn brawf o'i phoblogrwydd! Cyngor a gynigir i actorion ifanc yn aml iawn yw i beidio a gweithio gyda phlant nac anifeiliaid. Wrth gymryd rhan yn y gyfres Tipyn o Stad anwybyddais y ddau.
Rhoddodd Tipyn o Stad y cyfle imi weithio ar brosiect mwy hir dymor, ac yn sgîl hynny y cyfle i fynd o dan groen cymeriad. Sialens oedd portreadu Susan, gan ei bod mor wahanol i mi (gwaith trip neu ddau at y cynllunydd gwallt yng Nghaer, gyda llaw, ydi'r gwahaniaethgweledol sydd rhyngom, sef y sdrîcs gola' yn fy ngwallt).
Er ei phroblemau diddiwedd, y strach a'r helbul sy'n ei dilyn byth a beunydd, ac er y byddaf yn aml yn gadael fy ngwaith wedi llwyr ymladd, cymeriad annwyl iawn yw Susan yn y bôn, ac mae'n bleser ei phortreadu.
Teimlaf yn ffodus ac yn ddiolchgar iawn mod i'n gallu ennill fy mara menyn mewn ffordd sy'n dod â chymaint o foddhad imi. Yr unig beth allai obeithio amdano at y dyfodol yw digon o waith!