³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Dyfan Dwyfor ar y llwyfan Be wyt ti am fod?
Tachwedd 2009
Be wyt ti am fod pan wyt ti 'n fawr? Pêl-droediwr? Peilot? Pregethwr?

Mae gan bawb ohonom freuddwyd mae'n siŵr!

A breuddwyd fydd hi am byth i'r rhan fwyaf ohonom!

Ond weithiau fe ddewch chi ar draws un neu ddau sydd wedi gwireddu'r freuddwyd honno, ac mae Dyfan Dwyfor yn un ohonynt.

Bachgen â'i wreiddiau'n ddwfn yma ym mro Eifionydd fu, y tro diwethaf i ni gyfeirio ato, yn actio ar lwyfan y Gielgud yn Llundain ac sydd, ers blwyddyn bellach, yn aelod o gwmni drama enwog yr RSC yn Stratford!

Mae Dyfan wastad yn hoffi cyfeirio at ei brofiadau cynnar yn ysgolion Treferthyr ac Eifionydd a'i gyfnod yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, a da o beth yw hynny.

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn cael ei dderbyn i fod yn aelod o'r RSC, fodd bynnag, ac mae eleni'n siŵr o fod yn un o uchafbwyntiau ei yrfa.

Yn ystod tymor prysur dros ben bu'n actio rhan William yn As You Like It (cynhyrchiad Michael Boyd); Dromio o Ephasus yn Comedy of Errors (cynhyrchiad Paul Hunter) ac amrywiaeth o gymeriadau yng nghyfieithiad Nina Raine o ddrama bwerus Mikhail a Vyacheslav Dumenkov The Drunks (cynhyrchiad Anthony Neilson).

A'r hyn o bryd mae'r cwmni ar daith yn Newcastle-upon- Tyne ac yna byddant yn dychwelyd i Lundain i ddechrau'r ymarferion ar gyfer y tymor nesaf yn 2010.

Bryd hynny bydd Dyfan yn chwarae rhan Peter yn Romeo and Juliet (cynhyrchiad Rupert Goold); Laertes yn Hamlet (cynhyrchiad fel Comedy of Errors ar gyfer plant a phobol ifanc - Tarell McCraney) a Morte D'Arthur (chwedlau'r brenin Arthur ¬ cynhyrchiad Gregory Doran).

Yn ogystal â chydweithio ag actorion a chynhyrchwyr profiadol dros ben mae Dyfan yn cael cyfle i fwynhau cwmni cyd-Gymry hefyd, yn eu plith, Gruffudd Glyn.

Pwy fyddai'n credu, ynte! Cyfnod cynhyrfus a llawn cyffro heb os. Dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol. Y Ffynnon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý