³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Osian, Lawrence a Isetyn Chwilog, Paris a Suriname
Ionawr 2006
Go brin y gallai llawer o drigolion Eifionydd, ddweud yn union ymhle yn y byd y mae Gweriniaeth Suriname ...
... ond o fis Mawrth ymlaen gŵr ifanc o Chwilog fydd yn gyfrifol am lawer o'r penderfyniadau fydd yn cael eu gwneud ynglŷn ag economi, gweinyddiaeth ac amgylchedd y wlad honno.

Ar hyn o bryd y mae Osian Jones, Islwyn, Chwilog, mab ieuengaf Elwyn a Maureen Jones, Pandy Garage gynt, yn gweithio ym Mharis fel Is-reolwr Financement Aide et Action. Gwaith y mudiad hwn yw gwella amgylchiadau pobl yn y Trydydd Byd trwy ddechrau a chynnal prosiectau penodol.

Graddio mewn Cynllunio Gwledig a Threfol a wnaeth Osian i ddechrau, cyn mynd ymlaen i wneud Gradd Meistr mewn agweddau o gynllunio ar gyfer y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Llundain. Ar Ynys Nevis yn y Caribî y cafodd ei swydd gyntaf yn sefydlu prosiectau i fudiad Datblygiadau Tramor Prydain. Annog y brodorion i fod yn hunan gynhaliol yn hytrach na dibynnu ar fewnforion o America oedd prif amcan ei waith yno. Symudodd o'r swydd honno i'w swydd bresennol oedd a'r pencadlys ym Mharis. Ymhlith y gwledydd sy'n derbyn cymorth gan yr asiantaeth hon y mae ardaloedd yn Haiti, Affrica, India, Cambodia a Sri Lanka ac yn rhinwedd ei swydd bydd Osian yn ymweld â'r mannau hynny yn aml.

Yn ei swydd newydd yn Suriname, sef gwlad yr arferid ei galw yn Guiana a Dutch Guiana yng Ngogledd De America, bydd Osian yn Rheolwr ar un o Gynlluniau Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (U.N.D.T.). Bydd yn Bennaeth ar y tîm fydd yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y wlad i hybu datblygiad. Er fod Suriname yn wlad gyfoethog o ran adnoddau megis aur, y mae yno hefyd dlodi mawr.

Fel y gallwch ddychmygu yr oedd cryn gystadlu am swydd o'r fath ac o'r pedair mil a geisiodd daeth Osian yn drydydd ar y rhestr. Tipyn o gamp. Y mae'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd hon meddai. Sialens arall fydd o'i flaen fydd dysgu rhywfaint ar yr iaith Iseldireg. Er mai Saesneg yw iaith swyddogol y wlad yr Iseldireg yw'r iaith a siaredir gan y bobl. Ond ddylai hynny ddim peri gormod o anhawster i Osian gan iddo orfod meistroli'r Ffrangeg yn go sydyn pan ddechreuodd weithio ym Mharis. Yn wir y mae ef a Laurence, ei briod ac Iestyn eu mab yn siarad cymysgedd o Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg ar eu haelwyd. Dymunwn pob llwyddiant i Osian a'r teulu a llongyfarchiadau hefyd iddynt ar achlysur eu priodas ddiweddar.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý